Mae , cynllun dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn lansio yn Y Senedd heddiw (26 Mai 2022) mewn digwyddiad a noddir gan Llyr Gruffydd AS ac yng nghwmni’r cyflwynydd radio a theledu Trystan Ellis-Morris.
Fe wnaeth partneriaid cynllun adnabod bod prinder adnoddau penodol i fyfyrwyr ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg, a olygai nad oedd y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal. O ganlyniad, denwyd nawdd gan Gyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru (CCAUC) i greu gwefan, ap cyfrwng Cymraeg i gefnogi myfyrwyr gyda chamddefnyddio sylweddau mewn partneriaeth gyda Helping Groups to Grow Developments Ltd, cyfres o bum podlediad o’r enw Sgwrs?, a sefydlu rhwydwaith o therapyddion Cymraeg eu hiaith sydd yn cefnogi myfyrwyr colegau addysg bellach ac uwch ar draws Cymru.
Arweinir y cynllun gan Brifysgol Bangor a dywed Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor, fod yr adnoddau yn rhoi sylfaen gref i ymestyn allan i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac i’w hannog i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl a lles yn eu mam iaith.
ѱ岹,
“Beth sydd yn gwneud myf.cymru yn unigryw yw bod myfyrwyr wedi cymryd rhan yn natblygiad yr adnoddau bob cam o’r ffordd, ac wedi cyfrannu cynnwys gwreiddiol eu hunain yn ogystal. Trwy gael myfyrwyr yn perchnogi’r adnoddau ac yn cymryd rhan, gobeithio y bydd mwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith eisiau cyfranogi, rhannu eu profiadau, a thrafod yn agored faterion yn ymwneud â iechyd meddwl a lles.”
Meddai Mabon Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor,
“Mae iechyd meddwl a lles myfyrwyr wedi derbyn sylw sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac mae UCM Cymru yn galw am strategaeth hirdymor i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr ôl-16. Os caiff strategaeth hir-dymor ei llunio, dylid sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg cytbwys ar gael i fyfyrwyr ledled Cymru.”
Trystan Ellis-Morris yw cyflwynydd cyfres podlediad Sgwrs? sydd yn trin a thrafod amrediad eang o bynciau sydd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr gan gynnwys delwedd y corff, profiadau o ddod allan yn LHDTC+, ac addasu i fywyd prifysgol wedi’r cyfnodau clo. Yn cadw cwmni i Trystan mae myfyrwyr o bob rhan o Gymru, y cwnselydd Endaf Evans o Brifysgol Bangor, ac wynebau cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg a’r cyfryngau cymdeithasol megis Jess Davies, Mari Gwenllian (H.I.W.T.I.), Ellis Lloyd-Jones, Ifan Pritchard o’r band Gwilym, Non Parry a Tara Bethan.
Dywed Trystan ei fod yn gobeithio y gwnaiff gwrando ar y podlediadau annog mwy o sgwrsio agored am faterion iechyd meddwl a lles gan fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
ѱ岹,
“Mae wedi bod yn fraint cael gwrando ar y myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan. Nid yw’n beth hawdd siarad yn gyhoeddus am eich teimladau, na sut beth ydy byw gyda chyflyrau iechyd meddwl o ddydd i ddydd. Mae pob un ohonynt wir yn ysbrydoledig a dw i’n mawr obeithio y gwnaiff y podlediadau sbarduno mwy o drafod ymysg myfyrwyr.”
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, sydd wedi siarad yn gyhoeddus am ei heriau iechyd meddwl ei hun yn y gorffennol, fod rhaid i faterion iechyd meddwl a lles fod yn fwy o flaenoriaeth i wneuthurwyr polisi a chymdeithas yn ehangach.
“Rwy’n falch o gefnogi cynllun myf.cymru a’r gwaith sydd wedi ei gyflawni hyd yma, yn enwedig wrth sicrhau bod cyfranogiad myfyrwyr yn greiddiol er mwyn sicrhau perthnasedd yr adnoddau. Mae’r ymchwil yn dangos bod myfyrwyr gyda risg uwch o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl wrth gychwyn yn y coleg neu’r brifysgol, felly mae’n holl bwysig bod adnoddau a gwasanaethau ar gael i fyfyrwyr Cymraeg yn eu mam iaith a sicrhau llais myfyrwyr wrth ddatblygu gwasanaethau.
Lluniau o'r lansiad
Rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch materion yn ymwneud â iechyd meddwl ac rwy’n grediniol fod diogelu iechyd meddwl a lles myfyrwyr trwy atal ac ymyrraeth gynnar yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial ac yn manteisio’n llawn ar brofiadau academaidd a chymdeithasol.”
Mae’r adnoddau ar gael trwy ymweld a:www.myf.cymrua gellir gael mynediad i’r ap trwy Google Play: a'r Apple app store: https://apps.apple.com/gb/app/moving-on-app/id1616191176
Bydd ail bennod pod-ddarllediad Sgwrs? ar gael o 12:00 ar 26 Mai 2022 ac mae ar gael ar:,acAudible