Os yw rhywun yn amharod i gael pigiad yn erbyn haint Coronafeirws (petruster brechu) neu’n gwrthod hynny, gall hynny fod yn gysylltiedig â phrofiad digwyddiadau trawmatig yn ystod plentyndod, fel esgeulustod, trais domestig neu gamddefnyddio sylweddau yng nghartref y teulu, fel yr awgryma ymchwil a gyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a gyhoeddwyd yn y BMJ Open.
Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar math neu fwy o drawma yn ystod eu plentyndod nag yr oedd ymhlith y rhai nad oeddent wedi profi unrhyw drawma.
Dangoswyd bod cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lles meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gallai arwain at lai o ymddiriedaeth mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. I archwilio hyn ymhellach, ceisiodd yr ymchwil ddarganfod a allai trawma plentyndod fod yn gysylltiedig â lefelau o ymddiriedaeth mewn gwybodaeth COVID-19 y GIG; cefnogaeth i gyfyngiadau Coronafeirws, a chydymffurfiaeth â nhw (fel gorchuddion wyneb gorfodol a chadw pellter cymdeithasol; a bwriad i gael eich brechu rhag yr haint.
Ond mae’r ymchwilwyr yn nodi ei bod yn hysbys bod pobl sydd wedi profi trawma yn ystod plentyndod “yn wynebu mwy o risgiau iechyd gydol oes. Mae’r canlyniadau yma’n awgrymu y gallai unigolion o’r fath gael mwy o anhawster i gydymffurfio â mesurau rheoli iechyd y cyhoedd ac o ganlyniad angen cefnogaeth ychwanegol.”
Mae hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer y pandemig presennol ond ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus eraill yn y dyfodol, maen nhw'n awgrymu.
Yn ddealladwy, gall unigolion sydd wedi dioddef cam-driniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o brofiadau niweidiol fel plant ei chael hi’n anoddach meithrin ymddiriedaeth yn systemau’r wladwriaeth a ddarperir i’w hamddiffyn a’u helpu. Yma rydym wedi dangos sut mae oedolion sydd â hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn llai tebygol o ymddiried yng nghyngor y gwasanaethau iechyd, ac o ganlyniad, yn llai tebygol o naill ai ddilyn cyfyngiadau cysylltiedig â COVID, neu dderbyn a gweithredu ar wybodaeth am fanteision cael eu brechu.
Mae angen systemau sy'n sicrhau bod plant yn cael plentyndod diogel sy’n meithrin.
Ychwanegodd yr Athro Karen Hughes (Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor):
“Os ydym am i fwy o bobl ymddiried yn ein systemau cyhoeddus yna mae angen i’r systemau hyn helpu i sicrhau bod plant yn cael plentyndod diogel sy’n meithrin. Ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, dylem ystyried ffyrdd eraill o gyfleu negeseuon iechyd hollbwysig, er enghraifft defnyddio unigolion, cymunedau, neu sefydliadau eraill y gallent fod ag ymddiriedaeth ynddynt eisoes. Mae’n annhebygol y bydd ailadrodd yr un neges drwy ffynonellau cyhoeddus y gallai rhai pobl fod wedi’u gwrthod eisoes yn arwain at unigolion o’r fath yn newid eu meddyliau.”
Dywedodd Dr Kat Ford, o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor:
“Mae rhai unigolion mewn perygl o gael eu heithrio o ymyriadau iechyd y boblogaeth, ac felly mae ganddynt risg uwch o haint ac afiechyd. Mae angen i ni ddeall yn well sut i ymgysylltu ag unigolion o’r fath, gwella eu hymddiriedaeth mewn systemau iechyd a galluogi mwy o gydymffurfiaeth â chanllawiau iechyd.”
Gofynnodd yr arolwg am naw math o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu drawma cyn 18 oed: cam-drin corfforol, geiriol a rhywiol; rhieni yn gwahanu; dod i gysylltiad â thrais domestig; ac yn byw gydag aelod o'r cartref â salwch meddwl, camddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau, neu a oedd yn y carchar.
Roedd ymatebwyr a fynegodd ychydig neu ddim ymddiriedaeth yng ngwybodaeth Coronafeirws y Gwasanaeth Iechyd, ac a deimlai iddynt gael eu cyfyngu’n annheg gan gyfyngiadau COVID-19 y llywodraeth, yn fwy tebygol o ffafrio terfynu’r rheoliadau ar gadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb gorfodol ar unwaith. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi torri'r rheoliadau o bryd i'w gilydd ac o ddweud eu bod yn amharod i gael eu brechu, neu’n gwrthod hynny.
Casglwyd data rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 dros y ffôn gyda sampl o 2,285 o oedolion yn byw yng Nghymru.
Mae’r astudiaeth lawn ‘Associations between adverse childhood experiences, attitudes towards COVID-19 restrictions and vaccine hesitancy: a cross-sectional study.’ ar gael am ddim yma: