‘Zoomposiwm’ i drafod cyfansoddwr Cymraeg o fri
Mae Ysgol Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor yn cynnal symposiwm ar lein a fydd yn trafod cerddoriaeth John Metcalf, cyfansoddwr o fri yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Cynhelir y ‘Zoomposiwm’ drwy gydol dydd Gwener, 12 Mawrth 2021, mae am ddim i’w fynychu . Trefnir mewn cydweithrediad â Gŵyl Gerdd Bangor, Tŷ Cerdd a’r Gymdeithas Gerddorol Frenhinol.
Yn ystod y dydd, bydd cyfres o sgyrsiau gan siaradwyr gwadd uchel eu parch, yn canolbwyntio ar y rhan fwyaf o waith John Metcalf yn ystod ei yrfa lewyrchus, sy’n cynnwys ei operâu, ei gerddoriaeth gerddorfaol, siambr, lleisiol a chorawl ynghyd â’i gyfraniad i’r bywyd cerddorol o fewn Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Dr Guto Pryderi Puw, trefnydd y ‘Zoomposiwm’ a Darllenydd Cyfansoddi Cerdd ym Mhrifysgol Bangor:
“Credaf fod dathliad cyfraniad cerddorol John Metcalf ac yntau yn 75 oed yn un haeddiannol iawn. Bydd llawer yn cytuno gyda mi ei fod yn cael ei gydnabod fel un o brif gyfansoddwyr Cymreig o’i genhedlaeth a thrwy ei gyfansoddiadau a’i amrywiol ymrwymiadau yn cyfarwyddo gwyliau cerddorol dros y blynyddoedd mae ei gyfraniad arwyddocaol at fywyd cerddorol o fewn y wlad hon wedi bod yn amhrisiadwy.”
Cyfoethogir y digwyddiad ymhellach gyda pherfformiadau o nifer detholedig o weithiau Metcalf fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, gan gynnwys ei Harp Scrapbook, perfformiad rhag blaen o’i bedwarawd llinynnol Winter Journey a chasgliad o’i ganeuon a gyfansoddwyd drwy gydol ei yrfa lwyddiannus.
Mae’n canmol cyfraniad Gŵyl Gerdd Bangor, ac meddai:
“Does dim digon o blatfformau ar gyfer cerddoriaeth newydd yng Nghymru ac mae diffyg trafodaeth feirniadol am gerddoriaeth newydd yng Nghymru. Mae’r ŵyl yn cyfrannu rôl bwysig.
“Rwy’n ymhyfrydu yn yr hyn maent yn ei wneud i mi. Mae’r ffaith bod Guto eisiau gwneud hyn yn ystyriol iawn ac mae’n golygu gymaint i mi.”