Yn ystod y cyfnodau clo yn sgil y pandemig, gwnaed cannoedd o galonnau tecstilau hardd gan y cyhoedd ar gyfer cleifion Covid-19 a'u teuluoedd a'u hanfon i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Roedd rheolaethau heintiau yn golygu nad oedd modd dosbarthu'r calonnau ar y wardiau, ond nawr i anrhydeddu'r gwaith a'r teimlad a aeth i'r calonnau, maent yn cael eu gwneud yn weithiau celf parhaol i'w harddangos mewn chwe ysbyty lleol.
Laura Cameron gyda'r gwaith celf lliwgar
Ar hyn o bryd mae'r calonnau'n cael eu haenu i greu siapiau calon mawr, gydag elfennau 3D, yn dangos manylion hyfryd pob un gan yr artist tecstiliau a myfyriwr MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, Laura Cameron.
Dros yr haf bydd y gweithiau celf yn cael eu cwblhau, eu fframio a'u danfon i'r chwe ysbyty, i'w harddangos fel teyrngedau i'r rhai a gollwyd ac a adferwyd yn ogystal 芒'r gwasanaeth rhyfeddol a ddarperir gan lawer o weithwyr y GIG.
Meddai Laura, "Mae'r calonnau hyn sydd wedi eu gwau, gwn茂o, crosio a ffeltio yn ymateb teimladwy i salwch a phrofedigaeth ynghyd 芒 gobeithion am ddyfodol gwell. Mae'r haelioni a'r cariad sydd wedi dywallt i mewn i bob un o'r calonnau hyn gan bobl hyfryd i ddangos i bod rhywun yn meddwl amdanynt, yn ddyrchafol ac yn ingol."
Gwneir y gweithiau celf hyn yn bosibl trwy gefnogaeth Cronfa Syr Capten Tom Moore.