Annog myfyrwyr Bangor i gefnogi Gwynedd i frwydro Covid-19
Datganiad i'r Wasg Cyngor Gwynedd Council
Wrth i Brifysgol Bangor 芒鈥檙 gymuned ehangach groesawu myfyrwyr yn 么l i鈥檙 ardal ar gyfer dechrau鈥檙 flwyddyn academaidd newydd, mae Cyngor Gwynedd yn annog myfyrwyr i wneud yn si诺r eu bod yn ymwybodol o鈥檙 rheolau Covid-19 diweddaraf.
Drwy ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae gan fyfyrwyr r么l allweddol i gadw eu hunain, eu ffrindiau 芒鈥檙 gymuned ehangach yn ddiogel mewn cyfnod allweddol pan mae niferoedd yr achosion o Covid-19 unwaith eto yn anffodus ar gynnydd.
Dros y misoedd diwethaf, mae Prifysgol Bangor wedi gosod mesurau mewn lle i alluogi fod staff a myfyrwyr yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau Covid yn eu hadeiladau, ond mae鈥檔 bwysig fod unigolion yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru mewn siopau a mannau cyhoeddus yn y gymuned ehangach.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
鈥Mae myfyrwyr yn rhan ganolog o鈥檙 gymuned ym Mangor, a bydd eu dychweliad yn cynnig hwb i鈥檙 economi鈥檙 ddinas yn y cyfnod anodd hwn.
鈥淔odd bynnag, mae dechrau鈥檙 tymor yn wahanol iawn i鈥檙 blynyddoedd a fu, ac mae鈥檔 hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan i atal lledaeniad yr haint.
鈥淕ydag achosion Coronafeirws ar gynnydd, a chyfyngiadau lleol mewn lle mewn nifer o leoliadau ar draws y DU, mae鈥檔 bwysicach nag erioed fod y gymuned myfyrwyr 芒鈥檙 gymuned ehangach yn tynnu gyda鈥檌 gilydd i osgoi sefyllfa o鈥檙 fath yma yng Ngwynedd.
鈥淔el rhan o鈥檙 ymdrech ar y cyd, mae swyddogion o鈥檔 t卯m gwarchod y cyhoedd wedi bod mewn trafodaeth gyda Phrifysgol Bangor i gynnig cymorth a chyngor fel bo鈥檙 angen. Mae ein gwasanaeth trwyddedu hefyd wedi bod allan gyda鈥檔 partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru yn siarad gyda pherchnogion tafarndai yn ardal Bangor i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o鈥檙 canllawiau diweddaraf fel y gallant gadw eu cwsmeriaid yn ddiogel.鈥
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: 鈥淲rth inni ddychwelyd i addysgu ar y campws, rydym yn ymwybodol iawn o鈥檔 r么l yn creu'r amgylchedd mwyaf diogel posibl i'n myfyrwyr, i staff ac i'r gymuned ehangach. I'r perwyl hwn, mae鈥檙 Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a鈥檔 myfyrwyr yn gwneud Ymrwymiad Cymunedol i weithio gyda'i gilydd trwy'r cyfnod hwn.听
鈥淢ae'r Brifysgol wedi bod yn cyfathrebu gyda myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd yngl欧n 芒'r hyn y gallant ei ddisgwyl a beth yw eu cyfrifoldebau nhw i'w gilydd, i鈥檙 Brifysgol ac i'r gymuned leol. Byddwn yn parhau i bwysleisio canllawiau Covid-19 trwy gydol ein rhaglen Groeso a chyhyd ag y bydd angen, a byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae eu rhan.听
鈥淵n naturiol, bydd pethau'n wahanol iawn eleni, ond ein bwriad o hyd yw darparu profiad prifysgol gwych i fyfyrwyr drwodd a thro. Rydym yn ddiolchgar bod gennym berthynas waith gref rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a gyda'n partneriaid cymunedol yng Nghyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac eraill.鈥
Mae effeithiau鈥檙 Coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i ni gyd, felly gwnewch yn si诺r eich bod yn dilyn rheolau ac ymarfer da:
- parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr;
- golchi eich dwylo鈥檔 rheolaidd;
- gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus dan-d么 megis siopau neu drafnidiaeth gyhoeddus;
- dim cyfarfodydd o fwy na chwe pherson tu fewn;
- os ydych yn cwrdd 芒 phobl o aelwyd arall, sydd ddim yn ran o鈥檆h aelwyd estynedig, gwnewch hynny y tu allan;
- dilynwch yr arwyddion 芒鈥檙 cyfarwyddiadau sy鈥檔 eu lle mewn siopau, tafarndai ayb.
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Griffith: 鈥淩ydym yn annog pawb i ddilyn cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru yn llawn - peidiwch ag anghofio i fynd 芒鈥檆h masg gyda chi pan fyddwch yn picio allan, a gwneud yn si诺r ei fod yn gorchuddio eich ceg a鈥檆h trwyn os ydych yn mynd fewn i siop neu leoliad arall.
鈥淒ilynwch y rheolau ymbellhau cymdeithasol tra yn y siop neu leoliad cyhoeddus dan-d么 os gwelwch yn dda - fyddai peidio gwneud hynny yn arwain i鈥檙 Cyngor weithredu yn erbyn y busnesau hynny.
鈥淔el Cyngor, nid ydym yn cymryd y camau hyn yn ysgafn, felly rydym yn annog perchnogion busnesau i gymryd y camau priodol a gofyn i gwsmeriaid ddilyn y rheolau. Rydym hefyd yn gofyn i gwsmeriaid barchu staff unrhyw sefydliad fyddai鈥檔 gofyn i chi wisgo gorchudd wyneb neu unrhyw ganllaw arall.鈥
Arhoswch gartref a听听os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwydydd estynedig听. Os byddwch yn cael cais gan y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu i hunan-ynysu oherwydd eich bod wedi bod mewn cyswllt gyda rhywun sydd wedi profi鈥檔 bositif am yr haint, mae鈥檔 bwysig eich bod yn cydymffurfio er lles y gymuned gyfan.
Dilynwch ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar .
听