Hwb mawr i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon
Mae partneriaeth i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fethodolegwyr treialon wedi cael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol trwy eu cystadleuaeth Doctoral Training Partnership (DTP).
Mae鈥檙 Trials Methodology Research Partnership DTP yn dwyn ynghyd 12 partner - Prifysgol Bangor, Prifysgol Lerpwl (arweiniol), yr Institute of Cancer Research, Prifysgol Newcastle, Prifysgol y Frenhines Mary Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Caergrawnt, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Leeds a Phrifysgol Plymouth) i ddarparu hyfforddiant doethurol i 30 o fyfyrwyr dros y 3 blynedd nesaf.
Mae'r bartneriaeth DTP yn un o 17 project a gyllidir gan yr MRC fel rhan o fuddsoddiad gwerth 拢79 miliwn i gefnogi rhaglenni hyfforddiant doethurol o ansawdd uchel sy'n defnyddio dull myfyriwr-ganolog, gan ganolbwyntio ar ragoriaeth wyddonol, diwylliant ymchwil cadarnhaol a chyfleoedd hyfforddi ehangach.
Bydd y bartneriaeth DTP yn datblygu ac yn hyfforddi carfan o ymchwilwyr sydd 芒 sgiliau methodolegol y tu hwnt i dreialon clinigol, gan lenwi bwlch blaenoriaeth sgiliau strategol.
Meddai鈥檙 Athro Dyfrig Hughes, o , Prifysgol Bangor:
鈥淢ae treialon wedi eu cynllunio'n dda yn hanfodol bwysig i ddangos manteision ymyriadau gofal iechyd.鈥澨
鈥淵m Mangor, rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar y dulliau o asesu gwerth meddyginiaethau a thechnolegau iechyd eraill i'r GIG, gan ddefnyddio data o dreialon clinigol. Nod y DTP hwn yw gwella'r cyfleoedd i fyfyrwyr mewn perthynas ag arbenigedd sgiliau amlddisgyblaethol. Cynlluniwyd y DTP yn ofalus a bydd y rhaglen hyfforddi 'graidd' strwythuredig yn cael ei hategu gan amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi dewisol mwy arbenigol. 听Bydd yn rhoi cyfle iddynt ennill profiad a chael hyfforddiant gan ymchwilwyr o amrywiaeth ehangach o ddisgyblaethau ac o wahanol fathau o sefydliadau ymchwil, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o'r amgylchedd treialon ac yn gwella eu cyfleoedd gyrfa."
Mae'r Trials Methodology Research Partnership yn adeiladu ar lwyddiant yr MRC Network of Hubs for Trials Methodology Research a gafodd ei greu i wella iechyd trwy wella treialon.
Meddai鈥檙 Athro Fiona Watt, Cadeirydd Gweithredol, MRC:
鈥淩ydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyllid听i鈥檙 genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr PhD MRC trwy 17 o wobrau partneriaeth hyfforddiant doethurol newydd ledled y 听Deyrnas Unedig. Dim ond pan fyddwn yn buddsoddi mewn pobl i wneud yr ymchwil y mae ymchwil rhagorol 听yn bosib. Mae ein gwobrau newydd yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan geisio cynyddu amrywiaeth听yr unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd ymchwil ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ehangu eu听gorwelion yn ystod eu doethuriaeth ac wedi hynny.鈥
Mae buddsoddi mewn hyfforddiant doethurol yn rhan allweddol o weledigaeth yr UK Research and Innovation (UKRI)听a鈥檙 MRC i ddatblygu talent a sgiliau ymchwil.听
听
听