Tra bod llawer o bobl, o Gaerdydd i Gaernarfon, wedi mwynhau’r coroni gyda phartïon stryd, dod ynghyd i wylio’r teledu a phrynu mygiau i gofio’r achlysur, aeth ymatebion i’r digwyddiad y tu hwnt i’r delweddau poblogaidd hynny.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn , mae Dr Mari Wiliam, darlithydd hanes modern, yn trafod y coroni yng Nghymru a sut daeth â gwahanol agweddau ar hunaniaeth Gymreig i’r amlwg, yn genedlaethol ac yn lleol.
Er enghraifft, ar lefel genedlaethol, croesawodd Y Cymro, papur newydd Cymraeg, y coroni ar ei glawr fel digwyddiad Cymreig drwy gynnwys dwy ddelwedd fawr ochr yn ochr: un o’r frenhines ac un arall o ddau ddawnsiwr gwerin yn Eisteddfod yr Urdd. Ysgrifennodd yr eicon o genedlaetholwr Saunders Lewis “Nid yw coroni brenhines yn bechod”, a chroesawodd weld y Ddraig Goch a Jac yr Undeb yn chwifio gyda’i gilydd ar draws de Cymru.
Ond i Fudiad Gweriniaethol Cymru, roedd y coroni’n “codi cyfog” ac o ddiddordeb i “grafwyr o Gymry” yn unig. Polisi Plaid Cymru oedd “cadw’n dawel” (“tewi â sôn”) am y coroni gan y gallai beri rhwyg rhwng aelodau’r blaid.
Meddai Dr Wiliam, “Wrth edrych yn ôl ar y coroni, gallwn weld sut mae’n datgelu cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig. Yn fy ymchwil, cafodd fy chwilfrydedd ei ennyn gan ymatebion lleol i’r coroni, a chanolbwyntiais ar sut y gwnaeth pobl mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Cymru nodi’r achlysur. Roedd y canfyddiadau’n peri syndod weithiau.
“Yn nhref glan y môr y Rhyl, lle roeddwn yn disgwyl y byddai llawer o frwdfrydedd am y coroni er mwyn apelio at dwristiaid, roedd cwynion bod pobl yn ddifater, ac roedd y wasg yn feirniadol nad oedd y dref wedi gwneud sbloet digon mawr i ddathlu’r coroni.
“Yn y cyfamser, yn Llansannan ger Mynydd Hiraethog, pentref gwledig Cymraeg ei iaith, nodwyd y coroni gyda digwyddiadau Cymreig traddodiadol megis noson lawen, cerddoriaeth werin Gymreig a chanu’r delyn, ond hefyd dawnsio Morris, gorymdaith brenhines leol y coroni a chanu God Save the Queen.
“Mae hyn yn dangos i ni y gall edrych ar ddigwyddiadau mawr fel y coroni a’r jiwbilî platinwm, yn enwedig o ran dathliadau cymunedol, ddweud llawer wrthym am y gymdeithas Gymraeg ac am hanes. Ym 1953, roedd cymysgedd o frwdfrydedd, difaterwch a thipyn o elyniaeth yng Nghymru, ac mae’n ddiddorol gweld y tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn y dadleuon presennol ynglŷn â’r jiwbilî yn 2022.”