Mae Bangor yn cynnal hyfforddiant AI ar gyfer myfyrwyr PhD
Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddigwyddiad hyfforddi deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura uwch rhwng 5 a 7 Ebrill 2022.
Trefnwyd y digwyddiad am Ddeallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) ar gyfer myfyrwyr PhD blwyddyn gyntaf yn y ganolfan hyfforddiant doethurol PhD a ariennir gan UKRI. Cynhaliwyd y digwyddiad tri diwrnod yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor gan ganolbwyntio ar gyflwyno data a chod yn gyhoeddus.听
Mae AIMLAC yn cefnogi cyfleoedd PhD 4 blynedd wedi鈥檜 hariannu鈥檔 llawn ar draws meysydd eang ffiseg ronynnol a seryddiaeth, biolegol ac iechyd, a gwyddorau mathemategol a chyfrifiadurol. Mae鈥檙 ganolfan AIMLAC yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
听
Myfyrwyr PhD yn y digwyddiad hyfforddi
Dywedodd yr Athro Jonathan Roberts(arweinydd AIMLAC Bangor) 鈥淩oedd yn fraint cael croesawu鈥檙 myfyrwyr PhD hyn, a ddaeth o bob un o鈥檙 prifysgolion partner. Yng nghanolfan hyfforddiant doethurol AIMLAC, rydym yn cynnal nifer o sesiynau hyfforddi ar gyfer y myfyrwyr, ac maent yn dysgu am amrywiaeth o bynciau cysylltiedig. Roedd y digwyddiad hyfforddi hwn yn canolbwyntio ar gyhoeddi data a chod. Roedd yn wych cynnal y digwyddiad hwn wyneb yn wyneb, wrth ei ffrydio'n fyw i'r rhai a oedd yn ymuno o bell. Arweiniwyd llawer o'r rhaglen dechnegol gan y Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil o .
Aeth yr Athro Roberts ymlaen i ddweud, 鈥Er bod y digwyddiadau hyn yn caniat谩u i fyfyrwyr ddysgu, maent hefyd yn eu galluogi i sgwrsio 芒 myfyrwyr PhD eraill sydd ar gyfnod tebyg yn eu PhD. Fe wnes i fwynhau鈥檙 digwyddiad cymdeithasol yn benodol.
Cafwyd听prynhawn听hyfryd,听gyda鈥檙 tywydd yn braf,听yn听cerdded听o听amgylch听Bangor,听ar听hyd听y听pier,听ac听i听fyny听Mynydd听Bangor.
Myfyrwyr o ganolfan hyfforddiant doethurol AIMLAC y tu allan i Brifysgol Bangor
Myfyrwyr AIMLAC yn mwynhau'r olygfa o Fynydd Bangor
Mae鈥檙 myfyrwyr yn gweithio tuag at gyflwyno eu hymchwil ar boster ymchwil y byddant yn ei gyflwyno yng nghynhadledd AIMLAC ym mis Mehefin.
Meddai Sam Hennessey (myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf ar raglen AIMLAC, sy鈥檔 ymchwilio i Ensembles of Deep Neural Networks) 鈥淵n ystod digwyddiad AIMLAC rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau gwerthfawr a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa academaidd. Gwnaethom gael hyfforddiant ar gyfer cyhoeddi cod mewn lleoliad proffesiynol ac awtomeiddio ystafelloedd profi ar gyfer integreiddio meddalwedd yn barhaus. Cawsom gyfle hefyd i gyflwyno poster drafft a derbyn adborth i wella cyflwyniad a golwg ein gwaith.鈥
Ychwanegodd Daniel Farmer (myfyriwr PhD blwyddyn gyntaf ar AIMLAC, sy鈥檔 astudio dadansoddeg drochol) 鈥淩oedd digwyddiad AIMLAC Bangor yn llawer o hwyl. Ar ddechrau鈥檙 wythnos, cawsom gyfle i gyflwyno fersiynau cynnar o鈥檔 posteri, i gael adborth a deall beth oedd pob un ohonom wedi bod yn ei wneud ers y digwyddiad diwethaf. Cawsom nifer o ddarlithoedd gan Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil o Uwchgyfrifiadura Cymru ar gyhoeddi cod ochr yn ochr 芒 phapurau, a sut i brofi ac integreiddio cod yn drylwyr. Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad nesaf.鈥
Golygydd: J. C. Roberts
听