Mae newydd ei rhyddhau ar Oculus Quest ac mae鈥檔 amserol iawn yn dilyn derbyn y lluniau cyntaf o gerbyd Perseverance ar blaned Mawrth yn ddiweddar.听
G锚m 'saethwr' person cyntaf ydyw lle mae'r chwaraewr wedi glanio ar blaned arall ac mae'n rhaid iddo amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau gan rywogaeth estron cyn cael ei achub.
Ond mae mwy o hanes na hynny i鈥檙 rhaglen.
Mae Ll欧r ap Cenydd, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor wedi bod 芒 chysylltiad agos 芒 phensetiau rhithrealiti Oculus o鈥檙 cychwyn cyntaf. Datblygodd rai o'r apiau cyntaf oedd ar gael, gan gynnwys Ocean Rift, saffari tanddwr rhithwir ac un o raglenni rhithrealiti mwyaf poblogaidd y byd.听
Mae Ll欧r yn egluro mai un arall o鈥檌 brojectau amser hamdden cynnar yw Crashland.听
鈥凄别肠丑谤别耻辞诲诲 Crashland fel demo technolegol yn 2013 pan o鈥檔 i鈥檔 arbrofi efo gwahanol ffyrdd o symud a thracio鈥檙 corff dynol mewn rhithrealiti. Roedd o鈥檔 demo poblogaidd iawn ar y pryd ond mi gafodd ei roi yn y dr么r pan o鈥檔 i鈥檔 canolbwyntio ar ddatblygu Ocean Rift ar gyfer y pensetiau masnachol cyntaf. Mi wnes i ddychwelyd at y cysyniad o bryd i鈥檞 gilydd dros y blynyddoedd, ond lansiad Oculus Quest ddaru fy mherswadio i yn y diwedd ei bod yn bryd ei ddatblygu'n g锚m lawn.
鈥淭ra bo gallu nofio efo siarcod yn Ocean Rift yn wych, mae Crashland yn cyflwyno profiad mwy cyntefig, ac mae hefyd yn adlewyrchu鈥檙 cariad sydd wastad wedi bod gen i at bob math o sci-fi.鈥
Manteisio i鈥檙 eithaf ar y dechnoleg
Mae Ll欧r yn esbonio mai'r hyn y mae Crashland听yn ei gynnig yw animeiddio gweithdrefnol wedi ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial.听
鈥淏eth mae hynny'n ei olygu ydy bod yr animeiddiad y mae'r chwaraewr yn ei weld yn cael ei gynhyrchu'n fyw wrth iddyn nhw chwarae, gan roi profiad unigryw bob tro mae rhywun yn chwarae. Dydyn nhw ddim yn cael yr un animeiddiad bob tro. Mae hyn yn rhoi naws fwy gweledol, go iawn iddo,鈥 meddai.
Mae'r dechnoleg rhithrealiti yn rhedeg ar ff么n symudol, ac arbenigedd Ll欧r yw manteisio i鈥檙 eithaf ar y dechnoleg i ddarparu'r graffeg animeiddio gorau posibl.
I'r rhai sy'n anghyfarwydd 芒 phensetiau rhithrealiti, eglura Ll欧r:
鈥淧enset rhithrealiti yw Oculus Quest sy'n rhoi profiad trochi 3D i'r sawl sy鈥檔 ei gwisgo. Mae tracio lleoliad felly wrth i'r gwisgwr symud ei ben, mae beth maen nhw鈥檔 ei brofi yn newid. Ond mae hefyd yn tracio symudiadau鈥檙 dwylo, gan ei wneud y profiad rhithrealiti yn un trochol iawn."
Ym Mhrifysgol Bangor, caiff myfyrwyr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y cyfle i archwilio amrywiaeth helaeth o dechnolegau a chydweithio gydag ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r byd.
Ychwanegodd Ll欧r,听
鈥淢ae gennym lawer o fodiwlau yn yr adran hon fel Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer gemau, rhaglenni a graffeg gyfrifiadurol. Mae'r holl elfennau yma'n gysylltiedig 芒 rhithrealiti. Yn y drydedd flwyddyn, mae gan fyfyrwyr broject traethawd hir, lle c芒nt ddewis treulio'r flwyddyn gyfan yn gweithio ar eu project rhithrealiti eu hunain.
Maent yn cydweithio 芒 darlithydd fel fi ac rydym yn treulio blwyddyn yn datblygu eu prototeip ac mae'n bosib mai dyna fydd y prif beth ar eu CV pan fyddant yn graddio, ac felly mae'n rhan bwysig iawn o'u blwyddyn olaf.鈥