Cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cael ei chydnabod yn Rhestr 100 Arweinydd Ifanc Cadwraethol Gorau Affrica 2021
Mae cyn-fyfyrwraig coedwigaeth o Brifysgol Bangor wedi ei henwi yn Rhestr Sefydliad Bywyd Gwyllt Affrica o 100 Arweinydd Ifanc Cadwraethol Gorau Affrica 2021.
Enillodd y Dr Sarobidy Rakotonarivo MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol yn 2012 a PhD mewn Coedwigaeth yn 2016 gan yr Ysgol Gwyddorau Naturiol.听
Mae鈥檙 Dr Rakotonarivo yn wyddonydd cymdeithasol o Affrica sy'n cynnal ymchwil hanfodol ar y materion cymdeithasol o gadwraeth ac adfer coedwigoedd. Mae'r cyfeiriad gan Sefydliad Bywyd Gwyllt Affrica yn ei disgrifio fel arweinydd yn ei maes, sy鈥檔 tynnu sylw at effeithiau cymdeithasol cadwraeth, cyfiawnder a thegwch amgylcheddol, a materion deiliadaeth tir.听
Mae ei hymchwil yn dal sylw ar yr heriau cadwraethol cymhleth sy'n wynebu llawer o genhedloedd Affrica ac yn arddangos gwaith y cadwraethwyr hynny sy鈥檔 darparu atebion hanfodol. Mae hi'n angerddol am ddefnyddio tystiolaeth wyddonol i lywio'r broses o lunio polis茂au a bu鈥檔 ymgysylltu 芒 gwneuthurwyr penderfyniadau dylanwadol.听
Mae鈥檙 Dr Rakotonarivo hefyd wedi cyflwyno cyrsiau hyfforddiant maes ar fesurau diogelwch cymdeithasol ar gyfer rheolwyr ardaloedd gwarchodedig, awdurdodau'r llywodraeth a phobl o'r sector datblygu.
Ymfalch茂o yn llwyddianau Sarobidy
Dywedodd y Dr Rakotonarivo:
鈥淏u fy mlynyddoedd ym Mangor yn wirioneddol eithriadol ac maen nhw wedi llunio fy mhwyslais ymchwil a鈥檓 gyrfa gyfredol. Cefais griw gwych o fentoriaid ymroddedig a dysgais lawer iawn gan garfan ryngwladol o fyfyrwyr. Ym Mangor, ymgyfarwyddais 芒'r mynyddoedd a鈥檙 tirweddau syfrdanol, ac 芒 dimensiynau dynol materion amgylcheddol. Roedd pwyslais cymdeithasol i'm hastudiaethau ac ymchwil ym Mangor bob amser, ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed i mi."
Dywedodd Julia Jones, Athro Cadwraeth yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod Sarobidy wedi cael ei chydnabod fel hyn. Mae Sarobidy yn gwneud ymchwil mor arloesol a phwysig sy鈥檔 effeithio ar y byd go iawn. Rydym ni mor falch o'i chyflawniadau sy'n sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i bobl leol a'u hanghenion mewn polisi coedwigaeth a chadwraeth.鈥
Ar 么l degawd dramor yn astudio ac yn gweithio ym maes ymchwil rhyngwladol, mae鈥檙 Dr Sarobidy Rakotonarivo yn 么l ym Madagascar yn ei chyn-brifysgol, Prifysgol Antananarivo, lle mae'n parhau i gydweithio 芒 Phrifysgol Bangor ar y prosiect ar y cyd
Dyma鈥檙 rhestr gyntaf erioed o 100 arweinydd cadwraeth ifanc gorau Affrica, sy鈥檔 gydweithrediad rhwng Cynghrair Affrica sefydliadau鈥檙 YMCA, Sefydliad Mudiad y Sgowtiaid, Sefydliad Bywyd Gwyllt Affrica, a鈥檙 WWF i rymuso ymdrechion Affricaniaid ifanc, dawnus, ac i ysbrydoli pobl ifanc eraill i arwain y ffordd i sicrhau y bydd natur a phobl yn ffynnu am genedlaethau i ddod. Mae'r dynion a'r menywod ifanc eithriadol hyn wedi profi eu bod ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy yn Affrica.
Yn ogystal 芒 chael ei chydnabod ar y rhestr gyntaf o , bydd y Dr.Rakotonarivo yn ymgymryd 芒 rhaglen datblygu arweinyddiaeth blwyddyn o hyd.
Mae Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil a gwaith dysgu sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd mewn amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys swoleg, bioleg, coedwigaeth, daearyddiaeth,
amaethyddiaeth a chadwraeth.
脗鈥檙 Brifysgol wedi'i lleoli yn syfrdandod gogledd Cymru, yr Ysgol yw'r dewis amlwg i fyfyrwyr ac ymchwilwyr sydd 芒 diddordeb yn y byd a'r amgylchedd naturiol.听
听