Bu Dr Closs-Davies yn rhannu ei harbenigedd er mwyn sbarduno newid.
O ganlyniad i'w gwaith maes yn yr haf, cyflwynodd Sara adroddiad hir i Swyddfa Cyngor ar Bopeth.Ìý
Canolbwyntiodd ei hymchwil yn y gogledd yn ystod pandemig COVID-19, ar brofiadau gweithwyr Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl hawlio a rheoli eu rhwymedigaethau ariannol ac anariannol a chynlluniau cymorth ariannol y llywodraeth (gan gynnwys Credydau Treth, Credyd Cynhwysol, Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP ), Cynllun Cadw Swyddi (CJRS) - y Cynllun Ffyrlo bondigrybwyll - Cynllun Cymorth Incwm yr Hunangyflogedig (SEISS) a materion sy’n ymwneud â dyledion).Ìý
Ymhlith pethau eraill, mae ei hadroddiad yn nodi'r ffyrdd arloesol y mae Cyngor ar Bopeth, Ynys Môn, wedi'u mabwysiadu i ddarparu gwasanaethau effeithiol i bobl yn ystod yr argyfwng, a sut roeddent yn rheoli llesiant y staff mewn cyfnod anodd. Mae canfyddiadau Sara yn helpu nodi agweddau ar arfer da a gwendidau cynlluniau a pholisi cymorth ariannol y llywodraeth yn ystod pandemig COVID-19 a’u heffaith ar sefydliadau elusennol. Yn y pen draw mae Sara’n gobeithio y bydd yr adroddiad yn fodd i ddatblygu polisi i gynorthwyo pobl leol sy'n wynebu cyfyngiadau ariannol a chaledi.
Ìý
Mae'r pandemig wedi gorfodi newidiadau arnom, ond amlygodd yr adolygiad fod ein ffyrdd newydd o weithio hefyd wedi dod â buddion i staff a chleientiaid sydd wedi cyflymu newid a datblygiad yn ein sefydliad. Byddwn yn rhannu gwersi a ddysgwyd o fewn y CAB ehangach a gyda grwpiau eraill.
Gwaith arall
Bu Sara hefyd yn cydlynu ac yn cyd-gadeirio sesiwn lwyddiannus bwrdd crwn a phaneli’r llywodraethau datganoledig yng nghynhadledd flynyddol y Rhwydwaith Ymchwil Trethi (TRN) ym Mhrifysgol Aston fis Medi. Daeth â llunwyr polisi trethi ynghyd o Lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a Phrif Swyddog Gweithredol Awdurdod Refeniw Cymru i drafod - 'Materion Ffiniol a Newid Ymddygiad - deall effaith newidiadau yn y polisi treth ar ymddygiad trethdalwyr a chenhedloedd cyfagos'. Roedd yn gyfle gwych i drafod themâu a heriau allweddol a’r Lywodraethau’n llywio eu hynt trwy adferiad economaidd yn sgil y pandemig. ÌýÌý
Gyda'i chydweithiwr Hefin Gwilym a chyn-fyfyriwr PhD o Fangor Dave Beck, ymatebodd Sara hefyd i 'Alwad am Dystiolaeth gan Bwyllgor Dethol Cymru Senedd y Deyrnas Unedig, '' gan archwilio posibilrwydd o sustem budd-dal ar gyfer Cymru.Ìý
Roedd eu tystiolaeth yn cefnogi’r alwad i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru, yn enwedig y rhai sy’n cynyddu’r gallu i Gymru ymdrin â thlodi.
Mae cyfraniad Sara i Alwad senedd y Deyrnas Unedig yn deillio o'i hymchwil a'i chyhoeddiadau diweddar gan gynnwys pennod o’r llyfr A Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ of the UK Tax Credits system: Transforming Citizens into Self-responsible Individuals at the Frontline of Tax Administration’, yn ‘Contemporary Issues in Tax Research’.
Mae Sara’n credu’n gryf fod angen cau’r bwlch rhwng gwahanol ddisgyblaethau er mwyn gwella anghydraddoldeb cymdeithasol a lliniaru caledi ariannol. Yn hynny o beth mae hi’n ÌýGyfarwyddwr y Tax research Network Ltd ac yn cadeirio Grŵp Diddordeb Arbennig Safbwyntiau Rhyngddisgyblaethol Cymdeithas Cyfrifyddu a Chyllid Prydain (BAFA), sy'n anelu at hyrwyddo a datblygu ymchwil rhyngddisgyblaethol mewn cyfrifeg a chyllid a meysydd cysylltiedig yn faes ymchwil o bwys. Mae'n cyfrannu nifer o syniadau at ddeall a siapio rôl cyfrifyddu, cyllid ac arferion cysylltiedig ar gyfer unigolion ac mewn sefydliadau ac mewn cymdeithas.Ìý
Cewch ragor o wybodaeth am waith Sara a'i manylion cyswllt ar ei phroffil yma.Ìý
Ìý