Bu tîm o dan arweiniad cyn-fyfyrwyr o Fangor a Te Herenga Waka - Athro Bioleg y Môr o Brifysgol Wellington, James Bell gan gynnwys yr Athro Rob McAllen o Goleg Prifysgol Corc a'r Athro John Turner o Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Bangor yn cynnal astudiaeth ynghylch y miloedd o sbyngau y tybir y bu eu colli o glogwyni tanddwr Lough Hyne (Loch Oighinn). Sicrhaodd y tîm arian gan Wasanaeth Parciau Cenedlaethol a Bywyd Gwyllt yr Adran Dai, Llywodraeth Leol a Threftadaeth, i astudio’r digwyddiad anarferol hwn.
Er ei bod yn parhau i fod yn aneglur pam y profodd cynifer o'r sbyngau hyn ostyngiad mor fawr yn eu niferoedd rhwng oddeutu 2010 a 2015, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, bu arwyddion o adferiad naturiol posibl o'r rhywogaeth dan sylw.
Mewn yr wythnos hon, mae'r awduron yn trafod y rhesymau posibl dros y gostyngiad yn y niferoedd a'r goblygiadau i fywyd mewn ecosystemau mesoffotig tymherus eraill (TMEau), haen ar waelod y môr sydd fel arfer yn ymestyn o ryw 20 metr hyd 30m o dan yr wyneb hyd at 150m, ac sy’n gartref i nifer o infertebratau fel sbyngau, gwyntyllau môr ac anemonïau môr.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr 30 mlynedd o arolygon gwyddonol (1990-2019) ac arsylwadau a wnaed eisoes ar gymunedau islanwol Lough Hyne er mwyn dod i ddeall pa mor sefydlog a bregus yw’r ecosystemau hynny yn y tymor hir. Yna buont yn ystyried achosion posibl y newidiadau a arsylwyd ac yn trafod pwysigrwydd monitro rheolaidd i gadwraeth TMEau ledled y byd.
Aeth John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol i blymio yn Lough Hyne am y tro cyntaf ym 1981 wrth arwain criw o fyfyrwyr o Brifysgol Bryste, a dychwelodd i ddefnyddio fideo i recordio’r newidiadau i’r cymunedau islanwol trwy gydol y 1990au ac yntau ar gyrsiau maes plymio Prifysgol Bangor i Lough Hyne. Cyfunwyd y data hwnnw â data hirdymor arall a gasglwyd gan dîm o Amgueddfeydd Cenedlaethol Iwerddon, o waith PhD James Bell yng Ngholeg Prifysgol Corc o ddiwedd y 1990au (a ddeilliodd o'i ymchwil israddedig yn ystod un o gyrsiau maes Bangor) ac arolygon diweddar gan fyfyriwr PhD ar y cyd o dan oruchwyliaeth Wellington-Cork-Bangor, Valerio Micaroni.
Gwarchodfa Natur Forol Lough Hyne yw'r unig un o'i bath yn Iwerddon a hi oedd y Warchodfa Forol statudol gyntaf yn Ewrop. Cafodd ei dynodi 40 mlynedd yn ôl.
Lough Hyne
Gweinidog: “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r gwaith pwysig hwn"
Yr hyn sy'n ei gwneud yn unigryw, ac yn fagnet i fiolegwyr morol, yw ei bod yn gartref i lawer o rywogaethau prin ac yn cynnwys nifer fawr o gynefinoedd mewn ardal fach o ryw 0.5 cilomedr sgwâr.
Mae hefyd o ddiddordeb ysol i wyddonwyr ac yn hafan i blymwyr sgwba, oherwydd y clogwyni mesoffotig cyfoethog a’r rheini mewn amgylchiadau llawer mwy bas nag unman arall ym Môr yr Iwerydd, a hynny oherwydd bod y dyfroedd yn dywyll a’r lleoliad yn gynharol gysgodol.
Dywed yr Athro Turner ei bod yn bwysig iawn gwneud astudiaethau hirdymor hir i ganfod newidiadau i gymunedau dŵr dwfn na chawn olwg arnynt yn gyffredinol.
''Yn anffodus nid oedd ein hastudiaeth yn un barhaus, ond roedd yn cynnwys sawl dilyniant o arsylwadau manwl manteisgar gan wahanol wyddonwyr a gyfunwyd i roi golwg hirdymor o’r newidiadau yng nghymunedau clogwyni tanfor y llyn môr unigryw hwn''
Dywed yr Athro Bell fod yr astudiaethau’n dangos y bu nifer y sbyngau ar y clogwyni’n gymharol sefydlog am o leiaf 20 mlynedd tan 2010.
“Nid ydym yn gwybod yn sicr, ond nododd amryw o arsylwadau a wnaed eisoes i’r dirywiad yn y niferoedd ddigwydd rhwng 2010 a thua 2015. Roedd yr effaith fwyaf i’w gweld ar y safleoedd mwy am y tu mewn, sy’n awgrymu bod y newid yn tarddu o'r llyn neu fod yr amodau cysgodol yn dwysau effaith a ddechreuodd ar yr arfordir o’i gwmpas.”
Roedd sawl achos posib, gan gynnwys achosion o glefyd, cynnydd mewn maetholion neu wres. Mae’r ymchwil yn dal i fynd rhagddo i'r achos, er bod newidiadau yng nghemeg y dŵr yn un achos tebygol iawn.
Fodd bynnag, gwelodd y tîm adferiad hefyd a sbyngau ifanc bellach yn dychwelyd i’r clogwyni tanddwr.
I’r myfyriwr PhD, Valerio Micaroni, roedd yr ymchwil yn gyfle i gymhwyso ei ddiddordeb yng nghadwraeth bioamrywiaeth y môr ac mewn “coedwigoedd anifeiliaid”, y cynefinoedd hynny a ffurfir gan anifeiliaid sydd ynghlwm yn barhaol â’r swbstrad, fel sbyngau, cwrelau ac anemonïau.
“Roedd yn dda gen i’r prosiect oherwydd roedd yn fodd imi gymhwyso fy ngwybodaeth i broblem wirioneddol a chyfrannu at gadwraeth ecosystem bwysig.”
Dywed y Gweinidog Gwladol dros Dreftadaeth a Diwygio Etholiadol, Malcolm Noonan, fod Llywodraeth Iwerddon yn hapus i gefnogi mwy o waith yn y Llyn Môr.
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r gwaith pwysig hwn yn Lough Hyne - safle sydd wedi’i gydnabod yn fyd-eang am ei gyfoeth mewn bioamrywiaeth - ac i glywed am yr arwyddion cynnar o adferiad posibl o’i ddirywiad diweddar.
“Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth barhaus i’r ymchwiliadau gwyddonol hyn fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd yn achosi’r dirywiad, a beth sy’n dylanwadu ar ei adferiad posibl, fel y gallwn gymhwyso’r gwersi hynny i’n hamgylchedd morol ehangach, ac i helpu i sicrhau amgylchedd morol bioamrywiol, gwydn.”
Awduron y papur yw James Bell a’r myfyrwyr PhD, Valerio Micaroni a Francesca Strano yn Te Herenga Waka, Rob McAllen a Luke Harman o Goleg Prifysgol Corc, John Turner o Brifysgol Bangor, a Christine Morrow a Bernard Picton o Labordy Morol Prifysgol y Frenhines ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon.