Wrth i 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (Cop26) gael ei chynnal yn Glasgow, mae gwledydd yn dechrau canolbwyntio ar gynlluniau “gwyrddach a gwell” a chyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i 1.5C. Mae’r cyfeiriad yn newid wrth i'r byd symud tuag at dargedau sero net, diogelu'r amgylchedd ac adfer bioamrywiaeth mewn ffordd ddigynsail.
I lawer, mae newid yn yr hinsawdd a'r ymchwil gwyddonol cymhleth yn y maes yn aml yn ddryslyd ac yn ddirgel - dyma lle mae project BlueFish wedi ei gynllunio i helpu.
Dan arweiniad Dr Shelagh Malham ym Mhrifysgol Bangor, roedd project BLUEFISH (2017 i 2021) yn canolbwyntio ar ranbarth Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd a'i nod oedd darparu strategaethau i addasu i newid yn yr hinsawdd ledled y rhanbarth er budd cymunedau arfordirol. Roedd BLUEFISH yn asesu a lledaenu gwybodaeth am y risgiau a'r cyfleoedd i bysgod a physgod cregyn masnachol mewn gwahanol senarios yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.
Hanfodol i fywyd ar y blaned
Meddai Shelagh:
"Mae Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, fel arfordiroedd, moroedd a chefnforoedd eraill ledled y byd yn hanfodol i fywyd ar y blaned. Rhaid dod o hyd i atebion a'u gweithredu ar frys er mwyn gwarchod ein hecosystemau morol a'n planed i genedlaethau'r dyfodol."
Arweiniodd y Sefydliad Morol Gweithgaredd 2.4 Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth i randdeiliaid, yn cynnwys polisi a diwydiant ar y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir gan ecosystem Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd i gymunedau arfordirol Iwerddon a Chymru ac i'r gymdeithas ehangach. Roedd pwysigrwydd taflu goleuni ar gysyniadau newid yn yr hinsawdd a chyfleu perthnasedd ymchwil gwyddonol cymhleth i'r gymuned ehangach o'r pwys mwyaf. Trwy gysylltu celf a gwyddoniaeth i ddangos ac egluro nwyddau a gwasanaethau’r ecosystem ac i ddarlunio effeithiau credadwy newid yn yr hinsawdd, datblygwyd casgliad sylweddol o waith celf a ffeithluniau sy'n unigryw i BlueFish.
Meddai Dr Paul Connolly, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Morol “Mae newid yn yr hinsawdd yn gofyn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol er mwyn ei wrthdroi. Ni fydd yn bosib i’r buddsoddiad hwn ddigwydd os nad yw'r cyhoedd yn gefnogol, ac ni fydd modd ennill cefnogaeth os nad yw pawb yn deall y problemau sy’n dod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Gall defnyddio celf i gysylltu â phobl fod yn ffordd effeithiol o newid agweddau ac ennill cefnogaeth i’r gweithredoedd cymdeithasol sy'n angenrheidiol i wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd.”
Gan fod cyfleoedd i fynd ar daith o amgylch arddangosfa BlueFish yn 2020 a 2021 wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y cyfyngiadau Covid-19, mae’r Sefydliad Morol bellach yn cyflwyno’r casgliad llawn o weithiau celf trwy animeiddiad craff a gafaelgar - “Demystify”.
Mae “Demystify” yn dilyn cymeriad cyffredin mewn lleoliad arfordirol sydd yn ddryslyd ac yn rhwystredig oherwydd y tywydd tymhorol cyfnewidiol. Trwy gydol yr animeiddiad gall gwylwyr weld y gwaith celf yn ei strwythur arfaethedig o safbwynt bob dydd. Gan ei fod wedi ei gyflwyno mewn oriel ar yr arfordir, mae'r safbwynt hwn yn cael ei ddatblygu ac yn symud ymlaen i adrodd neges gref. Mae “Demystify” yn mynd â gwyliwr trwy broses o sylweddoli sy'n dangos bod popeth yn gysylltiedig, mae un newid yn effeithio ar newid arall a rhaid i ni weithredu gyda'n gilydd i ddatblygu gwytnwch er mwyn ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Gall animeiddiad “Demystify” wneud cyfraniad mawr at y ddadl am weithredu ar newid yn yr hinsawdd yng Nghymru a Iwerddon, a bod o fudd i lunwyr polisi a chymunedau arfordirol fel ei gilydd, a COP26 hefyd, gobeithio.
Meddai Dr Paul Connolly, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Morol “Rydym nawr ar grib ton, sef newid enfawr wrth feddwl am y môr, gwerth y môr, effaith newid yn yr hinsawdd a sut mae’r môr yn dylanwadu ar newid yn yr hinsawdd”
Mae “Demystify” bellach ar gael i’w weld yn https://youtu.be/ubPb-H5nzT8
, cydweithrediad trawsffiniol, wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru 2014 - 2020.