Prifysgol Bangor i weithio gyda Cufflink i gynorthwyo pobl i gymryd rheolaeth yn 么l dros eu data
Mae preifatrwydd yn fater hollbwysig yn ein cymdeithas gyfoes. Eto i gyd, nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn deall sut mae data personol yn cael ei gasglu, ei ddefnyddio na'i rannu gan apiau, gwefannau a gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol.
Nid yw hynny鈥檔 cael ei wneud yn ddim haws gan y telerau ac amodau y mae angen i ni 'gytuno' arnynt. Mae'r rhain yn amlach na pheidio yn cael eu hysgrifennu ar gyfer cyfreithwyr yn hytrach nag ar gyfer dinasyddion. Ni ellir beio neb am beidio 芒'u darllen. Canlyniad hynny yw bod pobl, er gwaetha鈥檙 gwerth a r么nt ar eu preifatrwydd, yn meddwl y bydd yn anorfod yn cael ei ecsbloetio.听
Nid oes raid i bethau fod fel hyn.听
Mae t卯m o Brifysgol Bangor yn cael ei ariannu gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i weithio gyda Cufflink, cwmni sydd 芒 chysylltiadau byd-eang 芒鈥檌 chanolfan ym Mharc Gwyddoniaeth M-SParc y Brifysgol.听
Nod Prif Swyddog Gweithredol Cufflink, Billy Williams, yw chwyldroi'r ffordd y byddwn yn storio ac yn rhannu data personol.听
Mae t卯m Prifysgol Bangor dan arweiniad yr Athro Andrew McStay a'r Athro Vian Bakir yn bwriadu dehongli鈥檙 materion moesegol sy'n gysylltiedig 芒 'systemau rheoli gwybodaeth bersonol' er mwyn galluogi defnyddwyr i reoli eu data a'u gwybodaeth bersonol yn hawdd ac yn ddiogel.听
Bydd yr ymchwilwyr yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhan y gallai apiau storio data personol ei chwarae yn ail-gydbwyso'r economi ddata yn 么l o blaid dinasyddion. I wneud hynny byddant yn dadansoddi cystadleuwyr, apiau a chyfraith diogelu data, yn cyfweld 芒 gwneuthurwyr polisi, ac yn canfod beth mae dinasyddion yn ei feddwl am hyn trwy gyfrwng arolygon a grwpiau ffocws yn y Deyrnas Unedig. Byddant hefyd yn datblygu argymhellion a chyfarpar ar gyfer unrhyw gwmni sy'n datblygu 'systemau rheoli gwybodaeth bersonol.'聽
Dywedodd yr Athro Andrew McStay:聽
鈥淢ae'n wych cael gweithio gyda Cufflink ar y mater hwn. Gan fod data personol am bobl yn rhan mor sylfaenol o'r byd modern, mae'n bryd i ni sicrhau bod data personol yn gweithio o blaid pobl, yn hytrach nag yn eu herbyn. Rydym yn edrych ymlaen at ganfod beth y gall ap Cufflink ei olygu i'r dinesydd cyffredin sydd 芒 phethau gwell i'w gwneud na darllen telerau ac amodau maith."聽
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cufflink, Billy Williams:聽
鈥淢ae Cufflink yn gadael i chi reoli'n hawdd pa wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu ac at ba ddiben. Trwy gydweithio ag awdurdodau ar breifatrwydd a moeseg data sydd gyda'r gorau yn y byd ym Mhrifysgol Bangor, ein nod yw helpu pobl i fod yn fwy diogel ac yn ddoethach pan ddaw at rannu eu gwybodaeth bersonol ar-lein."聽
Mae'r gwerth cost economaidd llawn oddeutu 拢480,000.听
Yn ddiweddar, enillod Cufflink y wobr Cyber Start-up 聽yn y .听