Gall dylanwadwyr enwog ar y cyfryngau cymdeithasol megis Marcus Rashford ac eraill o fyd cerddoriaeth, teledu a ffilm chwarae rhan allweddol o ran perswadio'r cyhoedd i wisgo masgiau i amddiffyn rhag Covid-19.
Mae'r Athro Nathan Abrams, sy'n Athro Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor, yn arwain ymchwil newydd i archwilio dylanwad negeseuon o’r cyfryngau ar ddewisiadau pobl am wisgo masgiau yn ystod y pandemig.
Mae'n arwain tîm aml-ddisgyblaethol o arbenigwyr y feysydd y Cyfryngau, Ieithyddiaeth, y Gyfraith a Biogyfansoddion, wedi ei noddi gan UK Research and Innovation, fydd yn archwilio nid yn unig gwisgo masgiau ond sut mae cael gwared ohonynt a'r effaith ar yr amgylchedd.
Bydd y gwaith ymchwil yn edrych ar ymddygiad gwisgo masgiau ar hyn o bryd, fel y mae'n cael ei ddylanwadu gan y cyfryngau er mwyn cynnig mewnwelediad i lywodraethau a sefyldliadau eraill wrth iddynt drefnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau, yn enwedig rhai'n ymwneud â'r amgylchedd.
Meddai'r Athro Abrams, "Gall rhywun ddadlau bod llawer o'r drafodaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig wedi cael ei harwain gan ddylanwadwyr megis seren Manchester United a thîm pêl-droed Lloegr Marcus Rashford sydd wedi bod yn ymgyrchu dros ddarparu cinio ysgol am ddim.
"Mae hyn yn dangos bod dylanwadwyr yn medru cael mwy o ddylanwad ar y drafodaeth gyhoeddus na gwleidyddion. Mae ffactorau cymhleth sy'n sail i benderfyniadau cwsmeriaid am ba fasgiau i'w gwisgo a'r penderfyniad i wisgo masg ai peidio, gan gynnwys cael gwared ar fasgiau mewn modd cyfrifol. Gan gymryd bod angen parhau i wisgo masgiau, bydd y gwaith ymchwil hwn yn adnabod sut fedrwn ni annog rhagor o bobl i'w gwisgo nhw, mewn modd sy'n gynaladwy o ran yr amgylchedd."
Dywedodd Dr Morwenna Spear, gwyddonydd ymchwil yng Nghanolfan Biogyfansoddion arobryn y Brifysgol, sy'n archwilio’r defnydd o blanhigion yn hytrach na deunyddiau synthetig,"Roeddem eisiau mesur yr ongl amgylcheddol, y nifer o fasgiau tafladwy sy'n cael eu dosbarthu ac sy'n aml yn cael ei taflu i ffwrdd ac edrych ar gost amgylcheddol hynny.
"Rwy'n amau bod o leiaf hanner y masgiau sydd i'w gweld ar lawr wedi eu gollwng yn ddamweiniol ond hefyd mae’n debyg na fydd unrhyw un yn eu codi oddi ar y llawr am resymau glanweithdra felly dyma, bron â bod, y math gwaethaf o sbwriel."
Meddai'r Athro Thora Tenbrink, arbenigwraig iaith sy'n edrych ar negeseuon o’r cyfryngau, "Mae hyn am wneud i bobl ymddwyn yn gyfrifol ac yn gynaliadwy. Nid dim ond pandemig sy'n digwydd ar hyn o bryd, mae yna argyfwng hinsawdd hefyd.
"Yn Asia, maen nhw wedi bod yn gwisgo masgiau ers blynyddoedd. O bosib bydd rhaid i ni ddatblygu'r un arferiad. "Mae'r drafodaeth o gwmpas gwisgo masgiau wyneb yn siapio ein hymddygiad i raddau mwy nag y byddai rhywun yn ei feddwl - drwy'r cyfryngau cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ac ar lefel bersonol.
"Rwy'n teimlo’n gyffrous am y cyfle i edrych ar hyn yn fanwl, ac i ddarganfod ffyrdd o fframio negeseuon am wisgo masgiau fydd yn cefnogi cynaliadwyedd yn yr hirdymor - os oes angen."