Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang ar 么l Covid roi hwb i economi Gogledd Cymru
Gall ymateb yn erbyn globaleiddio yn sgil argyfwng Covid-19 roi hwb i sector gweithgynhyrchu pwerus Gogledd Cymru gyda ffyniant mewn technolegau blaengar fel argraffu 3D yn rhoi hwb i'r adferiad, yn 么l arbenigwr.
Mae darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Jones, yn rhagweld y bydd mwy o fusnesau a llywodraethau eisiau cael eu cyflenwadau yn agosach at adref wrth iddynt ddod allan o'r misoedd o gyfyngiadau symud digynsail.
Dywedodd Dr Jones, sy'n gweithio yn Ysgol Busnes enwog y brifysgol, y gall treftadaeth ddiwydiannol Gogledd Cymru ei gosod mewn sefyllfa berffaith i fanteisio ar dechnolegau'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol sy'n datblygu'n gyflym wrth i'r wlad a'r byd newid.
Mae'r rhain yn cynnwys Deallusrwydd Artiffisial, roboteg, Rhyngrwyd Pethau, cerbydau awtonomaidd, argraffu 3D, nanodechnoleg, biotechnoleg, gwyddor deunyddiau, storio ynni, a chyfrifiadura cwantwm.
Meddai: 鈥淢ae uno'r technolegau hyn a鈥檜 rhyngweithiad ar draws y meysydd ffisegol, digidol a biolegol yn gwneud y chwyldro diwydiannol hwn yn wahanol i鈥檙 rhai a welwyd o鈥檙 blaen.
鈥淢ae dadansoddiad gan Ysgol Busnes Bangor wedi dangos bod y clystyrau gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru ymhlith y rhai mwyaf cystadleuol ym Mhrydain am greu swyddi gweithgynhyrchu newydd.
鈥淕all y ddealltwriaeth a鈥檙 profiad blaenorol hwn weithio er ein mantais wrth i ni ddod allan o鈥檙 argyfwng economaidd a achoswyd gan y pandemig a chroesawu'r technolegau newydd hyn.
鈥淢ae'r sgiliau gweithgynhyrchu, gwybodaeth, profiad a diwylliant priodol eisoes yn gryf yng Ngogledd Cymru ac felly gallent addasu i weithgareddau fydd yn dod adref fel rhan o'r ymgyrch dros hunanddibyniaeth.聽Gall symud i ffwrdd oddi wrth gadwyni cyflenwi byd-eang fod yn gatalydd i ddatblygu'r sector gweithgynhyrchu ac ysgogi economi Gogledd Cymru.
鈥淒im ond wyth y cant o weithlu Prydain a gyflogwyd ym maes gweithgynhyrchu yn 2018, o gymharu ag 11 y cant yng Nghymru.聽Ond yng Ngogledd Cymru, roedd y gyfran hon hyd yn oed yn uwch ar 14 y cant ac mae wedi bod ar y lefel hon yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach.鈥
Mae Dr Jones yn disgwyl i lawer o lywodraethau a chwmn茂au鈥檙 Gorllewin roi terfyn ar y degawdau o globaleiddio a thynnu'n 么l o gontractau cyflenwi allanol a gwasanaethau cwsmeriaid i ddarparwyr filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Yn hytrach mae'n credu y bydd newid mawr wrth i berchnogion cwmn茂au yn y DU chwilio am brosesau cynhyrchu mwy hunanddibynnol, naill ai'n fewnol neu'n agosach yn ddaearyddol at eu busnesau craidd.聽聽
Mae'n rhagweld y bydd llawer hefyd yn troi at dechnoleg a ddatblygwyd fel rhan o'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, megis dulliau cynhyrchu argraffwyr 3D a ddangoswyd gan broject cymunedol diweddar yn Wrecsam gyda dros fil o feisorau diogelu ar gyfer staff rheng flaen y GIG yn cael eu cynhyrchu ar argraffwyr 3D, a sefydlwyd mewn ysgol.聽Mae canolfannau gweithgynhyrchu 3D eraill ledled y rhanbarth, gan gynnwys M-SParc, Bangor, Caernarfon, Rhyl a Glannau Dyfrdwy.
Meddai Dr Jones:聽 鈥淢ae鈥檙 rhanbarth mewn sefyllfa well na llawer i neidio n么l o鈥檙 effaith economaidd a gafwyd yn sgil y pandemig Coronafirws.聽
鈥淕all Gogledd Cymru hyd yn oed helpu i ddechrau cyfnod newydd o weithgynhyrchu gan ei bod eisoes mewn sefyllfa gref iawn o ran ei sylfaen weithgynhyrchu.鈥
Tynnodd sylw at draddodiad hir y diwydiannau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth, sy'n golygu bod yr adnoddau hanfodol yma o hyd a gweithlu sydd 芒'r sgiliau cynhenid sydd eu hangen i gwrdd ag unrhyw alw yn y dyfodol am ganolfannau cynhyrchu mwy lleol.
鈥淭rwy gyfuno hyn gyda'r technolegau newydd, megis prosesau cynhyrchu argraffwyr 3D, sydd wedi datblygu yng ngogledd Cymru, rydym mewn sefyllfa wych i symud ymlaen wrth i amodau'r pandemig wella,鈥 meddai.
Ychwanegodd Dr Jones: 鈥淵n ystod yr argyfwng cenedlaethol rydym eisoes wedi gweld ffyniant bach mewn technoleg argraffu 3D gyda rhai gweithgynhyrchwyr yn y maes hwn yn cael eu hannog i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol.聽
鈥淢ae hwn yn ddatblygiad sylweddol sydd wedi tynnu sylw at dechnoleg argraffu 3D. Cyn y pandemig roeddem ar gyrion allanol cynhyrchu argraffu 3D ond nawr rwy'n credu y gwelwn lawer mwy o alw am y system chwyldroadol hon mewn amrywiaeth eang o wahanol feysydd."
Dywedodd fod Gogledd Cymru yn ffodus i gael arweinwyr yn y maes yn yr ardal, gan ychwanegu: 鈥淩wy'n credu yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod y byddwn yn gweld y dechnoleg hon yn datblygu.鈥
Gwnaeth ei sylwadau yn dilyn y gwaith a wnaed yn y misoedd diwethaf i siapio'r hyn a ddaw nesaf i economi Cymru mewn byd ar 么l Covid-19.
Mae economegwyr wedi bod yn gweithio gydag epidemiolegwyr i ddatblygu rhagolygon economaidd, sy'n tynnu sylw at y berthynas rhwng ein ffyniant economaidd yn y dyfodol a'r llwyddiant yn trin y firws.聽聽
Meddai Dr Jones:聽 鈥淵n anffodus, nid ydym yn gwybod llawer am y coronafirws newydd hwn ac mae hyn yn gwneud y dasg o ragweld cyfeiriad yr economi yn anodd iawn.鈥
Cyfaddefodd y bydd rhwystrau ac anawsterau wrth i'r rhanbarth a'r genedl weithio i oresgyn y dirywiad, yn enwedig o gofio bod y cylchgrawn The Economist wedi rhagweld yn ddiweddar y gall masnach nwyddau'r byd ostwng 10 y cant i 30 y cant eleni.聽
Ond dywedodd fod yna resymau dros fod yn obeithiol ac mae'n bwysig peidio 芒 syrthio i'r trap o ddisgwyl i'r dyfodol fod yn dywyll heb unrhyw oleuni ar y gorwel.
Ychwanegodd: 鈥淵n ystod y degawdau diwethaf mae gweddill Prydain wedi gweld dirywiad mewn gweithgareddau gweithgynhyrchu, ond ni ellir dweud yr un peth am Ogledd Cymru.
Gan ddefnyddio data鈥檙 Gofrestr Busnes a鈥檙 Arolwg Cyflogaeth rhwng 2015 a 2018, mae ymchwil gan Dr Jones wedi dangos bod rhanbarthau Gogledd Cymru ymhlith y mwyaf cystadleuol yn y DU o ran creu swyddi gweithgynhyrchu.聽Mae Sir y Fflint yn yr 20% uchaf o ranbarthau'r Deyrnas Unedig o ran cystadleurwydd.
Meddai: 鈥淯n peth sy鈥檔 sicr yw bod globaleiddio - y broses lle mae鈥檙 byd yn dod yn fwy cydgysylltiedig o ganlyniad i gynnydd aruthrol mewn masnachu rhwng gwledydd - mewn trafferth.
鈥淵n ystod y cyfnod gor-globaleiddio rhwng 1990 a 2008 bu cwmn茂au鈥檔 trefnu cynhyrchu gan ddefnyddio cadwyni gwerth byd-eang trwy adleoli cynhyrchu i wledydd cyflogau isel.聽Datblygodd Tsieina i fod yn ffatri'r byd ac agorwyd ffiniau i bobl, nwyddau, a chyfalaf a gwybodaeth.
鈥淔odd bynnag, roedd y system fasnach agored a oedd wedi dominyddu economi鈥檙 byd ers degawdau eisoes wedi鈥檌 niweidio gan argyfwng ariannol 2008 a'r rhyfel masnach rhwng Tsieina a'r Unol Daleithiau.聽聽
鈥淢ae globaleiddio bellach yn gwegian o'r trydydd ergyd wrth i'r cyfyngiadau symud gau ffiniau a tharfu ar fasnach.聽Mae cau ffatr茂oedd a siopau wedi achosi cwymp mawr mewn galw聽 ac atal cyflenwyr rhag cyrraedd cwsmeriaid.聽Ni achoswyd newid drwy'r byd ond mae'r effaith gyffredinol yn fileinig.
鈥淲rth i econom茂au ailagor, bydd gweithgareddau鈥檔 adfer ond ni ddylem ddisgwyl y byddwn yn dychwelyd yn gyflym i fyd diofal lle gellir symud yn ddilyffethair a chael masnach rydd.聽 Rydym yn debygol o fyw gyda Covid-19 am amser hir, a bydd angen i economi'r dyfodol adlewyrchu hyn.聽
鈥淥 amgylch y byd, mae barn y cyhoedd yn symud i ffwrdd oddi wrth globaleiddio.聽 Mae pobl wedi cael eu cythryblu i weld bod eu hiechyd yn dibynnu ar ffrae i fewnforio cyfarpar diogelu, ac ar y gweithwyr mudol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ac yn cynaeafu cnydau.
鈥淣i fydd sefyllfa lle roedd gwledydd y Gorllewin yn ciwio i fidio'n erbyn ei gilydd am gyfarpar diogelu personol o Tsieina yn cael digwydd byth eto.
鈥淢ae'r ymgyrch i ddod 芒 chadwyni cyflenwi yn 么l adref yn enw gwytnwch yn cyflymu.聽Mae'r ras am hunanddibyniaeth economaidd wedi cychwyn.鈥
Mae'n rhagweld y bydd cadwyni cyflenwi'r byd yn cael eu torri'n ddramatig, yn mynd yn llai helaeth, ac yn llawer agosach at adref - cyfle diddorol i Gymru a'r Gogledd yn benodol gyda'i hanes o ddatblygu clystyrau diwydiannol sydd wedi ei helpu trwy gyfnodau anodd yn y gorffennol.