Medru a'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol yn cyflwyno cwrs XRealiti yn Airbus
Mae tîm Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol Prifysgol Bangor, yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y Brifysgol, wedi cyflwyno cwrs sgiliau newydd i weithwyr Airbus, fel rhan o Raglen Medru newydd y Brifysgol.
Ffatri sgiliau yw Medru, partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, sy’n cynnig sylfaen datblygu sgiliau i fusnesau lleol yn nisgyblaethau STEM ac, yn y cam cyntaf, yn benodol o amgylch .
Cyflwynodd Dr Panagiotis Ritsos aDr Peter Butcher o Labordy Amgylcheddau Trochol y Brifysgol, gwrs ar XRealiti i dîm datblygu a chynhyrchu sydd gyda’r gorau yn y byd yn Airbus, y cwmni awyrennaeth a gofod mwyaf yn Ewrop, yn ei safle ym Mrychdyn, sir Fflint. Mae'r cwrs hwn yn un o weithgareddau Coleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, rhan o'r Ganolfan Ragoriaeth sy'n darparu cyrsiau hyfforddi a seminarau galwedigaethol, yn ogystal â rhaglenni ôl-radd hyfforddedig, ymchwil, a rhaglenni isradd hyfforddedig.
Cynigiodd y cwrs, a gyflwynwyd dros bedair sesiwn dwy awr, gyflwyniad i Rithrealiti, Realiti Estynedig a Realiti Cymysg (VR, AR, MR - a elwir gyda’i gilydd yn XR), a thrafod rhai o heriau’r paradeimau hyn, ynghyd ag enghreifftiau posib o’u defnydd i’r sector awyrofod. Cyflwynwyd hefyd rai o arddangosiadau Prifysgol Bangor mewn. Cynigir cwrs tebyg at lefel MSc, trwy gyfrwng yr MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, lle gall myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer traethawd hir MSc mewn XR gydag academyddion yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Roedd yn bleser cyflwyno’r cwrs hwn yn Airbus, cwmni sydd wedi bod â diddordeb mawr mewn defnyddio technolegau XR ar gyfer gwahanol gamau o’u gweithrediadau. Mae gan Airbus hanes hir o archwilio i'r defnydd o Realiti Estynedig, yn arbennig. Gyda’r diddordeb presennol mewn cysyniadau fel Gefeilliaid Digidol ar gyfer hyfforddi ac efelychu, rydym yn hyderus bod y cwrs wedi darparu sylfaen gref yn tanategu’r cymwysiadau hyn.
Roedd y cyfranogwyr yn awyddus i ofyn cwestiynau diddorol iawn, a chawsom gyfle i egluro sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI), rhwydweithiau’r dyfodol megis 5G, a datblygiadau diweddar mewn rhyngwynebau rhyngweithio dynol-gyfrifiadurol hwyluso twf pellach mewn defnyddio XR ym maes awyrofod. Roedd yn bleser cyflwyno’r cwrs hwn, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at y tro nesaf!
Cawsom gyfle i arddangos rhai o’n prototeipiau blaengar a adeiladwyd gan ddefnyddio XR ar y We, trwy arddangosiadau amser real gyda Realiti Cymysg HoloLens 2 Microsoft a’n fframwaith Dadansoddeg Drochol, . Yn ogystal, cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddatblygu prototeipiau sylfaenol, gan ddefnyddio blwch tywod ar-lein a fframweithiau Gwe a . Roedd yn gyffrous gweld pobl yn dod i ddeall y gweithgareddau hyn ac yn datblygu rhywbeth mewn sesiwn sengl, gyda chymorth uniongyrchedd y We.
Dywedodd Dr Daniel Roberts, Swyddog Cyswllt yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ar gyfer Medru, “Mae Medru yn cynnig cyfle gwych i weithio gyda busnes i lenwi bylchau sgiliau mewn diwydiant, a hynny ar ystod o wahanol lefelau. Mae dysgwyr sy'n cymryd rhan yng nghyrsiau Medru yn paratoi ar gyfer Ffatrïoedd Clyfar y dyfodol, ac mae XR wedi cael ei nodi fel maes sydd o ddiddordeb gan Airbus i’w ddatblygu. Trwy arddangosiadau amser real, cafodd dysgwyr o Airbus gyfle i weld sut y gallai technolegau XR, fel HoloLens 2 Microsoft, wella'r amgylchedd gwaith a sut y gallai defnyddio technolegau o'r fath gynorthwyo â phrosesau gweithgynhyrchu.”
Ychwanegodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig “Mae’n wych gweld y buddion y mae staff yr ysgol yn eu cyflwyno i ddiwydiant trwy Goleg y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol a Medru.”
Dywedodd Yr Athro Jianming Tang, Cyfarwyddwr y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol: “Mae’r cwrs yn ddechrau rhagorol i gyfres cyrsiau hyfforddi’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Trwy lawn ddefnyddio arbenigedd y Ganolfan, sydd gyda’r gorau yn y byd mewn prosesu signalau digidol, arloesi technegol blaengar a chyfleusterau arbrofol unigryw, mae'r Ganolfan yn gweithio'n galed i ddarparu mwy o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol agos i roi gwell gwasanaeth byth i’r gymuned”.
Fel un o weithwyr Airbus roedd y cwrs yn werthfawr iawn. Ymdriniwyd â’r pynciau mewn ffordd a oedd yn addas i bawb, beth bynnag eu cefndir/gwybodaeth flaenorol o XR, gydag elfennau rhyngweithiol hefyd.