Dull mwy cynaliadwy ac eco-ymwybodol o drin hadau llysiau yw ffocws project ymchwil aml-bartner sy'n cynnwys un o gynhyrchwyr hadau mwyaf y Deyrnas Unedig a Phrifysgol Bangor.
Mae Tozer Seeds wedi cysylltu â Chanolfan Biogyfansoddion y brifysgol i ddatblygu triniaethau hadau amgen sydd â’r nod o reoli clefydau yn ogystal â gwella nodweddion addas ar gyfer egino a thyfu cnydau.
Bydd y project 18 mis, a ariennir drwy raglen Llwybrau Arloesi Ffermio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweld hadau seleri, pannas a choriander yn cael eu trin â l.aserau a chyfansoddion bioactif naturiol.
Nod y strategaethau yw nid yn unig diheintio hadau pathogenau sy'n achosi clefydau, a all arwain at lawer iawn o gnydau wedi'u gwastraffu, ond gwella cyfradd egino, sefydlu hadu, cyfradd twf, a chynnyrch cnydau.
Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi cynorthwyo â datblygu’r triniaethau arfaethedig, gyda ffocws cychwynnol ar wella cryfder y cyfansoddyn bioactif a phŵer ac amser triniaeth y laser. Mae'r gwaith laser ar driniaeth yr hadau yn cael ei arwain gan dîm Dr. Zengbo Wang yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
Mae'r rownd gyntaf o brofion a gwaith labordy ar y gweill ar hyn o bryd, gyda'r triniaethau hadau mwyaf addawol i'w gwerthuso gan bartneriaid-dyfwyr sy'n rhan o gadwyn gyflenwi Tozer Seeds o Surrey.
Bydd y cynhyrchwyr Medwyn's of Anglesey, G's Group, a Strawsons yn cyfrannu at y fenter, gan ddarparu gwybodaeth am y diwydiant a gofod tyfu.
Dywedodd Dr Matthew Walker, rheolwr ymchwil a datblygu’r grŵp yn Tozer Seeds:
“Mae planhigyn ar ei fwyaf bregus yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad, ac mae rhoi plaladdwr cymeradwy ar yr hedyn yn ei helpu trwy’r broses egino a gall arwain at sefydlu eginblanhigion da ac yn y pen draw at gynhyrchu mwy o gnwd.
“Rydym yn profi dulliau newydd o drin hadau, a all wella twf planhigion a chael gwared ar glefydau a gludir gan hadau yn ogystal â’r potensial i leihau ein dibyniaeth ar blaladdwyr confensiynol.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor a gweddill ein cadwyn gyflenwi i sicrhau y gellir gweithredu’r datblygiadau arloesol hyn yn gyffredinol.”
Mae trin hadau, gan ddefnyddio plaladdwyr yn aml, yn arfer cyffredin mewn amaethyddiaeth fasnachol oherwydd ei effeithiolrwydd wrth warchod rhag glefydau a phryfed yn y cyfnod cynnar.
Er bod yr ymchwil yn canolbwyntio i ddechrau ar dri chnwd, disgwylir, os bydd y driniaeth yn llwyddiannus, y gallai hefyd fod yn berthnasol i hadau eraill.
Fel rhan o'r project, mae Prifysgol Bangor hefyd wedi gweithio gyda ‘Medwyn's of Anglesey’ i gael mynediad at adnoddau ymchwil a datblygu ychwanegol fel rhan o raglen BEACON.
Mae’r fenter yn cysylltu prifysgolion Cymru â diwydiannau yng Nghymru i ddatblygu Cymru fwy cynaliadwy drwy ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a thechnolegau bio-ffocws ac fe’i hariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Dr Rob Elias, Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor: “Mae hwn yn broject y mae angen i bob cyswllt unigol o'r gadwyn gyflenwi gyfrannu ato; mae gweithio ochr yn ochr â thyfwyr a chynhyrchwyr diwydiannol sefydledig i wireddu hyn yn hynod gyffrous.
“Mae cynyddu mynediad at ymchwil a datblygu ar gyfer busnes hefyd yn bwysig iawn i’r sector hwn, yn enwedig yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi helpu i gefnogi hyn drwy BEACON i gefnogi’r sector bioeconomi a chynhyrchwyr lleol ymhellach.
“Bydd adnabod dulliau newydd o drin hadau yn ddefnyddiol yn nhirwedd cyfnewidiol ffermio, gan y bydd hadau mwy gwydn yn rhoi mwy o gnydau ac yn cynyddu’r cyfradd twf.
“Mae potensial i’r gwaith helpu i leihau costau cynhyrchu cnydau dros y tymor hir a chaniatáu i dyfwyr gael mwy o ddefnydd o’u caeau diolch i lai o risg o niwed amgylcheddol sy’n deillio o driniaethau masnachol cyffredin.
“Mae hyn yn golygu y bydd tyfwyr yn gallu cynhyrchu mwy o lysiau o fewn amserlen lai, a fydd hefyd yn rhoi’r fantais ychwanegol o leihau problemau cyflenwad posibl i siopwyr.
“Mae’r wybodaeth am y diwydiant y mae Tozer Seeds a phartneriaid eraill yn ei rhoi yn hanfodol i helpu i sicrhau y bydd yr ymchwil a wnawn i’r triniaethau newydd hyn nid yn unig yn effeithiol yn y labordy, ond hefyd yn fuddiol i’r tyfwyr sy’n plannu’r cnydau hyn yn y lle cyntaf.”
I gael rhagor o wybodaeth am Tozer Seeds, ewch i , ac am ragor o wybodaeth am Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, ewch i .