Mae’r Athro Michaela Swales o Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr ymchwil am ei cyfraniad arbennig at ymchwil ym maes DBT, Dialectical Behaviour Therapy neu Therapi Ymddygiad Dilechdidol.
Cafodd y wobr ei gyflwyno i Michaela, sy’n Gyfarwyddwr Rhaglen Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, fel rhan o gynhadledd ar-lein y sefydliad International Society for Improvement and Teaching of DBT, sydd a’i phencadlys yn UDA.
Meddai Michaela, “Mae DBT yn driniaeth seicolegol sy’n helpu unigolion sy’n hunanladdol neu sy’n brifo eu hunain i adeiladu bywyd sy’n werth ei fyw. Mae DBT yn cael ei argymell mewn canllawiau gan NICE ac mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffordd yr ydym yn hyfforddi clinigwyr i roi’r driniaeth yma mewn modd effeithiol.
“Nid yw sicrhau bod triniaethau wedi eu selio ar dystiolaeth ar gael mewn practis clinigol arferol, ac i safon sy’n sicrhau bod pobl yn cael help o ansawdd uchel, mor hawdd â hynny. Dyma be sy’n cael ei alw’n ‘fwlch gweithredu’. Rwy’n angerddol am fynd i’r afael â’r heriau sy’n atal bobl rhag derbyn gofal seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n fraint derbyn y wobr hon gan yr ISITDBT sy’n chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod therapyddion yn gwybod am yr ymchwil a’r ymarfer diweddaraf.”
Dywedodd Dr Caroline Bowman, Pennaeth dros dro yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, “Hoffwn longyfarch Michaela ar dderbyn y wobr arobryn yma, sy’n gydnabyddiaeth rhyngwladol hollol haeddianol am ei arweinyddiaeth sylweddol o ran gwella iechyd meddwl a lles.”
Ychwanegodd Nick Salsman o’r International Society for the Improvement and Teaching of DBT, “Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniadau arbennig mewn ymchwil i mewn i DBT. Mae’r rhai sy’n derbyn y wobr ymchwil wedi gwneud mwy na’r arfer i gryfhau a ehangu ein dealltwriaeth gwyddonol o DBT, ac rydym yn falch iawn o gyflwyno’r wobr hon i’r Athro Swales o Brifysgol Bangor.”
Am ragor o wybodaeth ynglyn ag astudio y Gwyddorau Dynol ym Mangor cliciwch yma