Cyfraith a Threfn a Frasier
Ar ochr ysgafnach ysgolheictod, cyhoeddodd yr Athro Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, erthygl eleni gyda’i gyfoed, Olga Litvinova, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, am wrthdaro a chyfraith yn y gyfres gomedi Frasier.
Yma, mae pobl yn chwerthin am yr agweddau gwaethaf ar y gyfraith a chyfreithwyr, ond hefyd am ddigwyddiadau bywyd beunyddiol. Meddai’r crynodeb:
‘Mae cyfraith i’w gweld ym mhob agwedd ar fywyd. Mae pobl yn dwyn cysylltiad rhwng y gyfraith a rhai o sefyllfaoedd mwyaf fyryd eu bywydau, ac weithiau mae’r gyfraith yn eu trin yn dda. Nid yw’n syndod felly fod y gyfraith i’w gweld yn aml mewn comedïau poblogaidd. Mae yna hefyd draddodiad i wamalu awdurdodau a sefydliadau cymdeithasol, ac nid yw’r gyfraith, llysoedd a chyfreithwyr yn eithriadau. Er mwyn bod yn ddealladwy ac yn “ddoniol”, mae’n rhaid bod y gynulleidfa’n gyfarwydd â nhw. Mae comedïau poblogaidd y teledu felly yn cynnig ffenestr unigryw ar ddiwylliant cyfreithiol poblogaidd: dangosant elfennau o’r gyfraith ac agweddau ar ei natur, o ymddygiad cyfreithwyr, y gall y gynulleidfa uniaethu ag ef. Er enghraifft, mae’n bosibl bod sylw blaenorol yn y cyfryngau, rhaglenni cyfreithiol neu ffilmiau eraill, neu’n wir brofiad personol, wedi eu cyflwyno mewn modd penodol. Mae’n rhaid i’r “gyfrath” yn y cyd-destun hwn gael ei gymryd yn ei ystyr ehangaf i olygu “cyfraith fyw” (Eugen Ehrlich), sy’n golygu cynnwys rheolau an-statudol sydd wedi trefnu cymdeithas, yr hyn y mae pobl yn byw eu bywydau wrthynt. Dimensiwn pellach sy’n ei gynnig ei hun i adloniant da yw tor-cyfraith sy’n aml yn tystio i rym y rheolau, ond eu bod yn anhwylus mewn sefyllfaoedd penodol. Drachefn, patrwm sy’n cynnwys bychanu, hiwmor a Schadenfreude. Mae’r erthygl yn cymhwyso persbectif diwylliannol a sosio-gyfreithiol i bethau cyfreithiol yn un o gomedïau amlycaf yr UD, ac un a wylir gan gynulleidfaoedd rhyngwladol: Frasier(1993-2004).’
Machura, Stefan, and Litvinova, Olga (2020). Reflections of Legal Culture in Television Comedy: Social Critique and Schadenfreude in the US Series “Frasier”. International Journal for the Semiotics of Law,: Cyhoeddwyd ar-lein: 12.07.2020