Gwobrau lu yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn
O'r tri o Brifysgol Bangor ar restr fer categor茂au Saesneg a Chymraeg Llenyddiaeth Cymru, llwyddodd dau i ennill gwobrau, ac Ifan Morgan Jones yn llwyddo i gipio Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobl trwy bleidlais ar Golwg 360.
Cyhoeddwyd amser cinio ddydd Gwener 31 Gorffennaf fod Babel, nofel Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth, wedi ennill categori nofel Gymraeg Llyfr y Flwyddyn.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, dyfarnwyd Gwobr categori Barddoniaeth Saesneg Llyfr y Flwyddyn Cymru i Footnotes to Water, cyfrol o farddoniaeth gan yr Athro Zo毛 Skoulding.
O glywed y newyddion dywedodd yr Athro Skoulding:
鈥淩wyf wrth fy modd derbyn y Wobr am聽Footnotes to Water,聽ac yn gwerthfawrogi鈥檙 holl waith y mae Llenyddiaeth Cymru鈥檔 ei wneud i roi amlygrwydd i lenyddiaeth fel rhan o fywyd cyhoeddus Cymru. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd pob un o鈥檙 awduron a roddwyd ar y rhestrau byr yn y ddwy iaith yn cael darllenwyr newydd yr haf hwn. Rwy鈥檔 falch iawn hefyd o fod yn rhan o gymuned mor gref o ysgrifenwyr ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau eleni.鈥
Dywed:
"顿别肠丑谤别耻辞诲诲听Footnotes to Water聽oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu gan orffennol Bangor a manylion amdani na 诺yr llawer amdanynt, megis Afon Adda sy鈥檔 llifo o鈥檙 golwg o dan y ddinas. Sgwrs yw鈥檙 gyfrol gyda鈥檙 llefydd rwy鈥檔 eu caru ac am y llefydd hynny, ac felly rwyf wrth fy modd bod y gyfrol wedi denu鈥檙 fath sylw."
Gyda chyhoeddi鈥檙 prif enillwyr ddydd Sadwrn, dysgodd Ifan am ei lwyddiant a dywedodd:
"Mae'n anrhydedd anferth ennill gwobr mor bwysig ac rydw i'n hynod ddiolchgar i'r beirniaid am benderfynu fy mod i'n deilwng o'r brif wobr, a hefyd i bob un a bleidleisiodd o'm plaid ar gyfer gwobr Barn y Bobl Golwg360.
"Rydw i hefyd yn ddiolchgar iawn i fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor am eu cefnogaeth. Astudiais MA Ysgrifennu Creadigol yma a bu'r ymchwil a wnes i fel rhan o'm doethuriaeth yma i'r wasg Gymraeg yn yr 19eg ganrif yn greddiol i'r nofel.
"Hoffwn i hefyd ddiolch i'm teulu am eu cefnogaeth, yn enwedig fy mhartner Llinos, i'm plant Mari, Magw, Jano a Radi, a'm mam a'm rhieni yng nghyfraith am eu gofal ac am roi imi'r amser i ysgrifennu."
Hefyd ar y rhestr fer oedd Dignity, sef ail nofel Alys Conran. Enillodd y darlithydd Ysgrifennu Creadigol Alys Wobr Lyfr Saesneg y Flwyddyn yn 2017 am ei nofel gyntaf Pigeon.
Mae'r tri academydd yn cyfrannu at gyrsiau ysgrifennu creadigol yn yr Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau sydd newydd ei chreu ym Mhrifysgol Bangor.