Bydd Ceridwen Oncology, sydd yn derbyn cefnogaeth gan M-SParc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor ar Ynys Môn, yn datblygu a thrawsnewid canfyddiadau meddygol gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd yn driniaethau meddygol y gellir eu defnyddio.
Dewiswyd y cwmni newydd, a hynny o blith cystadleuwyr cryf, i ymuno â rhaglen Datblygu Oncoleg Alderley Park (APODP), rhaglen cyflymu masnachol sy’n un o’r arweinwyr yn y maes yn fyd-eang, ac a sefydlwyd gan Innovate UK Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Cancer Research UK mewn partneriaeth â rhai o gwmnïau fferyllol mwyaf y byd, Astra Zeneca, GlaxoSmithKline, Johnson & Johnson a Roche.Â
Nod y rhaglen newydd yw nodi a datblygu arloesedd cyffrous ym maes oncoleg a fydd yn gwella diagnosis a thriniaeth canser. Ei nod yw cyflwyno projectau oncoleg hyfyw yn llawer cyflymach i gynyddu’n sylweddol eu tebygolrwydd o lwyddiant masnachol, a budd i gleifion yn y pen draw.
Yn dilyn gweithdy dewis trylwyr dros dridiau a rhaglen Cam I o dri mis, dewiswyd y tîm ymchwil labordy o Sefydliad Ymchwil Canser Prifysgol Bangor fel un o 6 chwmni yn unig o restr hir gychwynnol o 86 cwmni i symud ymlaen at rownd derfynol y rhaglen lle byddant yn cael eu cysylltu â phartneriaid buddsoddi priodol.Â
Yn sgil cael ei chynrychioli gan y cwmni, Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol o du allan i Grŵp Russell sydd â phresenoldeb yn y project.Â
Mae'r gwyddonwyr wedi adnabod nodwedd unigryw o ganser yr esgyrn prin o'r enw chordoma - ac maent hefyd wedi nodi cyfres o foleciwlau sy'n rhwystro gallu'r celloedd canser rhag cynyddu'r afiechyd. Maent wedi ymestyn ar hynny i ddangos y gall y moleciwlau hyn weithio yn erbyn mathau mwy cyffredin o ganser sydd â mynychder uchel yng Nghymru.Â
Gall y cam nesaf, trosi'r wybodaeth wyddonol hon yn fudd i gleifion, fod yn broses hir, heriol a drud. Mae ffurfio cwmni yn galluogi mynediad at fuddsoddwyr 'angel' a chyfleoedd buddsoddi eraill i’r gwyddonwyr.
Eglurodd Dr Ramsay McFarlane, a gymerodd ran greiddiol yn y gwaith ymchwil, ac a fydd yn rhan o’r tîm datblygu, y cymesuredd a awgrymir gan enw'r cwmni newydd, Ceridwen Oncology:
“Roedd Ceridwen yn ddewines dadeni, trawsnewidiad ac ysbrydoliaeth mewn chwedloniaeth Gymreig a esgorodd ar blentyn erchyll, ond defnyddiodd ei doethineb i greu diod a allai ei wella trwy yfed tri defnyn ohono.Â
Mae cymesuredd rhwng y chwedl hon a'n gwaith ymchwil ninnau, sydd wedi’i seilio ar enynnau sy'n gysylltiedig â genedigaeth newydd. Gwelwn y canser fel y plentyn erchyll a'n datblygiad therapiwtig fel rhywbeth sy'n cyfateb i dri defnyn iachaol Ceridwen."
Daeth y cyllid sbarduno ar gyfer yr ymchwil wreiddiol ym Mhrifysgol Bangor gan Rwydwaith Ymchwil Gwyddorau Bywyd Cymru (menter a ariennir gan Raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru), ac elusen ganser Ymchwil Canser Cymru, ac mae ei hymgyrchwyr codi arian wedi bod yn allweddol yn sicrhau bod y datblygiadau hyn wedi digwydd yng Nghymru ac y byddant yn y pen draw o fudd i gleifion yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Ceridwen Oncology yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes Ymchwil a Datblygu Cymru ac yn enghraifft wych o’r bartneriaeth gref sy'n bodoli rhwng ymchwil ym mhrifysgolion Cymru a diwydiannau fferyllol y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.  Â
Mae ymuno â rhaglen Datblygu Oncoleg Alderley Park (APODP), yn gyfle enfawr i Gymru ac yn glod mawr i’r ymchwil arloesol a gynhelir gan grwpiau ymchwil ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd a gefnogir yn rhannol gan Raglen Sêr Cymru.