Mae'r gwiddon yn cael eu trosglwyddo yn ystod genedigaeth ac yn byw ar bron pob bod dynol, gyda mwy ohonynt yn byw yng nghroen oedolion wrth i'r mandyllau dyfu mewn maint. Maent yn mesur tua 0.3mm o hyd, maent i'w cael yn ffoliglau鈥檙 gwallt ar yr wyneb a'r tethau, gan gynnwys y blew'r amrannau, ac maent yn bwyta'r sebwm sy'n cael ei ryddhau'n naturiol gan gelloedd yn y mandyllau. Maent yn bywiogi yn y nos ac yn symud rhwng ffoliglau gyda鈥檙 bwriad o baru.
Canfu鈥檙 astudiaeth gyntaf erioed i ddilyniannu genom gwiddon D. folliculorum bod eu bodolaeth ynysig a'r mewnfridio sy鈥檔 digwydd o ganlyniad i hynny鈥檔 achosi iddynt golli genynnau a chelloedd diangen a symud tuag at drawsnewid o fod yn barasitiaid allanol i fod yn symbiontiaid mewnol.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Reading, ar y cyd 芒 Phrifysgol Valencia, Prifysgol Fiena a Phrifysgol Genedlaethol San Juan. Cyhoeddwyd yr ymchwil yn y cyfnodolyn Molecular Biology and Evolution ().
Mae gwiddon wedi cael y bai am lawer o bethau. Gallai鈥檙 cysylltiad hir 芒 bodau dynol awgrymu y gallai fod ganddynt hefyd rolau buddiol syml ond pwysig, er enghraifft, wrth gadw鈥檙 mandyllau yn ein hwyneb yn agored.
Gwiddon Demodex folliculorum
Dywedodd Dr Alejandra Perotti, Athro Cysylltiol mewn Bioleg Infertebratau ym Mhrifysgol Reading, cyd-arweinydd yr ymchwil: 鈥淔e wnaethon ni ddarganfod bod gan y gwiddon hyn drefniant gwahanol o ran genynnau rhannau鈥檙 corff o gymharu 芒 rhywogaethau tebyg oherwydd eu bod yn addasu i fywyd cysgodol y tu mewn i fandyllau. Mae鈥檙 newidiadau hyn i鈥檞 DNA wedi arwain at nodweddion ac ymddygiad anarferol.鈥
Datgelodd yr astudiaeth fanwl o DNA y Demodex folliculorum, oherwydd eu bodolaeth ynysig, heb unrhyw amlygiad i fygythiadau allanol, dim cystadleuaeth o ran lletywyr a dim cyfarfyddiadau 芒 gwiddon eraill 芒 genynnau gwahanol, fod gostyngiad genetig wedi achosi iddynt ddod yn organebau hynod syml gyda choesau bach a symudir gan gyhyrau a chanddynt ddim ond 3 cell. Maent yn goroesi gyda'r repertoire lleiaf posibl o broteinau - y nifer isaf a welwyd erioed yn y rhywogaeth hon ac mewn rhywogaethau cysylltiedig.
Y gostyngiad genetig hwn yw'r rheswm am eu hymddygiad yn y nos hefyd. Nid oes gan y gwiddon ffordd o amddiffyn eu hunain rhag golau uwch fioled ac maent wedi colli'r genyn sy'n achosi i anifeiliaid gael eu deffro gan olau dydd. Nid ydynt chwaith yn gallu cynhyrchu melatonin - cyfansoddyn sy'n gwneud i infertebratau bach fod yn weithgar yn y nos - fodd bynnag, i roi egni i鈥檞 paru yn ystod y nos, maent yn defnyddio'r melatonin sy'n cael ei secretu gan groen dynol wrth iddi nosi.
Eu trefniant unigryw o enynnau sydd hefyd yn arwain at arferion paru anarferol y gwiddon. Mae eu horganau atgenhedlu wedi symud tua鈥檙 blaen, ac mae gan wrywod bidyn sy'n ymwthio i fyny o flaen eu corff sy'n golygu bod yn rhaid iddynt leoli eu hunain o dan y fenyw wrth baru, a chyplu wrth afael yn dynn wrth y gwallt dynol.
Dysgwyd hefyd fod un o'u genynnau wedi gwrthdroi, gan olygu fod ganddynt atodiadau i鈥檙 geg sy鈥檔 ymwthio allan er mwyn casglu bwyd. Mae hyn yn eu cynorthwyo i oroesi pan f么nt yn ifanc.
Mae gan y gwiddon lawer mwy o gelloedd pan f么nt yn ifanc o gymharu 芒 phan f么nt yn oedolion. Mae hyn yn groes i鈥檙 dybiaeth flaenorol bod anifeiliaid parasitig yn lleihau nifer eu celloedd yn gynnar yn eu datblygiad. Mae'r ymchwilwyr yn dadlau mai dyma'r cam cyntaf yn natblygiad gwiddon fel symbiontiaid.
Canfu'r ymchwilwyr y gallai'r diffyg cysylltiad 芒 chymheiriaid a allai ychwanegu genynnau newydd i鈥檞 hepil fod wedi rhoi'r gwiddon ar drywydd diwedd esblygiadol, a'r posibilrwydd o ddifodiant. Mae hyn wedi'i arsylwi mewn bacteria sy'n byw y tu mewn i gelloedd o'r blaen, ond erioed mewn anifail.
Ac yn olaf, roedd rhai ymchwilwyr wedi tybio nad oes gan widdon anws a鈥檜 bod felly yn cronni eu holl ysgarthion trwy gydol eu hoes cyn ei ryddhau pan fyddant yn marw, gan achosi llid y croen. Cadarnhaodd yr astudiaeth newydd, fodd bynnag, fod ganddynt anws ac felly eu bod wedi cael eu beio'n annheg am lawer o gyflyrau鈥檙 croen.