Dwyieithrwydd ddim yn broblem i blant sydd â syndrom Down
Nid yw dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg yn broblem i blant sydd â syndrom Down, yn ôl ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Yn yr astudiaeth gyntaf o'i bath yn y Deyrnas Unedig, bu ymchwilwyr yn archwilio iaith plant dwyieithog Cymraeg-Saesneg sydd â syndrom Down ac ni welsant dystiolaeth o gwbl o anawsterau ychwanegol o’i gymharu â phobl uniaith.
Mae’r canfyddiadau’n chwalu'r gred fod cysylltiad â dwy iaith yn achosi problemau i blant sydd â syndrom Down.
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o waith Dr Rebecca Ward, ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa, yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor. Dywed Rebecca:
“Mae'n wych cael rhannu'r canfyddiadau’r ymchwil cadarnhaol hwn. Gobeithiwn y gall hyn arwain at symud tuag at ddull mwy cynhwysol lle mae dwyieithrwydd yn y cwestiwn, a bydd yn gefn i benderfyniadau teuluoedd i fynd ar drywydd dwyieithrwydd hyd yn oed os byddant yn wynebu ansicrwydd gan eraill.”
Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Communication Disorders, yw'r astudiaeth grŵp gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymchwilio i ddwyieithrwydd mewn plant â syndrom Down, ac un o’r ychydig astudiaethau rhyngwladol.
Esboniodd Dr Eirini Sanoudaki, Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth, a fu’n arwain y prosiect:
“Mae'n fraint cael arloesi yn y maes ymchwil hwn, a chael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Roedd teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol yn ansicr cyn hyn oherwydd diffyg tystiolaeth am ddwyieithrwydd. Rydw i wedi bod yn derbyn negeseuon o Gymru ac ar draws y byd yn gofyn am gyngor; mae’r canlyniadau cadarnhaol yn cynnig rhywfaint o'r sicrwydd sydd ei angen.”
Bu’r ymchwilwyr yn cymharu grŵp o blant dwyieithog â syndrom Down â grŵp o rai uniaith Saesneg, a chanfuwyd perfformiad tebyg yn Saesneg, ynghyd â sgiliau sylweddol yn Gymraeg.
Un teulu a oedd yn rhan o'r prosiect oedd Amanda a'i mab Morgan.
Dywedodd Amanda:
''Pan anwyd Morgan roedd ei frawd newydd ddechrau yn yr Ysgol Feithrin. Roeddem yn gobeithio y câi'r brodyr fynd i’r ysgol gyda'i gilydd, ond nid oeddem yn siŵr ai dyna’r llwybr iawn i Morgan yn enwedig gan mai Saesneg yw iaith ein cartref. Rhybuddiodd gweithwyr proffesiynol lleol yn erbyn hynny, gan deimlo y byddai'n rhy ddryslyd iddo ac yn rhwystro ei gynnydd. Fe wnaethon ni gysylltu â sefydliadau sy'n arbenigo yn syndrom Down am farn ychwanegol. Penderfynwyd rhoi cynnig arni, gan nad oedd yn ymddangos bod tystiolaeth dros hyn. Dyma wnaethon ni ac mae Morgan wedi ymdopi'n dda iawn â'r ddwy iaith. Mae’r ymchwil yn dyst i’n teimladau ni, a bydd yn helpu teuluoedd a fydd yn gorfod gwneud penderfyniad tebyg yn y dyfodol.''
Roedd Cymdeithas Syndrom Down yn bartner ac yn gydweithredwr yn y prosiect. Dywed Julian Hallett, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau:
“Dylid cefnogi pob plentyn i fynegi ei hun mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu diwylliant, eu bywyd teuluol a'u cymuned. Rydym yn gweld llawer mwy o enghreifftiau o unigolion â syndrom Down yn byw bywydau dwyieithog ac mae'n wych cael yr ymchwil hwn i ddisgrifio profiadau pobl yn llawnach.”
Mae'r cydweithredu’n parhau, ac mae prosiect newydd o dan arweiniad Dr Sanoudaki yn archwilio datblygiad dwyieithrwydd mewn plant awtistig sydd â syndrom Down a hebddo.
Ariannwyd yr astudiaeth ar y cyd gan y ac Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor. Mae'r .