Paratoi athrawon yfory ar gyfer addysgu ar ôl COVID-19
Gyda’r rhaglen frechlu yn ei hanterth ac ysgolion bellach yn ailagor, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn ymchwilio i effeithiau cau ysgolion oherwydd COVID-19 ar ddysgwyr, athrawon a theuluoedd.
Mae'r ymchwil eisiau archwilio'r heriau cysylltiedig â Covid y mae dysgwyr ac ysgolion wedi’u hwynebu a sut i baratoi athrawon yfory orau i oresgyn yr heriau hyn. Mae'r gwaith yn cynnwys sawl astudiaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill sy'n cynnig Addysg Gychwynnol Athrawon ledled Cymru. Ariennir y gwaith gan Lywodraeth Cymru ac mae Bangor yn gysylltiedig â phedair o'r astudiaethau hyn.
Mae'r astudiaeth gyntaf yn archwilio effaith cau ysgolion ar iechyd a lles dysgwyr ac athrawon, gan nodi materion diogelu a phwysigrwydd cynyddol dysgu yn yr awyr agored.
Mae'r ail astudiaeth yn edrych ar yr effaith ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Gymraeg oherwydd pryderon ynglŷn â dysgwyr yn cael llai o gysylltiad â'r Gymraeg, yn enwedig plant sy'n byw mewn cartrefi di-Gymraeg.
Mae ymchwilwyr sy'n gysylltiedig â'r drydedd astudiaeth yn canolbwyntio ar effaith cyfyngiadau ar ddysgwyr ar draws amrywiaeth o ysgolion, yn enwedig y rhai sy'n cael eu hystyried dan anfantais.
Mae'r bedwaredd astudiaeth yn ymchwilio i bwysigrwydd ymrwymiad rhieni i addysg a sut mae symud dysgu yn gyfan gwbl i'r cartref wedi effeithio ar deuluoedd, athrawon a dysgwyr.
Bydd y pedair astudiaeth yn helpu i lywio hyfforddiant athrawon yfory i sicrhau eu bod yn barod i gwrdd â'r heriau hyn gyda dulliau a strategaethau effeithiol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae ymchwilwyr yn siarad â rhieni, athrawon, dysgwyr a myfyrwyr a darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i glywed am eu profiadau, yn ogystal â rhanddeiliaid pwysig fel Estyn. Dechreuodd y projectau ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl iddynt orffen ym mis Mai 2021 pan fydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i'r llywodraeth.
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams: “Rydw i mor falch o sut mae ein prifysgolion yng Nghymru wedi cyfrannu at gefnogi’r ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafirws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Bydd yr ymchwil ddiweddaraf hon yn helpu i ddangos sut mae ein pobl ifanc a'n system addysg wedi cael eu heffeithio yn ystod y pandemig, a sut y gallwn ni fel llywodraeth ddysgu ac addasu yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Margiad Williams, y Cyfarwyddwr Ymchwil dros dro yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor: “Mae COVID-19wedi arwain at darfu enfawr ar addysg a bywyd teuluol felly mae'n hanfodol ein bod yn ceisio deall y newidiadau hyn a'u heffeithiau. Mae'r astudiaethau hyn yn ein galluogi i ymchwilio i'r heriau a nodi arferion da i helpu i sicrhau bod gweithlu addysgu'r dyfodol yn cael eu paratoi. Rydym yn falch iawn o gydweithio â chydweithwyr ledled Cymru ar y projectau pwysig hyn”.
Mae Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer darpar athrawon sydd eisiau gweithio mewn addysg gynradd ac uwchradd, yn ogystal â datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon sydd wedi cymhwyso trwy bartneriaeth CaBan. I gael rhagor o fanylion ewch i