Mae newid yn yr hinsawdd yn peri risg fawr i'r economi yn fyd-eang, mae llunwyr polisi wedi bod yn mynd i'r afael â'r bygythiadau a'r risgiau a allai ddatblygu o newid yn yr hinsawdd, yn cynnwys edrych ar strwythur sefydliadol cwmnïau i asesu a all hynny gael effaith.Â
Y berthynas rhwng amrywiaeth rhywedd yn y gwaith ac allyriadau carbon cwmni oedd y sylfaen ar gyfer ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan Brifysgol Bangor, Bank for International Settlements (BIS) a Banc Canolog Ewrop a ddaeth i’r casgliad bod merched mewn swyddi rheoli yn gwella perfformiad amgylcheddol cwmni.Â
Er mai penderfyniadau bwrdd cyfarwyddwyr sy’n llunio strategaeth achosion amgylcheddol cwmni, mewn gwirionedd y rheolwyr sy'n dewis y strategaeth addas i gyflawni amcanion y cwmni.Â
Dadansoddwyd y berthynas rhwng canran y merched a benodwyd yn rheolwyr ac allyriadau carbon cwmnïau o sampl o 1,951 o gwmnïau rhestredig mewn 24 economi diwydiannol dros y cyfnod 2009-2019, ac mae cynnydd o 1pp mewn rheolwyr sy’n ferched yn arwain at ostyngiad o 0.5% mewn allyriadau CO2.Â
Mae’r canlyniadau rhwng canran y rheolwyr sy’n ferched ac allyriadau CO2 yn cael eu cefnogi gan fframwaith damcaniaethol cadarn sy’n seiliedig ar gefnogaeth merched i faterion amgylcheddol sy'n dylanwadu ar eu penderfyniadau mewn perthynas â gweithredu strategaeth bwrdd rheoli.
Roedd yn galonogol gweld bod polisïau cwmnïau oedd yn mynnu presenoldeb merched ar lefel reoli nid yn unig yn cael yr effaith gywir ar anghydbwysedd amrywiaeth rhywedd ond hefyd o bosib yn cyfrannu at yr amcanion amgylcheddol.
Mae annog cwmnïau i benodi mwy o reolwyr sy’n ferched a chynnwys gwerthoedd gwyrdd mewn meini prawf recriwtio proffil yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Profwyd ar ôl Cytundeb Paris, bod lefelau CO2 cwmnïau â mwy o amrywiaeth rhywedd yn y gwaith wedi gostwng oddeutu 5% yn fwy na chwmnïau a oedd yn cynnwys dynion yn bennaf.
Mae'r newyddion yn erthygl nodwedd ar wefan yr  a .