Clybiau a Chymdeithasau Prifysgol Bangor yn dod yn ail yn y WhatUni.com Awards 2020
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn yr ail wobr yn y categori 'Cymdeithasau a Chwaraeon' yn y WhatUni Student Choice Awards 2020. Daeth y Brifysgol hefyd yn y pedwar uchaf yn y categori Rhoi yn Ôl.   Â
Gwneir yr enwebiadau gan fyfyrwyr ac maent yn cydnabod ansawdd ardderchog profiad addysg uwch yn y brifysgol. Mae’r gwobrau dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer darpar fyfyrwyr, ac maent yn cynnig dewis arall diduedd i’r drefn draddodiadol o roi sgôr i brifysgolion. Seiliwyd y rhestr fer eleni ar dros 41,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr mewn 150 o brifysgolion ledled y DU. Â
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor: Â
"Yma ym Mangor rydym yn fwy lwcus na llawer o brifysgolion eraill, yn yr ystyr bod gennym leoliad anhygoel, gydag amrywiaeth o fannau awyr agored ar garreg y drws - un o'r nifer o bethau sy'n gwneud Bangor mor arbennig. Llongyfarchiadau i'r Undeb Myfyrwyr brwdfrydig sy'n gweithio mor galed i wneud profiad y myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor mor arbennig."  Â
Roedd y Brifysgol hefyd ar y rhestr fer yn y categori Ôl-raddedig ac mae’r Brifysgol wedi bod yn y deg uchaf mewn gwahanol gategorïau o’r WhatUni Student Choice Awards dros y blynyddoedd diwethaf.Â