Nid oes rhaid i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd ar gymarebau rhyw cywion crwbanod m么r gostio'r ddaear
Gall dulliau syml fod yn effeithiol i sefydlogi cymarebau rhyw cywion crwbanod m么r, yn 么l ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi gan wyddonwyr Prifysgol Bangor.听
Caiff rhyw cywion crwbanod m么r ei bennu gan y tymheredd pan fydd yr wyau'n deor. Mae tymheredd uwch yn cynhyrchu mwy o fenywod, a thymheredd is yn cynhyrchu mwy o wrywod.听
Mae'r cynnydd yn nhymheredd y m么r wedi arwain at fwy o grwbanod m么r benywaidd. Mae rhai poblogaethau yn dangos tuedd o hyd at 90% o gywion benywaidd, gan arwain at effaith andwyol bosib ar hyfywedd y boblogaeth. Mae tymheredd uchel yn y tywod hefyd yn arwain at lai o lwyddiant wrth ddeor.
Mae'r , yn dangos bod gan ddau ymyriad y potensial o leihau tymheredd nythod a sefydlogi cymarebau rhyw mewn poblogaeth crwbanod pendew sy鈥檔 nythu yn nwyrain Cefnfor yr Iwerydd.听
Esboniodd Dr Leo Clarke, biolegydd m么r ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth:听
鈥淢ae gwaith blaenorol wedi rhoi technegau amrywiol i leihau tymereddau nythod crwbanod m么r ar brawf, yn cynnwys taenu鈥檙 nythod a鈥檜 rhoi yn y cysgod a symud wyau i labordai i ddeor.
鈥淥nd mae llawer o鈥檙 technegau hyn yn gofyn am lawer iawn o adnoddau a llawer iawn o waith. Mae safleoedd nythu crwbanod neu 'nythfaoedd' yn aml mewn lleoliadau anghysbell ac felly mae鈥檔 rhaid i鈥檙 atebion delfrydol fod yn syml ac yn rhad.
鈥淩hoddwyd dau ymyriad ar brawf gennym: rhoi鈥檙 nythod yn y cysgod a thechneg newydd rydym yn ei galw'n 鈥渉ollti鈥 nythod. Mae hyn yn golygu haneru nifer yr wyau mewn nyth, gan obeithio lleihau faint o wres metabolaidd y mae'r wyau yn ei gynhyrchu wrth iddynt ddeor a gostwng y tymheredd felly."
Gostyngodd y ddwy dechneg dymheredd y nythod o gymharu 芒 nythod naturiol. Roedd nythod yn y cysgod ar gyfartaledd yn 1.1掳C yn oerach ac roedd nythod wedi eu hollti yn 0.5掳C yn oerach, gan arwain at gymarebau rhyw o 1.5% benywod a 45% benywod, o gymharu 芒 69% benywod a gynhyrchwyd mewn nythod naturiol.听
Yn bwysig, nid oedd y naill dechneg na'r llall yn effeithio ar iechyd y cywion, 听er y gall tymereddau nythu effeithio arnynt hefyd.
Cywion crwbanod m么r
Mae'n rhaid i gywion allu osgoi ysglyfaethwyr ar y traeth
鈥淕wnaethom fesur pob math o elfennau yn gysylltiedig 芒鈥檙 cywion鈥, meddai Dr Clarke, 鈥済an gynnwys eu maint, pwysau, cyflymder rhedeg a pha mor gyflym roeddent yn gallu unioni eu hunain, ac ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth rhwng y nythod. Mae hyn yn bwysig iawn, gan fod rhaid i gywion allu osgoi ysglyfaethwyr ar y traeth ac ar 么l cyrraedd y m么r."听
Cynhaliwyd yr astudiaeth yn Cape Verde, Gorllewin Affrica, y trydydd safle nythu crwbanod pendew mwyaf yn y byd. Symudodd y t卯m wyau oddi wrth fenywod oedd yn nythu i ddeorfa ar lan y traeth er mwyn cynnal yr arbrawf.
鈥淏没m yn cerdded i fyny ac i lawr y traethau drwy鈥檙 nos yn cymryd wyau i鈥檔 harbrawf gan fenywod oedd yn nythu.鈥
Mae'r canlyniadau'n rhoi gobaith y gall rheolaeth syml helpu i ddiogelu poblogaethau crwbanod m么r sydd mewn perygl oherwydd newid yn yr hinsawdd.听
Mae鈥檙 ymchwilwyr yn credu y bydd y technegau'n effeithiol mewn mannau eraill.
鈥淢ae mwyafrif y poblogaethau o grwbanod m么r yn dodwy nifer fawr o wyau, weithiau 150 neu fwy, ac yn cynhyrchu cryn dipyn o wres metabolaidd, felly rydym yn credu y bydd hollti鈥檙 nythod yn gweithio mewn ardaloedd eraill ac ar gyfer rhywogaethau a phoblogaethau eraill鈥, meddai Dr Clarke.
鈥淢ae twristiaeth gwylio bywyd gwyllt, gan gynnwys crwbanod m么r, yn cynhyrchu cryn dipyn o arian mewn ardaloedd sydd 芒 phoblogaethau nythu, ac mae crwbanod m么r hefyd yn pori ar alg芒u a morwellt ac yn cyfrannu at iechyd ecosystemau riffiau cwrel. Felly mae gwarchod poblogaethau iach yn y dyfodol yn bwysig iawn鈥.
Mae鈥檙 papur 鈥鈥 ar gael trwy fynediad agored yn y Journal of Applied Ecology.
听