Mae dofi eogiaid yr Iwerydd trwy flynyddoedd o ffermio pysgod wedi arwain at eogiaid yr Iwerydd a ffermir yn datblygu llygaid llai yn ôl a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Evolutionary Applications.
Mae dros 15 cenhedlaeth o fridio eogiaid mewn caethiwed ar gyfer bwyd, wedi arwain at bysgod a ffermir yn datblygu llygaid llai nag eogiaid gwyllt. Gall hyn arwain at ganlyniadau negyddol i unrhyw eog a ffermir sy'n dianc o gaethiwed yn ogystal â'u hepil.
Gall llygaid llai effeithio ar olwg yr eog, gan eu gwneud yn llai abl i adnabod a bwyta bwyd, ynghyd â chynyddu eu siawns o gael eu bwyta gan ysglyfaethwyr.
Bu’r tîm rhyngwladol o ymchwilwyr yn bridio eogiaid o gefndiroedd ffermio, gwyllt a hybrid (ffermio x gwyllt) gyda'i gilydd o wyau mewn tanciau yn Sefydliad Ymchwil Morol, Norwy a Sefydliad Morol, Iwerddon, yn ogystal ag yn Afon Srahrevagh, Iwerddon. Yna mesurwyd maint y llygaid yng nghyfnodau bywyd yr eogiaid mewn dŵr croyw a dŵr hallt.
Yn yr holl arbrofion mewn tanciau, yn Norwy ac Iwerddon, roedd gan bysgod a ffermir lygaid llai mewn perthynas â maint y corff o gymharu â'r eogiaid yn y gwyllt, ac roedd gan bysgod hybrid lygaid canolig, er iddynt gael eu magu dan yr union un amodau. Ond, yn rhyfedd iawn, wrth gael eu magu mewn afon, ni welwyd unrhyw wahaniaethau ym maint llygaid eogiaid gwyllt ac eogiaid a ffermir.
Eglurodd Dr William Perry, ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor a chyd-arweinydd yr ymchwil:
“Roedd yn gyffrous darganfod y gostyngiad genetig hwn ym maint y llygaid a welwyd mewn pysgod a ffermir, ond roedd y ffaith na welwyd hyn mewn eogiaid a fagwyd yn yr afon yn ddiddorol. Credwn fod hyn oherwydd bod y pysgod gyda llygaid llai yn llai addas ar gyfer bywyd yn y gwyllt ac yn methu cael hyd i fwyd na dianc rhag pig miniog crëyr glas! Pan fyddant mewn caethiwed, nid oes rhaid i'r eog ddelio â'r heriau hyn."
Nid ydym yn gwybod eto pa elfen o ffermio pysgod a allai fod wedi achosi'r gostyngiad hwn ym maint y llygaid dros 15 cenhedlaeth, ond gall fod wedi cael ei achosi gan sawl ffactor. Gall y ffactorau hyn gynnwys ei bod hi’n cymryd llawer o egni i dyfu llygaid, a'r ffaith nad oes angen golwg da ar eogiaid mewn caethiwed i hela neu ddianc rhag ysglyfaethwyr. Mae bwyd yn ymddangos yn awtomatig, ac mae ysglyfaethwyr yn cael eu cadw allan.
Neu, gall fod yn ymateb i straen, neu'r goleuadau artiffisial a ddefnyddir mewn dyframaethu. Gall y ffaith bod yr anifeiliaid hyn yn cael eu magu mewn tanciau lle gallant gael lefelau annaturiol o uchel o olau artiffisial olygu bod yn well iddynt gael lygaid llai sy’n llai sensitif i olau.
Ychwanegodd Dr Joshka Kaufmann, ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg Prifysgol Corc, Iwerddon a chyd-arweinydd yr ymchwil:
“Rydym wedi bod yn ymchwilio i’r nodweddion sydd wedi cael eu heffeithio gan groesrywedd rhwng eogiaid yn y gwyllt ac eogiaid a ffermir a sut y gallant gyfrannu at leihau eu gallu i oroesi. Mae dangos yr hyn sy'n caniatáu i faint y llygaid amrywio mewn fferm ond nid yn yr afon yn rhoi syniad i ni pam nad yw pysgod a ffermir a'u disgynyddion yn gallu delio â bywyd yn y gwyllt. Mae dianc o ffermydd yn fygythiad i integredd genetig eogiaid yr Iwerydd gwyllt ac yn effeithio ar nifer y boblogaeth yn y tymor hir.”