Mam i chwech yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs ugain mlynedd ar 么l dechrau
Mae mam i chwech o blant wedi gwireddu ei breuddwyd o fod yn nyrs 20 mlynedd ar 么l iddi roi'r gorau i'w chwrs i gael babi - ac wedi goresgyn heriau'r pandemig coronafeirws ar yr un pryd.
Mae Katherine Cummings, o Goedpoeth, ger Wrecsam, bellach yn dathlu'r ffaith ei bod wedi graddio a'r ffaith bod y babi hwnnw, ei mab hynaf, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cofrestrodd fel myfyriwr nyrsio yn 2000 ond aeth i ddisgwyl ei phlentyn cyntaf ar 么l ei blwyddyn gyntaf - ac ar 么l cael pump o blant eraill, aeth yn 么l i Brifysgol Bangor ac mae hi bellach wedi ennill ei gradd nyrsio.
Mae'n ddathliad dwbl i'r teulu oherwydd bod y bachgen bach hwnnw, Ryan, bellach yn 20 oed ac yn ei ail flwyddyn yng Nghaergrawnt yn astudio Gwyddorau Naturiol.
Ond nid yw wedi bod yn hawdd i Katherine, sy'n 40 oed, y tro hwn ychwaith gan i'r pandemig coronafeirws fygwth difetha ei chynlluniau.
Ganwyd ei merch Sinead, sy'n 18 oed, yn anabl ac mae hi ar restr warchod Covid-19 ac yn aros gartref tra bod ei mam wedi bod ynghanol y frwydr yn erbyn y feirws ar y wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Meddai Katherine: 鈥淩oeddwn yn ofnus iawn yngl欧n 芒'r peth, yn enwedig gan fod fy merch ar y rhestr warchod, felly roedd yn benderfyniad anodd i barhau oherwydd eich bod fel rhiant bob amser yn ceisio rhoi eich plentyn yn gyntaf.
鈥淥nd dyma beth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud erioed a buasai'n rhaid i mi barhau ar 么l cymhwyso beth bynnag - ac roedd wedi cymryd gymaint o amser i mi. Allwn i ddim rhoi'r ffidil yn y to a minnau mor agos.
鈥淎r 么l dod yn 么l i nyrsio bu raid i mi wneud cwrs mynediad dwy flynedd oherwydd fy mod wedi bod allan o addysg cyhyd a dim ond 16 wythnos oedd ar 么l tan y byddwn yn graddio ar ddiwedd tair blynedd arall.
鈥淲nes i barhau oherwydd roeddwn i'n gwybod pe bawn i'n cadw at yr holl fesurau diogelu, yna fuaswn i ddim yn dod 芒'r feirws adref i'r plant.
鈥淩wy'n cael cawod ac yn newid yn y gwaith, felly dylai unrhyw risg o haint fod wedi mynd gan fy mod yn hollol l芒n pan fyddai'n mynd i mewn i'r car i yrru adref, ac mae hyn wedi gweithio.鈥
Mae breuddwyd Katherine wedi ei gwireddu o'r diwedd ac meddai: 鈥淩oeddwn i eisiau bod yn nyrs erioed ond rydw i'n meddwl fy mod i'n rhy ifanc y tro cyntaf efallai.
鈥淢ae angen aeddfedrwydd a sgiliau bywyd arnoch chi ond roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod yn nyrs, dyna oedd fy mreuddwyd.
鈥淩wy鈥檔 dod o deulu o nyrsys ar ochr fy nhad, gan gynnwys pedair chwaer sydd i gyd yn nyrsys a gofalwr oedd fy mam, Denise, a phan gafodd ganser roedd rhaid i ni ofalu amdani hi.鈥
Gan nad yw'r freuddwyd wedi bod yn hawdd i Katherine ei gwireddu, gan ei bod wedi gorfod ymdopi 芒'i chwrs prifysgol, lleoliadau gwaith a chwech o blant, mae cefnogaeth ei theulu agos wedi bod yn achubiaeth.
Ond mae'n dweud ei bod wedi mwynhau'r cwrs yn fawr a'i hamser ar gampws Wrecsam Prifysgol Bangor a dywedodd: 鈥淢ae'r t卯m yn un clos iawn yno ac rydych yn dod i adnabod yr holl diwtoriaid yn ogystal 芒'r myfyrwyr nyrsio.
鈥淩ydyn ni wedi bod yn lwcus iawn o'r bobl sydd wedi bod yn gofalu amdanon ni ac mae Dianne Rimmer, fy nhiwtor personol, wedi bod yn dda iawn.
鈥淩ydw i wedi bod yn debyg i'r cynrychiolydd undeb neu鈥檙 fam. Mae'r myfyrwyr eraill yn dod ataf i os oes ganddyn nhw broblem.
鈥淎r yr un pryd, rydw i wedi cael digon o gefnogaeth gan fy nheulu i gyd gyda鈥檙 plant ac mae nhw wedi bod yn dda iawn hefyd.鈥
Meddai Dianne Rimmer, Darlithydd听 Gwyddorau Iechyd a chyn-fetron: 鈥淜atherine yw鈥檙 un sy鈥檔 datrys unrhyw broblemau bob amser a hi yw llefarydd y gr诺p.
鈥淗i hefyd yw'r cyntaf i helpu rhywun a'r cyntaf i wirfoddoli mewn dyddiau agored, dyddiau derbyn a dyddiau cyfweld - maen nhw'n dweud os ydych eisiau i rywbeth gael ei wneud, gofynnwch i rywun prysur, ond dydw i ddim yn gwybod sut mae hi'n cael yr amser i wneud pob dim.
鈥淣id yn unig mae hi'n gwneud ei gwaith a'i lleoliadau, ond mae hi'n gwneud cymaint o听 weithgareddau allgyrsiol hefyd ac mae hi'n eu gwneud am fod ganddi awydd i helpu pobl ac i roi bobl eraill yn gyntaf."
Mae lleoliadau Katherine wedi cynnwys wardiau meddygol a llawfeddygol yn ogystal ag ar reng flaen y pandemig ac yn fwyaf diweddar, mae hi wedi treulio amser yng ngharchar y Berwyn lle mae hi wedi bod yn rhan o'r t卯m sy'n trin y carcharorion.
Meddai Katherine: 鈥淩oeddwn wedi disgwyl i'r lle godi llawer mwy o ofn arnaf, ond roedd y t卯m gofal iechyd yn y carchar yn wych a chefais groeso mawr yno ac rwy'n teimlo'n rhan o鈥檙 t卯m.
鈥淭ra roeddwn yn y Berwyn, cafodd adroddiad ei wneud ar y gofal iechyd yno a dywedwyd ei fod yn un o鈥檙 goreuon yn y wlad i gyd.鈥
Mae hi'n cymryd mis o wyliau yn awr cyn dychwelyd i'r gwaith - ac mae ei swydd gyntaf yn 么l yn y Berwyn: 鈥淩oeddwn i wrth fy modd yno鈥, meddai: 鈥淥nd ar 么l gweld y gofal a gafodd fy mam ar ddiwedd ei hoes, buaswn yn hoffi bod yn nyrs oncoleg.鈥
Rhagor o wybodaeth am Brifysgol Bangor
听