Mae'r elusen cadwraeth y môr, Sea Trust Wales, ynghyd â'r cyflenwr pysgod cregyn mwyaf yn Ewrop, Macduff Shellfish, a'r Ganolfan BioGyfansoddion, canolfan ymchwil arbenigol ym Mhrifysgol Bangor, yn ceisio dod o hyd i ddewis arall cynaliadwy yn lle bagiau abwyd plastig wedi'u gwehyddu a ddefnyddir gan bysgotwyr pysgod cregyn ac mewn ffatrïoedd prosesu bwyd môr. Os bydd yn llwyddiannus, gall fod iddo ddefnydd ehangach ar draws dyframaeth, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.
Cefnogir y project tri mis gan Gronfa Arloesi Bwyd Môr y Deyrnas Unedig, rhaglen gwerth £10 miliwn sy'n cefnogi syniadau newydd i ddarparu technoleg ac arloesedd blaengar i ddiwydiannau pysgota, dyframaeth a bwyd môr y Deyrnas Unedig.
Nid yw'n hawdd ailgylchu'r bagiau abwyd, a ddefnyddir yn gyffredin yn y sector pysgota gwichiaid. Eu tynged yn aml yw safleoedd tirlenwi neu weithiau gallant hedfan i ffwrdd dros ymyl y cwch/llong i mewn i’r dŵr pan gânt eu defnyddio ar y môr, gan effeithio ar fywyd gwyllt y môr a’r arfordir. Nid ydynt chwaith yn hawdd i'w glanhau i'w hail-ddefnyddio.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol hon yn archwilio sut mae'r pysgotwyr yn defnyddio'r bagiau ar hyn o bryd, yn archwilio sut y gellid eu glanhau, a, thrwy economi gylchol, ailbrosesu’r deunydd yn fag polymer sy'n fwy cadarn ac yn hawdd ei ailgylchu. Gobaith y tîm yw y gallai'r bartneriaeth ddatblygu bag bioplastig bioddiraddadwy cadarn, y gellir ei werthu’n fasnachol, a fyddai â defnydd ehangach hefyd ar draws dyframaeth, amaethyddiaeth a phrosesu bwyd.
Dywedodd Lloyd Nelmes, Swyddog Project Morol, yn Sea Trust Wales:
“Yn ein swydd, rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i ofalu am ein bywyd gwyllt morol ac arfordirol a lliniaru unrhyw beryglon trwy gynnig atebion arloesol. Daeth mater bagiau abwyd i’n sylw gan bysgotwyr lleol ac wrth i ni ddigwydd cyfarfod â Macduff Shellfish mewn cynhadledd cynaliadwyedd. Fe wnaeth hyn ein gosod ar y llwybr i gydweithio i fynd i’r afael â’r mater, a gwneud cais am gyllid.
“Roeddem wrth ein bodd pan gymeradwywyd y project gan Gronfa Arloesi Bwyd Môr y Deyrnas Unedig, ac edrychwn ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei ddatblygu gydag arbenigedd .”
Ychwanegodd Claire Pescod, Pennaeth Cynaliadwyedd a Gwyddoniaeth yn Macduff Shellfish:
“Mae cynaliadwyedd wrth wraidd busnes Macduff Shellfish. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ymchwil wyddonol i lywio a gwella rheolaeth pysgodfeydd yn ogystal ag ystod eang o fentrau cynaliadwyedd fel y project bagiau abwyd hwn.
“Rydyn ni wedi gweithio’n galed ar leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau yn ein cadwyn gyflenwi, ond roedd bagiau abwyd yn un maes sydd angen mwy o waith i ddod o hyd i ddewis arall y gellir ei werthu’n fasnachol ac sy’n gost-effeithiol. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Sea Trust a'r Ganolfan BioGyfansoddion gyda chyfraniad gan bysgotwyr gwichiaid, ac yn gobeithio y gallwn, gyda'n gilydd, wneud newidiadau go iawn er gwell.”
Dywedodd Rob Elias o Brifysgol Bangor:
“Agwedd bwysig yw sicrhau bod unrhyw fag abwyd newydd yn perfformio'n well na'r hyn y byddai'n ei ddisodli. Rydym yn gwybod bod pysgod cregyn ar hyn o bryd yn cael eu dal yn rhwyll y bagiau, ac yn anodd eu tynnu. Bydd rhan allweddol o'n gwaith yn cael ei lywio trwy gyfweld â physgotwyr a darganfod y materion sy'n eu hwynebu. O hynny, gallwn geisio gwella defnyddioldeb a chynaliadwyedd y bagiau, gan gadw'r cadernid sydd ei angen.
“Rydyn ni’n gobeithio mai dim ond rhan gychwynnol project tymor hwy yw hwn i ddod o hyd i’r ‘greal sanctaidd’- bioplastig bioddiraddadwy arall y gellir ei werthu’n fasnachol, sydd â llawer o ddefnyddiau ar draws gwahanol ddiwydiannau.”