Mae gwenyn yn dod i gysylltiad 芒 nifer o straenachoswyr amgylcheddol fel plaladdwyr, parasitiaid a maeth gwael yn rheolaidd.
Dan arweiniad y Royal Holloway, Prifysgol Llundain, a chyda chyfraniad gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Emily Bailes FHEA, a myfyriwr doethurol Thomas Oliver, dadansoddodd ymchwilwyr ddata o'r ddau ddegawd diwethaf a chanfod bod y straenachoswyr hyn yn cynyddu achosion o farwolaeth ymhlith gwenyn pan maent yn dod i gysylltiad 芒 chyfuniad ohonynt. Yn benodol, mae dod i gysylltiad 芒 chyfuniad o agrocemegion yn fwy tebygol o gynyddu nifer y marwolaethau ymhlith gwenyn na straenachoswyr eraill.听
Mae Thomas Oliver yn astudio am ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, ac mae wedi ei leoli yn Rothamstead Research, un o'r sefydliadau ymchwil amaethyddol hynaf yn y byd. Esboniodd y canfyddiadau gan ddweud:
鈥淒efnyddir prosesau asesu risg ledled y byd i benderfynu a yw agrocemegion yn ddiogel i'w defnyddio. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar un cynnyrch ar y tro, ac nid ydynt yn ystyried sut mae agrocemegion yn rhyngweithio 芒'i gilydd mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid. Mae'r canlyniadau hyn yn cadarnhau y gall dod i gysylltiad 芒 chyfuniad o straenachoswyr gael effaith llawer mwy niweidiol ar wenyn nag y mae asesiadau risg amgylcheddol cyfredol wedi rhagweld.鈥 听
Dod i gysylltiad 芒 phlaladdwyr lluosog yn cynyddu marwolaethau ymhlith gwenyn
Mae gwenyn yn allweddol i iechyd ein planed

Meddai Dr Harry Siviter, cydawdur y papur, a arferai fod yn yr Adran Gwyddorau Biolegol yn y Royal Holloway:听
鈥淢ae gwenyn yn allweddol i iechyd ein planed ond mae nifer y straenachoswyr y maent yn dod i gysylltiad 芒 hwy yn cynyddu o ganlyniad i weithgareddau dynol. Mae cnydau'n cael eu trin 芒 llawer o agrocemegion, felly mae gwenyn yn dod i gysylltiad 芒 sawl cemegyn gwahanol ar yr un pryd. Canfu ein dadansoddiad fod y rhyngweithio rhwng y cemegion hyn wedi cynyddu nifer y marwolaethau ymhlith gwenyn yn sylweddol, y tu hwnt i'r lefelau y byddem yn eu rhagweld pe byddem yn ychwanegu effaith negyddol nifer o gemegion at ei gilydd. 听
鈥淵n anffodus, nid yw鈥檙 rhyngweithiadau hyn yn cael eu hystyried pan fydd agrocemegion yn cael eu trwyddedu i鈥檞 defnyddio, ac felly mae eu heffaith ar wenyn yn cael ei danamcangyfrif鈥.听
Meddai Dr Emily Bailes, cyd-awdur y papur ac aelod staff newydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor:听
鈥淢ae ein dadansoddiad yn dangos tuedd gyffredinol ar gyfer rhyngweithio mwy difrifol pan fydd agrocemegion yn rhyngweithio, ond rwy鈥檔 credu ei bod hefyd yn bwysig nodi nad yw hyn yn golygu nad yw effeithiau mwy niweidiol yn digwydd oherwydd mathau eraill o straenachoswyr. Yn benodol, ychydig iawn o ymchwil a wnaed ar effeithiau maeth. O safbwynt asesiad risg, ni ddylid anwybyddu'r amrywiad hwn."
Daeth yr Athro Mark Brown o'r Adran Gwyddorau Biolegol yn y Royal Holloway i'r casgliad: 鈥淢ae ein canlyniadau鈥檔 golygu bod rhaid i reoleiddwyr a chynhyrchwyr agrocemegion newid eu dull o asesu risg yn llwyr. Nid yw'r broses reoleiddio yn ei ffurf bresennol yn diogelu gwenyn rhag y canlyniadau o ddod i gysylltiad 芒 chyfuniad o agrocemegion.
鈥淏ydd methu 芒 mynd i鈥檙 afael 芒 hyn, a pharhau i adael i wenyn ddod i gysylltiad 芒 chyfuniad o straenachoswyr anthropogenig mewn amaethyddiaeth yn arwain at ddirywiad parhaus mewn gwasanaethau gwenyn a pheillio, a fydd yn cael effaith andwyol ar iechyd pobl ac ecosystemau.鈥
听