Trechodd Alex Baxendale o'r Ysgol Gwyddorau Addysg, 25 o seicolegwyr eraill, a oedd yn cynnwys myfyrwyr PhD, ymchwilwyr a darlithwyr, gan ennill gwobr o 拢500 tuag at allgymorth addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Bu鈥檔 rhaid i Alex gymryd rhan mewn fforymau sgwrsio byw ar negeseuon testun ar-lein a archebid gan athrawon ysgolion uwchradd ar gyfer eu dosbarthiadau. Roedd Alex yn rhan o'r maes pwnc seicoleg a鈥檙 myfyrwyr yn gofyn i wyddonydd penodol neu鈥檔 gofyn cwestiwn agored i bawb am unrhyw bwnc sy'n ymwneud 芒 seicoleg, gweithio ym maes STEM neu addysg.听
Roedd y cwestiynau'n cynnwys "pam ydyn ni'n breuddwydio a beth sy'n achosi rhai breuddwydion penodol?", "Ydych chi'n credu mewn ewyllys rydd?" ac "a oes yna un peth nad ydych chi鈥檔 hoffi am eich swydd neu y gellid ei wella?"
Roedd Alex yn falch iawn o ennill, a dywedodd: 鈥淪yndod o鈥檙 mwyaf imi oedd ennill! Cymerais ran yn y gystadleuaeth fis Mawrth, a chefais wahoddiad i ddod yn 么l eto i sesiynau mis Tachwedd. Aeth popeth yn hwylus ac yn y drydedd wythnos, enillais wyddonydd yr wythnos. Credwn imi gyrraedd yr uchafbwynt, ond wythnos yn ddiweddarach fe wnaethant gyhoeddi mai fi oedd 芒'r nifer fwyaf o bleidleisiau o bob rhan o'r gyfres a oedd yn anhygoel!
鈥淏yddaf yn defnyddio鈥檙 wobr ariannol i brynu adnoddau i ddysgu codio ac electroneg a all deithio o amgylch ysgolion y gogledd ac a fydd o fantais i gynifer o fyfyrwyr 芒 phosibl.鈥
Dywedodd Dr Paloma Mari-Beffa, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg a goruchwyliwr Alex: 鈥淢ae Alex yn gyfathrebwr ysbrydoledig iawn. Mae ei ofal am ei fyfyrwyr yn ddiffuant.
Mae鈥檔 darparu ar gyfer eu hanghenion unigol yn gyson. Mae ganddo brofiad o ddysgu myfyrwyr rhyngwladol ac mae'n hen law ar oresgyn rhwystrau ieithyddol. Mae hefyd yn fedrus yn dechnolegol ac yn wyddonydd rhagorol. Rwyf wrth fy modd ei fod wedi ennill y gydnabyddiaeth hon.鈥
Dywedodd Dr Emily Roberts-Tyler, Darlithydd mewn Addysg a goruchwyliwr Alex: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod Alex wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon, ac nid yw鈥檔 syndod o gwbl!
Mae Alex yn frwd iawn dros wyddoniaeth ac ymchwil, ac mae'n wych ei fod yn ysbrydoli ymchwilwyr y dyfodol trwy ei weithgareddau eang."
Ar gyfer ei ymchwil, mae Alex yn ymchwilio i effaith darllen yn uchel i helpu plant ganolbwyntio'n well a hwythau'n bryderus iawn. Seilir hynny鈥檔 bennaf ar safbwynt niwroseicolegol gwybyddol er mwyn ceisio ei gymhwyso'n effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal ag ymchwil, mae Alex yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu, ac mae鈥檔 cynnal sesiynau galw heibio a marcio; ac mae hefyd yn diwtor seicoleg i Goleg Rhyngwladol Bangor.
Digwyddiad ar-lein yw ac mae myfyrwyr ysgol yn cyfarfod gwyddonwyr ac yn rhyngweithio 芒 nhw. Cystadleuaeth ar ffurf X Factor ydyw rhwng gwyddonwyr, a'r myfyrwyr yw'r beirniaid. Ym mis Tachwedd gwelwyd myfyrwyr yn herio seicolegydd dros sgyrsiau byw ar-lein dwys, cyflym. Yna maen nhw'n gofyn yr holl gwestiynau maen nhw eisiau eu gofyn i'r seicolegwyr, ac yn pleidleisio i'w hoff seicolegydd ac mae hwnnw鈥檔 ennill gwobr o 拢500 i gyflwyno eu gwaith gerbron y cyhoedd.
听