Mae’r bodlediad cyntaf yn y gyfres Am Blant yn clywed ymateb grŵp o blant oedran iau ysgol gynradd yn ymateb i’r cwestiwn ‘Beth yw plentyndod?’ gan ddilyn gyda thrafodaeth gan aelodau’r panel sy’n cynnwys Dr Ceryl Davies, darlithydd mewn gwyddorau iechyd; Dr Nia Young a Rowena Hughes Jones, darlithwyr mewn addysg; a Dr Sian Wyn Siencyn, Dr. Sian Wyn Siencyn, arloeswraig ym maes Plentyndod Cynnar fel disgyblaeth academaidd a sefydlwraig Ysgol Blynyddoedd Cynnar, Prifysgol Drindod Dewi Sant.
Yn dilyn grant gan y , mae’r gyfres o bodlediadau o dan arweiniad yr Ysgol Gwyddorau Addysgol ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnal trafodaeth ar y materion sydd yn effeithio ar blentyndod yng Nghymru heddiw. Bydd y gyfres yn ystyried materion cymdeithasol, seicolegol, addysgol, a chorfforol, gyda’r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc i fynd ymlaen i astudio'r maes mewn addysg uwch a darparu gweithlu dwyieithog y dyfodol ar gyfer y maes plant.
Bydd y podlediadau dilynol yn y gyfres yn trafod meysydd amrywiol gan gynnwys ‘Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?’, ‘Hawliau plant’ gyda chyfraniad gan Gwenan Prysor, sy'n arwain rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol ym Mangor, yr Athro Sally Holland, y Comisiynydd Plant, yr Athro Enlli Thomas a nifer o academyddion o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio mewn amrywiol feysydd yn ymwneud efo iechyd, addysg a lles plant a phobl ifanc.
Mae’r Ysgol Gwyddorau Addysgol yn falch hefyd o gyfraniadau aelodau staff profiadol Mudiad Ysgolion Meithrin i rai o'r podlediadau ac yn edrych ymlaen at gydweithio efo'r mudiad sydd wedi gwneud cymaint o waith gwerthfawr gyda phlant a thros blant ers ei sefydlu yn 1971.
Meddai Sion Jobbins, ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg Cymraeg yn falch iawn i gefnogi’r podlediadau yma. Bydd y gwahanol raglenni yn ffordd hwylus i fyfyrwyr a gweithwyr yn y maes i ddysgu mwy am wahanol agweddau o addysgu a hynny pryd a lle sy’n gyfleus iddyn nhw.”
Medai’r Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol (y Gymraeg): “Mae’n braf gweld staff addysgu o fewn y Brifysgol yn manteisio ar gyfleoedd i arloesi yn eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfuno’r elfen ddamcaniaethol gyda’r ymarferol yn fanteisiol i ddatblygu gweithlu plant dwyieithog y dyfodol. Bydd y podlediadau hyn yn adnodd gwych nid yn unig i fyfyrwyr ond hefyd i rieni a phawb sy’n ymdrin gyda’r maes.”
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor: “Mae maes Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn un maes lle mae’r cydweithio rhwng y Brifysgol ac asiantaethau allanol yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’n plant a’n pobl ifanc. O ystyried lleoliad Prifysgol Bangor yng nghadarnle’r Gymraeg mae creu deunydd o’r fath trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i’n cenhadaeth wrth gyfoethogi profiadau addysgol ein myfyrwyr.”
Cewch hyd i’r podlediadau Am Blant yn y llefydd arferol: