Astudiaeth yn dangos bod yr Undeb Bancio wedi peri bod llai o risg ymhlith banciau Ewrop
Mae’r Undeb Bancio a’i fecanwaith goruchwylio bancio canolog wedi lleihau risg sector bancio Ewrop, yn ôl ymchwil newydd a wnaed o dan arweiniad Prifysgol Bangor.
Yn sgil yr argyfwng ariannol, aeth y Comisiwn Ewropeaidd ati gyda nifer o fentrau i greu sector ariannol mwy diogel i'r farchnad sengl.
Mae'r mentrau hyn yn ffurfio un llyfr rheolau i'r holl actorion ariannol yn 27 gwlad UE ac maent yn cynnwys gofynion darbodus cryfach ar gyfer banciau, gwell amddiffyniad i adneuwyr, a rheolau ar gyfer rheoli'r banciau hynny sy'n methu.
Y llyfr rheolau sengl hwn yw sylfaen yr Undeb Bancio. Mae'r Undeb Bancio yn berthnasol i wledydd ardal yr ewro. Caiff gwledydd yr UE nad ydynt yn rhan o ardal yr ewro ymuno hefyd.
Sefydlwyd yr Undeb Bancio'n swyddogol fis Tachwedd 2014, gan greu awdurdod goruchwylio newydd y Mecanwaith Goruchwylio Sengl (SSM), o dan arweiniad uniongyrchol Banc Canolog Ewrop (ECB). Ar hyn o bryd mae 117 o fanciau mewn 19 gwlad o dan oruchwyliaeth yr SSM, sef 85% o holl asedau sector bancio Ewrop gyfan. Mae'r SSM yn goruchwylio'r banciau hynny'n uniongyrchol, ond mae awdurdodau goruchwylio cenedlaethol (NSA) yn dal i oruchwylio gweddill eu systemau bancio cenedlaethol.
Eglura Yener Altunbas, Athro Bancio yn Ysgol Fusnes Bangor, "Roedd gwneud banciau Ewrop yn llai agored i risg credyd gormodol ymhlith prif amcanion polisi'r Undeb Bancio, ac roeddem am brofi pa mor effeithiol oedd y trefniant goruchwylio newydd hwn o ran cyflawni'r nod hwnnw.."
Trwy ddadansoddi sampl o 746 o fanciau Ewrop dros y cyfnod 2011-2018, bu astudiaeth Ysgol Fusnes Bangor a chydweithwyr o Brifysgol Genoa a Phrifysgol Palermo, Yr Eidal, yn ymchwilio i effaith sefydlu'r Mecanwaith Goruchwylio Sengl (SSM) ar risg credyd y banciau sydd o dan oruchwyliaeth SSM o'i gymharu â'r sefydliadau ariannol hynny sy'n dal i gael eu goruchwylio gan Awdurdodau Goruchwylio Cenedlaethol.
Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of International Money and Finance, yn dangos bod y banciau sydd o dan oruchwyliaeth uniongyrchol yr SSM yn llai agored i risg credyd na'u cymheiriad sydd o dan oruchwyliaeth genedlaethol ers sefydlu'r Undeb Bancio a chyflwyno'r SSM.
Daw ymchwilwyr Yener Altunbas ac Alessio Reghezza o Brifysgol Bangor, Giuseppe Avignone o Brifysgol Genoa, a Salvatore Polizzi o Brifysgol Palermo i'r casgliad bod y canlyniadau hyn dangos bod yr uwch oruchwyliaeth ganolog yn fwy effeithiol na'r model datganoledig yng nghyd-destun Ewrop.
Dywedodd yr Athro Yener Altunbas, "Mae alinio amcanion polisi'r awdurdodau goruchwylio yn Ewrop a'r mandad canolog y mae'r Awdurdodau Goruchwylio Cenedlaethol yn gweithredu oddi tano yn gwarantu effeithiolrwydd goruchwyliaeth y Mecanwaith Goruchwylio Sengl, ac mae'n fodd i Fanc Canolog Ewrop gyflawni ei amcanion polisi o ran lleihau risg credyd.
"Daethom i'r casgliad y gallai goruchwyliaeth bancio mwy integredig wella sefydlogrwydd a chadernid system fancio Ewrop eto fyth, gan alluogi'r sector bancio i fanteisio ar y buddion sy'n gysylltiedig â goruchwyliaeth ganolog. ”
Caiff yr astudiaeth "Centralised or Decentralised Banking Supervision? Evidence from European Banks”, Giuseppe Avignone, Yener Altunbas, Salvatore Polizzi ac Alessio Reghezza, ei chyhoeddi yn The Journal of International Money and Finance a gallwch ei gweld
I gael rhagor o wybodaeth am Ysgol Busnes Bangor, gweler bangor.ac.uk