Daw’r rhan fwyaf o bwysau amgylcheddol o ymddygiad pobl, felly mae gwyddonwyr amgylcheddol wedi dechrau gweithio gyda gwyddonwyr ymddygiadol i edrych ar sut y gellir cymhwyso dealltwriaeth am ymyriadau newid ymddygiad (a ddatblygwyd i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, neu golli pwysau er enghraifft) i'r problemau sy'n wynebu natur.
Mae'r Athro Julia Jones o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn gydawdur ar bapur yn Nature Human Behaviour a gyhoeddwyd yn ddiweddar (dydd Iau 13 Mai doi: ) sy'n dadlau y byddai cyfuno gwyddor ymddygiad gyda gwyddor amgylcheddol yn arwain at fuddion i'r amgylchedd, ac yn y pen draw i ni.
Wrth ysgrifennu yn y papur 'safbwyntiau', dywed yr awduron fod potensial heb ei wireddu i wyddor ymddygiad ddelio â'r argyfwng bioamrywiaeth sy’n cynyddu.
Dywedodd Dr Kristian Steensen Nielsen o Brifysgol Caergrawnt ac awdur arweiniol yr astudiaeth:
"Oherwydd bod gweithgareddau dynol wedi achosi’r argyfwng bioamrywiaeth, bydd gwarchod ac adfer bioamrywiaeth angen newidiadau sylfaenol i’n hymddygiad presennol. Er gwaethaf pwysigrwydd canolog mynd i'r afael ag ymddygiad dynol, nid yw cadwraeth bioamrywiaeth wedi bod yn bwnc ymchwil o bwys ym maes gwyddor ymddygiad. Yn yr un modd, dim ond sylw cyfyngedig y mae ymchwil cyfredol ac ymdrechion ymarferol wedi ei roi i wyddor ymddygiad ac mae integreiddio'n parhau i fod yn gyfyngedig”.
Dywedodd yr Athro Julia Jones:
“Cafwyd diddordeb mawr yn y potensial i gymhwyso dealltwriaeth o’r gwyddorau ymddygiad, gan gynnwys yr hyn a elwir yn dechneg ‘pwniad’ (nudges), i’r bygythiadau sy’n wynebu bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae cymhwyso hyn i’r byd go iawn wedi cael ei wneud ar raddfa fach ac yn lleol ar y cyfan.”
“Mae gan y project hwn, dan arweiniad yr Athro Andrew Balmford o Brifysgol Caergrawnt, weledigaeth i ysgogi llawer mwy o waith yn y maes hwn a dangos pa fath o ymyriadau sydd â'r potensial mwyaf i newid yr ymddygiadau sy'n cael yr effaith fwyaf ar fioamrywiaeth.”
Roedd Julia yn un o 22 o gyfranogwyr a ddaeth ynghyd mewn gweithdy ym mis Ionawr 2020 i weithio allan sut a lle mae’r potensial mwyaf i wyddorau ymddygiad effeithio ar gadwraeth.
Yn y gweithdy edrychwyd ar 12 senario a nodwyd y 'cadwyni bygythiad' a'r grwpiau dylanwadol y gellid newid eu gweithredoedd.
Gan ddefnyddio datgoedwigo coedwigoedd Amazon fel enghraifft, maent yn disgrifio'r pwysau mawr ar ddatgoedwigo coedwigoedd a nifer o newidiadau ymddygiad a allai gael effaith, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae'r rhain yn cynnwys cwsmeriaid cig eidion ledled y byd, gwneuthurwyr polisi sy'n tanbrisio cadw coedwigoedd, a ffermwyr sy'n cael cymhelliant i droi coedwigoedd yn dir pori.
Yn yr un modd, yn agosach at adref, mae adar ysglyfaethus yn parhau i gael eu herlid yn anghyfreithlon yn y DU o ganlyniad i ddewisiadau gan rai ciperiaid i saethu a gwenwyno adar ysglyfaethus i leihau’r ysglyfaethu o grugieir coch, y mae rhai helwyr yn dewis talu prisiau eithriadol o uchel am 'fagiau' mawr ohonynt bob dydd, a dewisiadau gwneuthurwyr polisi i wrthsefyll ymdrechion i dynhau rheoliadau’r diwydiant saethu.
Y prif flaenoriaethau oedd nodi'r ymddygiadau sy’n cael fwyaf o effaith y mae angen eu newid a'r rhai sydd fwyaf agored i newid trwy ymyriadau neu ddulliau ysgogi a all, o'u hystyried gyda'i gilydd, helpu i nodi'r newidiadau ymddygiad sydd fwyaf tebygol o sicrhau buddion i natur.
“Ni all un ddisgyblaeth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr fel y bygythiad o ddirfodaeth yn yr argyfwng bioamrywiaeth, ac felly rhaid i sgyrsiau rhyngddisgyblaethol fel hyn ddod yn nodweddion cyffredin o’n bywyd deallusol” meddai’r awdur arweiniol Kristian Steensen Nielsen.
Ysgogi ar gyfer Natur: gall mabwysiadu ymyriadau newid ymddygiad fod o fudd i gadwraeth
Mae byd natur yn wynebu bygythiad digynsail. Mae gwaith diweddar yn tynnu sylw at sut y gall academyddion o wahanol ddisgyblaethau gyd-weithio'n agosach i wneud byd o wahaniaeth.