Mae’r canfyddiadau’n dangos ei bod yn hanfodol rheoli parciau i warchod rhywogaethau a’u cynefinoedd – a heb reolaeth, mae’n fwy tebygol y bydd y parciau’n aneffeithiol.
Yn ddiweddarach eleni bydd arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Tsieina i osod agenda ar gyfer yr ymdrechion cadwraethol byd-eang am y degawd nesaf, ac mae cynlluniau ar waith i amddiffyn 30% o arwyneb y Ddaear yn ffurfiol erbyn 2030.
Ond ni fydd hynny’n unig yn ddigon i sicrhau cadwraeth bioamrywiaeth, yn ôl awduron yr astudiaeth. Maent yn dadlau bod angen gosod targedau ar gyfer ansawdd yr ardaloedd gwarchodedig, ac nid eu maint yn unig.
Defnyddiodd yr astudiaeth ddull "cyn-ar ôl-rheolaeth-ymyrraeth" - a oedd yn cymharu tueddiadau poblogaeth adar y dŵr cyn sefydlu ardaloedd gwarchodedig â’r tueddiadau wedi hynny, a bu hefyd yn cymharu tueddiadau poblogaethau tebyg o adar y dŵr y tu mewn a’r tu allan i’r ardaloedd gwarchodedig. Rhoddodd hynny ddarlun llawer mwy cywir a manwl na’r astudiaethau blaenorol. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar adar y dŵr, a bu’n archwilio effaith 1,500 o ardaloedd gwarchodedig (mewn 68 o wledydd). Dewiswyd adar y dŵr oherwydd bod nifer o astudiaethau ohonynt a’u bod yn lluosog ledled y byd, ac oherwydd eu bod yn gallu symud yn rhwydd gallant gytrefu'n gyflym neu adael rhyw fan neu’i gilydd oherwydd yr amgylchiadau.
Dywedodd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor, cyd-awdur yr astudiaeth:
Mae’r papur hwn yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â gwella cadwraeth i sicrhau canlyniadau gwell i’r rhywogaethau. Dengys y dadansoddiad fod rhai ardaloedd gwarchodedig yn gweithio dros fyd natur ac nad oes effaith gadarnhaol i eraill. Yn hytrach nag edrych ar faint o arwynebedd tir sy’n cael ei warchod, er mwyn arafu’r golled o ran bioamrywiaeth, mae angen gwell dealltwriaeth o lawer arnom ynglŷn â pha ddulliau cadwraeth sy’n gweithio, a pha rai nad ydynt.
Roedd y tîm ymchwil yn cynnwys Wetlands International a phrifysgolion Bangor, Caergrawnt, Caerwysg, Queensland, Copenhagen, a Cornell, ac roedd yr ymchwil yn dibynnu ar ymdrechion miloedd o wirfoddolwyr yn cyfrannu i gynlluniau cenedlaethol ledled y byd i gasglu data ar niferoedd poblogaethau adar y dŵr, yn bennaf o'r Cyfrifiad Adar Dŵr Rhyngwladol a gydlynir gan Wetlands International. Cafwyd data am adar y dŵr yng Ngogledd America gan Gymdeithas Genedlaethol Audubon.
Teitl y papur yw: ”