Pa mor Ddiogel Ydych Chi? Myfyrdodau gan y Gymuned Diogelwch Systemau
Gan ddathlu dros dri degawd o weithio gyda systemau diogelwch, mae , sy'n Ymchwilydd mewn Ynni Ymasiad ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyd-ysgrifennu llyfr yn ddiweddar o'r enw “30 Years of Safer Systems”. Mae gan Wendy brofiad helaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau sydd wedi eu rheoleiddio’n dynn ac mae’n Gymrawd o'r .
Gan ddathlu dros dri degawd o weithio gyda systemau diogelwch, mae , sy'n Ymchwilydd mewn Ynni Ymasiad ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyd-ysgrifennu llyfr yn ddiweddar o'r enw “30 Years of Safer Systems”. Mae gan Wendy brofiad helaeth mewn amrywiaeth o ddiwydiannau sydd wedi eu rheoleiddio’n dynn ac mae’n Gymrawd o'r .
Cyhoeddir y llyfr gan y , cymdeithas broffesiynol ar gyfer peirianwyr, rheolwyr ac academyddion ym maes diogelwch systemau ar draws pob sector diwydiant. Dywed Wendy fod y llyfr wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn ac mae’n ei ddisgrifio fel “llyfr bwrdd coffi y gall ymarferwyr diogelwch a pheirianwyr eraill bori drwyddo fel y mynnent yn hawdd”. Mae'r cynnwys o ddiddordeb i unrhyw un sy'n ceisio cael cipolwg ar sut mae damweiniau diwydiannol mawr yn cael eu hatal.
Llun: Clawr blaen y llyfr: 30 Years of Safer Systems
Ym mis Chwefror, rhoddodd Wendy araith yng nghynhadledd flynyddol SCSC am ddatblygiad y llyfr; cymerodd y pum awdur flwyddyn i'w ysgrifennu, mae'n rhychwantu dros 300 o dudalennau ac mae'n cynnwys 46 o erthyglau o newyddlenni'r SCSC. Mae’r erthyglau’n cynnig ymdriniaeth eang a hanesyddol o bynciau diogelwch ac yn rhoi cipolwg unigryw ar beirianneg diogelwch dros y tri degawd diwethaf, ochr yn ochr â gwelliannau cadarnhaol mewn diogelwch dros y cyfnod. Mae’r erthyglau wedi’u grwpio yn themâu, ac mae digwyddiadau nodedig o’r flwyddyn y cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol yn cael eu harddangos, gan gynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau a fu yn y newyddion, o 10 mlynedd ers Chernobyl i ddigwyddiad twnnel rheilffordd Salisbury, a ddigwyddodd ychydig cyn cyhoeddi’r llyfr. Mae'r rhan fwyaf o awduron gwreiddiol yr erthyglau wedi darparu ôl-nodyn byr i'w herthygl i roi cyd-destun ychwanegol ac egluro cynnydd yn y blynyddoedd ers hynny.
Dywedodd Wendy, “roedd yn fraint cael bod yn rhan o ysgrifennu’r cyhoeddiad enfawr hwn, ac mae’n wych gweld bod yr holl elw net yn mynd i gefnogi gweithgareddau parhaus gan y SCSC”, ac aeth ymlaen i ddweud ei fod “ar gael ar Amazon ac mae'n eithaf bargen am £25”.