Gwnaeth genynnau mor hen â 2.3 miliwn o flynyddoedd oed helpu'r dolffin trwynbwl i addasu i gynefinoedd newydd trwy newidiadau mewn ymddygiad ac efallai mai dyma’r gyfrinach i'w goroesiad ac ehangiad eu hamrywiaeth, yn ôl yr ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol St Andrews, gyda chyfranogiad gan Prifysgol Bangor.
Mae deall y prosesau sy'n caniatáu i rywogaethau ehangu eu hamrywiaeth ac addasu i amodau amgylcheddol newydd mewn cynefin sydd ar gael o'r newydd, fel cynefinoedd arfordirol newydd ar ddiwedd oes yr iâ diwethaf, yn gwestiwn hanfodol mewn bioleg.
Roedd yr yn edrych ar hyn mewn perthynas â’r dolffin trwynbwl cyffredin hynod gymdeithasol a hirhoedlog, rhywogaeth sydd wedi addasu dro ar ôl tro o fod yn rhywogaeth y dyfnfor (eigionol) i fyw mewn dyfroedd arfordirol.
Yr hyn sy’n allweddol i'w gallu i addasu i amgylcheddau cyfnewidiol dros genedlaethau, yw’r genynnau sy'n gysylltiedig â galluoedd gwybyddol ac ymddygiadau bwydo, sy'n dangos bod gallu dolffiniaid trwynbwl i gymdeithasu wedi eu helpu i addasu a goroesi.
Bu Dr Andrew Foote, y cyd-awdur, yn cyd-oruchwylio’r project ymchwil pan oedd yn Ysgol Adnoddau Naturiol y Brifysgol. Mae erbyn hyn ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Norwy. Eglurodd:
Mae'r dywediad "hen win mewn poteli newydd", yn cyfeirio at hen syniadau'n cael eu hailbecynnu fel rhai newydd. Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod genynnau hynafol sydd wedi'u hail-becynnu mewn cenedlaethau newydd o ddolffiniaid trwynbwl wedi eu helpu i addasu dro ar ôl tro i fywyd mewn dyfroedd arfordirol ym mhob rhan o’r byd."
Dywedodd y prif awdur, Dr Marie Louis ym Mhrifysgol St Andrews:
“Roedd hen enynnau yn gyfranwyr pwysig at allu dolffiniaid trwynbwl i addasu dro ar ôl tro i ddyfroedd arfordirol ledled y byd.
“Ar ben hynny, mae gan nifer o’r genynnau sy’n gysylltiedig â’r addasiad ailadroddol hwn i gynefinoedd arfordirol, swyddogaethau o ran galluoedd gwybyddol a bwydo, sy’n awgrymu swyddogaeth ymddygiad cymdeithasol wrth hwyluso gallu dolffiniaid trwynbwl i addasu i amodau newydd.
“Felly, gallai gwarchod hen enynnau fod yn hollbwysig i unrhyw rywogaeth ymdopi â’r newid byd-eang cyflym cyfredol.”
Bu’r tîm ymchwil yn gwneud ail-ddilyniant a dadansoddiad o genomau cyfan 57 o ddolffiniaid arfordirol ac eigionol o dri rhanbarth: dwyrain Gogledd yr Iwerydd, gorllewin Gogledd yr Iwerydd a dwyrain Gogledd y Môr Tawel i ddarganfod sut mae'r dolffin trwynbwl wedi gallu addasu dro ar ôl tro i ddyfroedd arfordirol.
Gwelsant fod yr ecoteipiau eigionol ac arfordirol o Fôr yr Iwerydd a'r Môr Tawel wedi esblygu'n annibynnol, tra bod y rhai yn yr Iwerydd yn gysylltiedig yn rhannol.
Wrth sganio'r genomau ar gyfer patrymau amrywiaeth genetig a gwahaniaethu, gwelodd y tîm fod rhai ardaloedd ar y genom dan ddylanwad dethol ym mhob un o'r tair poblogaeth arfordirol sy’n bell yn ddaearyddol ac felly'n debygol o fod yn gysylltiedig ag addasu i gynefinoedd arfordirol.
Hyd yn oed yn fwy trawiadol oedd y ffaith bod yr ardaloedd genomig hyn, o dan addasiad cyfochrog ac yn bresennol ar amledd isel i ganolradd yn y poblogaethau eigionol, yn hen iawn.
Mae hyn yn awgrymu bod yr hen enynnau hyn wedi cael eu hail-becynnu dro ar ôl tro wrth ffurfio poblogaethau arfordirol, pan agorodd cynefinoedd arfordirol newydd, er enghraifft ar ddiwedd oes yr iâ diwethaf.