Uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn cael eu trafod gan academyddion mewn seminar cyhoeddus
Mae uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn ddau bwnc ymysg y nifer fydd cael eu trafod gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Bangor mewn seminar cyhoeddus a gynhelir cyn hir.
Fel rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru bydd ymchwilwyr a darlithwyr o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cynnal sgwrs ar-lein am beth o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y brifysgol.
Bydd y weminar dan yr enw, 'Ymchwil ffotoneg blaengar ym Mhrifysgol Bangor' yn ymdrin 芒 phynciau fel delweddu cydraniad uwch, ynni'r haul, gweithgynhyrchu laser, laserau nano, micro-robotiaid, a chyfathrebu 5G.
Bydd Dr James Wang, o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad: 鈥淢ae gan Brifysgol Bangor enw da ledled y byd am y gwaith rydym yn ei wneud yn y maes hwn, felly mae'n wych rhannu hyn gyda busnesau yng Nghymru, myfyrwyr y dyfodol a'r cyhoedd.
鈥淯n pwnc y byddaf yn ei drafod yw'r lensys arbenigol rydym wedi eu datblygu sy'n defnyddio sidan pryfed cop.听鈥淕all y sidanau pryfed cop hyn ym myd natur, weithredu fel uwch-lensys gan gynyddu cydraniad delweddu microsgopau optegol hyd at bedair gwaith,鈥 eglurodd.
Yr ymchwilwyr eraill o Brifysgol Bangor fydd yn siarad yn y digwyddiad yw Dr Noel Bristow a Dr Jeff Kettle.听
Mae Wythnos Dechnoleg Cymru, a gynhelir rhwng 13 a 17 Gorffennaf, yn 诺yl rithwir unigryw o weminarau, gweithdai a digwyddiadau digidol sy'n arddangos ehangder, cryfder ac amrywiaeth diwydiant technoleg ffyniannus Cymru.
Cynhelir y sgwrs 'Ymchwil ffotoneg blaengar ym Mhrifysgol Bangor' ddydd Mawrth, 14 Gorffennaf am 2-3.30pm.
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o'r pynciau a drafodir a darganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth mewn amrywiaeth eang o broffesiynau, mae Prifysgol Bangor yn cynnal graddau mewn Peirianneg Electronig.
听