Gweithiodd Dr Christian Dunn, uwch ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol, gydag artist proffesiynol a Chymdeithas Ecolegol Prydain i wneud y darn “Caru ein Corsydd”.
Mae'r gwaith celf bellach yn cael ei arddangos mewn arddangosfa rithwir ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caeredin, lle gall ymwelwyr edrych o gwmpas ar ddarnau eraill a darganfod sut y cawsant eu creu.
Gweithiodd Dr Dunn gyda’r artist Holly McKelvey i ddatblygu eu darn, sy’n tynnu sylw at ba mor bwysig yw mawndiroedd, fel corsydd a ffeniau, i fywyd gwyllt, yr hinsawdd a lles pobl.
Mawndiroedd yw ein storfeydd carbon daearol pwysicaf: maen nhw'n storio carbon am gyfnodau amser rhewlifol yn y “slwtsh” organig lled-bydredig sy'n ffurfio'r pridd mawn.
“Maen nhw hefyd yn helpu i gadw ein dŵr yfed yn lân, gallant helpu i reoli achosion o lifogydd, a gallant fod yn rhai o'r pocedi olaf o ardaloedd gwyllt sydd gennym.
“Rhwng hynny a’r ffaith y gall mawndiroedd fod yn llawn bywyd gwyllt unigryw a phrin, nid yw’n syndod ein bod yn eu galw’n archarwyr natur!
“Roedd gweithio gydag artist mor ysbrydoledig â Holly yn wych gan ei fod wir wedi gwneud i mi feddwl am y wyddoniaeth mewn ffordd wahanol.
“Fe wnaeth hefyd fy helpu i gyfleu’r neges nad llefydd llwm digroeso yw ein corsydd fel y mae llawer o bobl yn meddwl amdanynt, ond yn hytrach, maent yn gynefinoedd hardd sy’n effeithio’n aruthrol ar ein tirwedd, ein hinsawdd ac yn wir ar ein bywydau modern.”
“Hyd yn oed os ydych chi'n byw mewn cocŵn mewn dinas rydych chi'n dal i ddibynnu ar gorsydd am gymaint - a dyna pam y dylen ni i gyd garu ein corsydd,” ychwanegodd Dr Dunn.
Trefnwyd yr arddangosfa ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caeredin gan Gymdeithas Ecolegol Prydain a ymunodd artistiaid â gwyddonwyr.
I ymweld â'r arddangosfa ar-lein ewch i:
I gael mwy o wybodaeth am y gweithiau celf a'r bobl y tu ôl iddynt ewch i: