惭补别鈥檙 , yn amcangyfrif bod mwy na 2 filiwn o fetrau ciwbig o wastraff dynol y dinasoedd yn cael ei brosesu bob blwyddyn heb seilwaith peirianyddol. Mae hynny鈥檔 cynnwys gwastraff geudai pwll sy'n hidlo trwy'r pridd yn raddol - ac mae鈥檙 broses naturiol yn ei lanhau cyn iddo gyrraedd d诺r daear.
鈥淕all byd natur chwarae r么l seilwaith glanweithdra ac yn wir mae鈥檔 gwneud hynny. Er nad ydym yn dibrisio y r么l hanfodol sydd i seilwaith peirianyddol, credwn y byddai gwell dealltwriaeth o sut mae seilwaith peirianyddol a seilwaith naturiol yn rhyngweithio鈥檔 fodd i addasu鈥檙 dylunio a鈥檙 rheoli, lleihau costau, a gwella effeithiolrwydd a chynaliadwyedd, a diogelu bodolaeth barhaus yr ardaloedd hynny o dir.鈥 聽meddai Alison Parker, Uwch Ddarlithydd mewn D诺r a Glanweithdra Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cranfield yn y Deyrnas Unedig ac un o awduron yr astudiaeth.
Mae seilwaith trin d诺r gwastraff sy'n troi baw dynol yn gynhyrchion diogel yn offeryn pwysig yn iechyd pobl yn fyd-eang. Fodd bynnag, nid oedd gan fwy na 25% o boblogaeth y byd gyfleusterau glanweithdra sylfaenol yn 2017 ac roedd 14% yn rhagor yn defnyddio toiledau a waredai鈥檙 gwastraff ar y safle. Er y gallai peth o'r gwastraff hwn fod yn beryglus i boblogaethau lleol, awgryma鈥檙 ymchwil blaenorol fod gwlypdiroedd a mangrofau naturiol, er enghraifft, yn cynnig triniaeth effeithiol.
Mae gwlypdir Navikubo yn Wganda鈥檔 prosesu d诺r gwastraff heb ei drin o fwy na 100,000 o aelwydydd, ac mae hynny鈥檔 amddiffyn Bae Murchison a Llyn Victoria rhag halogion niweidiol, ac yn yr Unol Daleithiau mae gwlypdiroedd arfordirol yng Ngwlff Mecsico yn tynnu nitrogen o Afon Mississippi.聽
鈥淔e wnaethon ni sylweddoli fod byd i natur o reidrwydd yn cyflawni gwasanaethau glanweithdra, oherwydd nad oes gan gynifer o bobl yn y byd ddim seilwaith peirianyddol fel carthffosydd,鈥 ychwanega Simon Willcock, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig, ac un o awduron eraill yr astudiaeth. 鈥淥nd doedd fawr ddim cydnabyddiaeth i r么l byd natur.鈥澛
Er mwyn deall yn well sut mae ecosystemau naturiol yn prosesu gwastraff, fe wnaeth t卯m Prifysgol Bangor, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Durham, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol Hyderabad (India) a Rhwydwaith Gweithredu D诺r Ffres, De Asia, fwrw amcan ynghylch gwasanaethau ecosystemau glanweithdra 48 o ddinasoedd sy'n cynnwys tua 82 miliwn o bobl trwy ddefnyddio Diagramau Llif Carthion, sy'n defnyddio cyfuniad o gyfweliadau personol, arsylwadau anffurfiol a ffurfiol, a mesuriadau maes uniongyrchol i ddogfennu sut mae carthion dynol yn llifo trwy ddinas neu dref.
Bu鈥檙 ymchwilwyr yn asesu鈥檙 holl ddiagramau a oedd ar gael ar Ragfyr 17, 2018, gan ganolbwyntio ar y rhai a oedd wedi鈥檜 codio fel 鈥渟lwtsh carthol heb ei wagio鈥 (FSCNE), a鈥檙 gwastraff yn mynd i geudy pwll neu danc septig o dan y ddaear, ond nad yw鈥檔 peri risg i dd诺r daear, er enghraifft oherwydd bod lefel y trwythiad yn rhy ddwfn.
Mae natur yn darparu glanweithdra
Tanbrisio gwasanaethau ecosystemau glanweithdra
O fwrw amcan ceidwadol, mae Willcock a鈥檌 gydweithwyr yn amcangyfrif bod natur yn prosesu 2.2 miliwn o fetrau ciwbig o wastraff dynol y flwyddyn yn y 48 dinas hyn. Oherwydd bod mwy nag 892 miliwn o bobl ledled y byd yn defnyddio cyfleusterau gwaredu gwastraff toiledau fel y rhain ar y safle, maent yn amcangyfrif hefyd bod natur yn glanweithio tua 41.7 miliwn o dunelli o wastraff dynol y flwyddyn cyn i'r hylif fynd i mewn i'r d诺r daear - gwasanaeth sy'n werth tua $4.4 biliwn y flwyddyn.
Fodd bynnag, noda'r awduron fod yr amcangyfrifon hyn yn debygol o danbrisio gwir werth gwasanaethau ecosystemau glanweithdra, oherwydd gall y prosesau naturiol gyfrannu at ddulliau eraill o brosesu d诺r gwastraff, er ei bod yn anoddach meintioli'r rheini.
Mae Willcock a鈥檌 gydweithwyr yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau鈥檔 taflu goleuni ar y cyfraniad mawr y mae byd natur yn ei wneud i fywydau beunyddiol llawer o bobl er nad oes cydnabyddiaeth i hynny鈥檔 aml iawn, a hynny鈥檔 fodd i amddiffyn ecosystemau fel y gwlypdiroedd sy'n amddiffyn cymunedau i waered afon rhag llygryddion y d诺r gwastraff.
鈥淗offem hybu gwell cydweithrediad rhwng ecolegwyr, ymarferwyr glanweithdra a chynllunwyr dinasoedd i helpu byd natur a鈥檙 seilwaith weithio鈥檔 well gyda鈥檜 gilydd, ac amddiffyn byd natur ac yntau鈥檔 darparu gwasanaethau glanweithdra,鈥 meddai Parker.