Gyda chyfranogiad gan Brifysgol Bangor, mae鈥檙 astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn yn rhannu riffiau cwrel mewn deg gwlad yng ngorllewin cefnfor India yn 11 isranbarth, ac yn eu hasesu gan ddefnyddio meini prawf Rhestr Goch Ecosystemau IUCN, sef fframwaith a ddatblygwyd gan yr International Union for Conservation of Nature (IUCN) i asesu pa mor agos at gwymp yw gwahanol ecosystemau. Canfuwyd bod riffiau ym mhob isranbarth mewn risg uchel o ddioddef cwymp ecosystemol llwyr a difrod anadferadwy.听
鈥淒an ni鈥檔 gwybod ers cryn amser bod riffiau cwrel yn dirywio, ond r诺an dan ni'n gwybod yn fwy manwl i ba raddau, a pham,鈥 meddai鈥檙 awdur arweiniol, Dr David Obura, sy鈥檔 un o gyfarwyddwr gwreiddiol Coastal Oceans Research and Development in the Indian Ocean (CORDIO East Africa) ac yn gadeirydd gr诺p arbenigol cwrelau IUCN. 鈥淢ae'r asesiad yma鈥檔 cadarnhau pa mor argyfyngus ydy sefyllfa gydgysylltiedig yr hinsawdd a bioamrywiaeth, sef beth oedd yn cael ei drafod yn COP26 yn Glasgow fis diwethaf, ac a fydd yn cael ei drafod yn COP15 sy鈥檔 cael ei gynnal mewn ychydig fisoedd yn Kunming. Mae angen i ni gymryd camau pendant i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bygythiadau byd-eang y mae 听newid yn yr hinsawdd yn eu hachosi, a bygythiadau lleol, fel gorbysgota.鈥
Gwelwyd bod riffiau ynys-wladwriaethau yng ngorllewin cefnfor India dan fygythiad sylweddol. Mewn pedwar o'r isranbarthau (Dwyrain a De Madagascar, y Comoros, ac Ynysoedd Mascarene), aseswyd y riffiau fel rhai sydd 'mewn perygl difrifol' yn 么l meini prawf Rhestr Goch Ecosystemau IUCN, tra canfuwyd bod isranbarthau Gorllewin a Gogledd Madagascar a'r Seychelles Allanol 鈥榤ewn perygl'. Nodwyd mai cynnydd yn nhymheredd d诺r y m么r o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yw鈥檙 bygythiad mwyaf i riffiau cwrel yn yr ynysoedd hyn.
Yn y pedwar isranbarth sy'n weddill, yng Ngogledd Seychelles, ac ar hyd holl arfordir tir mawr Dwyrain Affrica o Dde Affrica i Kenya, dosbarthwyd riffiau fel rhai sy鈥檔 'Fregus' i gwympo. Canfuwyd mai gorbysgota, trwy newid ecoleg y riffiau a hybu trosfeddiannu algaidd, oedd y bygythiad cyffredinol mwyaf yng ngwledydd cyfandir Affrica.听
鈥淔e wnaethom ganfod fod yr ysglyfaethwyr pennaf yn cael eu gorbysgota ar yr holl riffiau yr oedd gennym ddata amdanynt,鈥 meddai Mishal Gudka, sy鈥檔 Uwch Wyddonydd a Rheolwr Rhaglen yn CORDIO East Africa ac yn un o gyd-awduron yr astudiaeth. 鈥淢ae'r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at yr angen i wella rheolaeth dros bysgodfeydd lleol i sicrhau iechyd systemau riffiau cwrel ac i sicrhau stociau pysgod cynaliadwy, sy'n cynnal swyddi chwarter miliwn o bobl yn y rhanbarth.鈥
Yn debyg iawn i Restr Goch Rhywogaethau dan Fygythiad IUCN, sy'n asesu risg difodiant rhywogaethau, mae鈥檙 Rhestr Goch Ecosystemau yn asesu鈥檔 wrthrychol y peryglon i'n byd naturiol mewn ffordd safonol y gellir ei chymhwyso i bob ecosystem ledled y byd.听
鈥淐afodd yr astudiaeth hon ei dylunio er mwyn gallu ei chymhwyso i riffiau cwrel ledled y byd, gan adeiladu ar adroddiad y Global Coral Reef Monitoring Network am riffiau cwrel a gyhoeddwyd yn ddiweddar鈥 meddai Dr Radhika Murti, sef Cyfarwyddwr y Centre for Society and Governance yn IUCN. 鈥淥s gellir cymhwyso meini prawf Rhestr Goch Ecosystemau IUCN i bob rhanbarth lle ceir riffiau cwrel ledled y byd, bydd gennym ddarlun clir a chyson o statws yr ecosystemau hanfodol hyn yn fyd-eang ac o'r mesurau polisi pwysicaf y mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eu gweithredu.鈥
Bu Dr Ronan Roche, sy鈥檔 Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Gwyddorau M么r Cymhwysol Prifysgol Bangor, yn dadansoddi data niferoedd pysgod o fewn fframwaith y Rhestr Goch Ecosystemau. Dywedodd Dr Roche: 鈥淢ae'r ymchwil hon yn rhoi sylfaen gref ar gyfer gweithgarwch rheoli i leihau pa mor fregus yw riffiau cwrel ar draws gorllewin cefnfor India, trwy integreiddio setiau data ecolegol hirdymor mewn fframwaith hygyrch."
Dadansoddodd awduron yr astudiaeth ddata鈥檔 mynd yn 么l mor bell 芒 35 mlynedd yn ogystal 芒 rhagamcanion o dymheredd wyneb y m么r 50 mlynedd i'r dyfodol. Roedd ardal eu hastudiaeth yn cynnwys arfordir dwyreiniol cyfandir Affrica o Kenya i Dde Affrica ac i'r dwyrain i ynys-wladwriaethau Seychelles a Mauritius. Gyda鈥檌 gilydd roedd yn cynnwys tua 5% o riffiau cwrel y byd. Arweiniwyd y gwaith gan ymchwilwyr o CORDIO East Africa ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr mewn naw o wledydd yng ngorllewin cefnfor India ac o fwy na 35 o sefydliadau.听
听