Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Limerick a Feedback Global, a gyhoeddwyd yn y , dylid cyfyngu defnydd bio-nwy yn ofalus i flaenoriaethu atebion hinsawdd mwy effeithiol megis atal gwastraff, cynhyrchu trydan solar a choedwigo er mwyn cyrraedd y targed allyriadau nwyon tŷ gwydr “sero net” heriol a osodwyd ar gyfer 2050.
Nododd Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae astudiaethau blaenorol wedi meincnodi perfformiad amgylcheddol treuliad anaerobig yn erbyn technolegau dominyddol cyfredol. Er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth fwy cadarn ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy strategol, roeddem am weld sut mae’r dechnoleg ‘werdd’ hon a hyrwyddir yn eang yn cymharu â’r dewisiadau amgen gorau sydd ar gael, heddiw ac yng nghyd-destunau’r dyfodol, lle mae technolegau glân yn debygol o fod yn bennaf ar y llwybr tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net.”
Er bod bio-nwy ar hyn o bryd yn danwydd cludiant llawer glanach na phetrol neu ddiesel, mae trydaneiddio cludiant yn gyflym a datblygu tanwydd hydrogen gwyrdd yn cynnig mwy o arbedion allyriadau a gallai fod o fwy o fudd i’r hinsawdd na defnyddio bio-nwy fel tanwydd cludiant dros y degawdau nesaf. Yn y cyfamser, gallai hylosgi bio-nwy ar raddfa fawr i gynhyrchu trydan neu wres diwydiannol fod y defnydd gorau o fio-nwy i liniaru nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol os defnyddir y dull dal a storio carbon bio-ynni (BECCS). Mae’r astudiaeth yn modelu “arbenigedd cynaliadwy” posibl ar gyfer treulio anaerobig (TA) mewn cyd-destun lle mae gwastraff bwyd a bwyta cig a llaeth yn cael eu haneru, gyda chyfleusterau treulio anaerobig yn prosesu’r gwastraff bwyd a’r tail anochel sy’n weddill. Mae’r “arbenigedd cynaliadwy” hwn yn atal defnydd aneffeithlon o gnydau a dyfir yn bwrpasol, ac mae’n seiliedig ar gamau polisi uchelgeisiol i flaenoriaethu atal gwastraff bwyd.
Mae Dr David Styles, darlithydd mewn peirianneg amgylcheddol ym Mhrifysgol Limerick a phrif awdur, yn esbonio: “Bydd buddion hinsawdd treulio anaerobig yn lleihau wrth i dechnolegau glanach fod yn amlycaf wrth drosglwyddo tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net. Fodd bynnag, bydd treulio anaerobig yn parhau i fod yn opsiwn cynaliadwy i reoli gwastraff bwyd a thail anifeiliaid sy’n wirioneddol anochel, gan gynnig y posibilrwydd o gynhyrchu ynni hyblyg, carbon-negyddol – o’i ddefnyddio’n ddoeth ochr yn ochr ag atal gwastraff yn effeithiol.”
O'i gymharu â thanwydd cludiant bio-nwy indrawn neu laswellt, gall cynhyrchu trydan solar osgoi 16 gwaith yn fwy o ynni tanwydd ffosil, a gall coedwigo liniaru chwe gwaith yn fwy o nwyon tŷ gwydr fesul hectar o dir a ddefnyddir - gan wneud tyfu indrawn neu laswellt ar gyfer bio-nwy yn opsiynau defnydd tir aneffeithlon ar gyfer diogelwch ynni a lliniaru nwyon tŷ gwydr. Yn y cyfamser, mae atal gwastraff bwyd yn arwain at naw gwaith yn fwy o ostyngiad mewn allyriadau na thriniaeth treulio anaerobig, gan gynyddu i 40 gwaith yn fwy o ostyngiad mewn allyriadau net os caiff coed eu plannu ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd. Ar yr un pryd, gallai blaenoriaethu atal gwastraff bwyd a’i ddargyfeirio i fwyd anifeiliaid (gan gynnwys trwy brydau pryfed), yn hytrach na gwneud y defnydd mwyaf posibl o Dreulio Anaerobig yn unol ag uchelgais presennol y diwydiant: wrthbwyso 10-15% ychwanegol o allyriadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol; diwallu 2-4% ychwanegol o'r galw cenedlaethol am ynni; rhyddhau digon o dir âr i ddarparu 20-21% o’r cymeriant protein a chalorïau a argymhellir yn genedlaethol.
Ychwanegodd Martin Bowman, Uwch Reolwr Polisi ac Ymgyrchoedd yn Feedback Global a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae haneru gwastraff bwyd a thrawsnewid i gynhyrchu llai o gig a chynhyrchu cig gwell yn cynnig potensial mwyaf y system fwyd ar gyfer lleihau allyriadau – llawer mwy na thrwy ddefnyddio treulio anaerobig ar gyfer rheoli gwastraff. Mae polisïau blaenorol yn aml wedi canolbwyntio'n gyfyng ar ehangu'r diwydiant treulio anaerobig ar sail cymorthdaliadau gydag effeithiau croes weithiau, fel hwyluso ehangu systemau da byw diwydiannol, costau isel ar gyfer gwaredu gwastraff bwyd neu dyfu cnydau ar raddfa fawr yn benodol ar gyfer treulio anaerobig. Mae angen ailfeddwl yn radical yng nghyswllt polisïau arnom fel bod treulio anaerobig yn cefnogi yn hytrach na thanseilio ein trosglwyddiad i system bwyd cig isel, gwastraff isel.”