Prifysgolion yn cytuno i ddatblygu partneriaeth newydd fel cam tuag at sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i drosglwyddo'r rhaglen gyfredol a gyflwynir gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Caerdydd i gwricwlwm annibynnol newydd yn 2026.
Mae'r cytundeb newydd hwn yn arwydd o ddull Cymru gyfan o ddarparu rhaglen addysg feddygol lawn yng Ngogledd Cymru gan gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni Rhaglen Lywodraethu 2021-2026.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen amlasiantaethol i weithio tuag at sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan Is-gangellorion y ddau sefydliad yn cydnabod y bartneriaeth gref 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys.
Bydd y prifysgolion nawr yn gweithio ar y cyd i ymgysylltu 芒'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i sicrhau trosglwyddiad effeithiol o gwricwlwm C21 Gogledd Cymru i gwricwlwm annibynnol newydd a gaiff ei ddarparu gan Brifysgol Bangor.聽
Bydd y ddwy brifysgol hefyd yn gweithio gyda'i gilydd mewn disgyblaethau Meddygol ac Iechyd i sicrhau cynaliadwyedd, gan gynnwys Uned Treialon Clinigol Cymru Gyfan, wrth ddarparu gweithlu newydd a gwybodaeth newydd i'r proffesiynau Iechyd a Meddygol, gan gydnabod nodweddion, iaith a diwylliannau cymunedau ledled Gogledd Cymru.聽
Mae'n wych gweld gweithio ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd i greu dull Cymru gyfan o ymdrin ag addysg feddygol.聽
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl a bydd y cydweithrediad hwn yn ein helpu i gyflawni hynny a chreu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr meddygol gael eu haddysgu a鈥檜 hyfforddi yng Ngogledd Cymru.
"Mae symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yn hanfodol"
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies:聽
鈥淩ydym yn falch iawn o gael gweithio ochr yn ochr 芒 Phrifysgol Caerdydd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Gydag angen cynyddol i ddarparu system iechyd, gofal a lles integredig yng Ngogledd Cymru mae symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yn hanfodol.
鈥淏ydd hyn yn galluogi hyfforddi rhagor o weithwyr meddygol ac iechyd proffesiynol ledled Gogledd Cymru a Phowys i sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar lefelau gwasanaeth yn y GIG a darparu amgylchedd cynhwysfawr ar gyfer addysgu, dysgu a chapasiti lleoliadau dwyieithog ar draws ein cymunedau.鈥
Ychwanegodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd:
鈥淢ae'r cytundeb hwn yn nodi cam newydd sydd i'w groesawu yn ein partneriaeth hynod lwyddiannus 芒 Phrifysgol Bangor, ac mae鈥檔 ffurfio rhan o'n hymdrechion parhaus i sicrhau bod myfyrwyr meddygol sy'n dewis astudio yng Nghymru yn cael cyfle i hyfforddi a gwasanaethu mewn cymunedau ledled y wlad. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda'n cydweithwyr ym Mangor ar y dull newydd cyffrous hwn o ddarparu addysg feddygol yng Nghymru."