Mae Becca Barnard a Darrell Button ill dau yn astudio at radd MA Cyhoeddi a Diwylliant y Llyfr ym Mhrifysgol Bangor.
Beneath the Poisoned Roots: An Anthology of Dark Fantasy and Fables, detholiad o straeon ffantasi a chwedloniaeth yw eu cyhoeddiad cyntaf.聽
Gwnaeth y myfyrwyr gais am waith creadigol ar y thema gan fyfyrwyr graddedig mwyaf talentog Ysgrifennu Creadigol, a dethol gweithiau gan Alys Hall, Bow Soane, Jennifer Atzori, ac Alastair Raper.
Dyma鈥檙 t欧 cyhoeddi cyntaf i鈥檞 sefydlu gan fyfyrwyr Bangor ym mlwyddyn gyntaf y cwrs 么l-radd Cyhoeddi a Diwylliant y Llyfr.
Fel yr esbonia Eben Muse, sy鈥檔 arwain y cwrs:
鈥淵mgymerodd Becca a Darrell 芒鈥檙 aseiniad modiwl, sef cyhoeddi llyfr, a thrwy hynny sefydlu鈥檙 cwmni cyhoeddi Barnard & Button Publishing. Aethant ati i ganfod yr enghreifftiau gorau o ysgrifennu creadigol o blith cymuned ysgrifennu creadigol y Brifysgol a鈥檜 cyhoeddi mewn cyfrol sydd wedi鈥檌 olygu a鈥檌 ddylunio鈥檔 broffesiynol, ac sydd ar gael i鈥檞 brynu ar draws y byd.鈥
Mae cyhoeddi llyfr yn galw am sgiliau golygu, dylunio, trefnu a sgiliau ymdrin 芒 phobl, ac mae lansiad y llyfr yn dangos bod y myfyrwyr yn meddu ar bob un o鈥檙 rhain.鈥
Dilynodd Becca gwrs Astudiaethau Creadigol ac astudiodd Darrell Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mhrifysgol Bangor ac roedd y ddau yn awyddus i fwrw ymlaen i ddysgu mwy am fyd cyhoeddi.
Mae Becca a Darrell yn gobeithio parhau ym maes cyhoeddi ar 么l cwblhau eu cwrs MA.
Eglurodd Becca:聽
鈥淔y nod yw cychwyn fy nghwmni cyhoeddi fy hun. Hoffwn ganolbwyntio ar awduron yn hytrach na chynnwys, a hoffwn roi llais i ferched sy鈥檔 ysgrifennu yn ogystal ag ysgrifenwyr LHDTC+ neu rai sy鈥檔 cael eu hyrwyddo o dan y fantell honno, ac i eraill sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd i gael clywed eu llais. Heblaw am hynny, ffuglen yw fy angerdd mawr i.鈥
Ychwanega Darrell:
鈥淩oeddwn yn ystyried dilyn gradd bellach, ac yn gweld yr MA mewn cyhoeddi鈥檔 berffaith. Roeddwn eisoes wedi penderfynu mai cyhoeddi oedd y proffesiwn yr hoffwn weithio ynddo, gan ddefnyddio fy sgiliau mewn ysgrifennu creadigol a chynorthwyo eraill i greu llyfrau - mae鈥檔 broses ragorol i fod yn rhan ohoni.鈥
Eglurodd Darrel mai amcan y modiwl cyntaf ar y cwrs oedd creu casgliad o straeon byrion ac y byddant yn dysgu sut i gyhoeddi e-lyfr y semester nesaf, a bod Darrel a Becca wedi dewis sefydlu t欧 cyhoeddi fel eu thesis Meistr, a鈥檜 bod yn teimlo eu bod eisoes ran o鈥檙 ffordd yno.
Darparwyd y darluniau a chynllun y clawr gan Daria Wolf a Sarah Teece sydd hefyd wedi graddio o Brifysgol Bangor. Mae鈥檙 llyfr ar gael i鈥檞 phrynu ar Amazon: .