Arbenigwyr yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o filiynau mewn cyllid newydd i gefnogi seibiannau i ofalwyr di-dâl
Mae arbenigwyr sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, ac sy’n ymchwilio i’r pwnc ym Mhrifysgol Bangor, wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £3 miliwn, yn 2021 - 2022, i helpu i ddiwallu’r angen ymhlith gofalwyr di-dâl am seibiannau o’u cyfrifoldebau gofalu.Ìý
Yn ôl Dr Diane Seddon, Darllenydd ym Mhrifysgol Bangor ac Arweinydd Ymchwil Gofal Cymdeithasol, Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru:
Mae’r cyhoeddiad amserol hwn yn ystod Wythnos y Gofalwyr, a gynhelir rhwng 7 i 13 Mehefin, yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu; rhaid i bob gofalwr yng Nghymru gael cyfle i gymryd seibiant o'u rôl ofalu i'w galluogi i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain.
Ochr yn ochr â mathau traddodiadol o seibiannau, megis gofal dydd neu ofal cyflenwi dros yr unigolyn a gefnogir, mae polisi Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo datblygu opsiynau seibiant creadigol mewn partneriaeth ag ystod o sectorau gan gynnwys lletygarwch, yr amgylchedd, chwaraeon, y celfyddydau a hamdden.Ìý
Bydd ymchwil a ariennir gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru ac a arweinir gan ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd y Brifysgol yn arwain y gwaith o ddatblygu cefnogaeth ystyrlon trwy gynnig opsiynau seibiant creadigol i ofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia trwy ofyn iddynt am eu profiad o ddarparu gofal.
I ddathlu Wythnos y Gofalwyr, mae'r ymchwilwyr yn gwahodd gofalwyr, sy'n byw yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, ac sy'n cefnogi aelod o'r teulu neu ffrind â dementia i rannu eu profiad o ofalu. Hoffent ddysgu am ba fath o gefnogaeth fyddai'n ystyrlon iddynt ac edrych ar y ffyrdd y gellir rhoi seibiant iddynt o'u cyfrifoldebau gofalu er mwyn cynnal eu lles eu hunain.
Maria Caulfield, Myfyrwraig PhD a ariennir gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor sy’n arwain yr ymchwil.
Eglurodd:
Ìý
Bydd harneisio profiadau amrywiol gofalwyr yn ein helpu i lunio sut y gall cymunedau weithio’n greadigol, a gwneud y mwyaf o’u hadnoddau, i gefnogi anghenion lleol gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia. Yn ei thro, bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a phobl sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys, bywyd ochr yn ochr â gofalu.
Os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia ac os hoffech gyfrannu eich profiad o ofalu, cysylltwch â Maria Caulfield:ÌýFfôn: 01248 38 2596Ìý
E-bost: m.caulfield@bangor.ac.ukÌý
Mae Prifysgol Bangor hefyd yn parhau i archwilio'r ffyrdd y gallant gynorthwyo'r boblogaeth myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu. Ceir rhagor o fanylion am y maes ymchwil hwn a'r canlyniadau yn fuan ar wefan Ìý.
Ìý