Bangor yn croesawu Scribblers Cymraeg G诺yl Hay unwaith eto
Bydd y beirdd Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Osian Owen ac Aneirin Karadog yn ymuno 芒 disgyblion ysgol blynyddoedd 6 a 7 ar gyfer gweithdai creadigol ym Mhrifysgol Bangor ar 3 Tachwedd.
Bydd y creadigrwydd yn rhan o Daith Scribblers Cymraeg Hay Festival.
Dros y 18 mis diwethaf, mae digwyddiadau addysg Hay Festival wedi cael eu rhedeg yn ddigidol, ac wedi cyrraedd 100k o ddisgyblion mewn mwy na mil o ysgolion ar draws y DU a thu hwnt. Maen nhw wedi cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Hay Festival Foundation.
Dywedodd Aine Venables, Rheolwr Addysg Hay Festival:听
"Rydym yn 么l ar gyfer ein digwyddiadau cyntaf i ysgolion mewn person ers 2019, ac rydym yn falch o groesawu disgyblion ac athrawon yn 么l i'n digwyddiadau. Mewn blwyddyn o heriau enfawr i bobl ifanc ac addysgwyr ar draws y DU, rydym wedi bod yn falch o gysylltu 芒 miloedd yn ddigidol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gysylltu gyda鈥檙 un sbardun o ysbrydoliaeth eto mewn digwyddiadau byw."
Meddai Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr o鈥檙 DU:
鈥淏ydd yn hyfryd cael gweld disgyblion ifanc yn ymweld 芒鈥檙 Brifysgol unwaith eto a chael blas ar ysgrifennu creadigol yn nwylo鈥檙 beirdd Cymraeg. Rydym yn gobeithio y byddant yn mwynhau eu hymweliad.鈥
Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:听
"Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni wedi gallu cefnogi Rhaglen Ysgolion Hay Festival unwaith eto, a rhoi mynediad i ddysgwyr ifanc at amrywiaeth o brofiadau creadigol a diwylliannol, yn ddigidol ac mewn person.
"Bydd dysgu diwylliannol a chreadigol yn rhan hanfodol o'n Cwricwlwm newydd i Gymru, ac rwy'n falch ein bod ni wedi gallu gweithio gyda Hay Festival i ddarparu cyfres gyfoethog o ddigwyddiadau i blant ar draws Cymru'r hydref hwn."
听