Dathliadau Graddio Ar-lein
Er mwyn helpu myfyrwyr i ddathlu graddio, yr ydym wedi creu adnoddau sy'n cynnwys cefndiroedd Zoom y gellir eu lawrlwytho, sticeri a hidlydd i'w defnyddio yn nathliadau ar-lein ein myfyrwyr.
Trwy weithio gyda Dr Llyr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, rydym wedi datblygu hidlydd graddio realiti estynedig ar Instagram fel bod graddedigion Bangor yn gallu dathlu a rhannu鈥檙 garreg filltir bwysig hon gyda llun graddio rhithwir. Gallwch hyd yn oed recordio fideo ohonoch eich hun yn dathlu o flaen cefndiroedd eiconig fel Prif Lyfrgell y Celfyddydau, y cwad neu'r Fenai.
Gallwch ddod o hyd i'n hidlydd graddio trwy ymweld 芒'n proffil (ar ddyfais symudol) a phwyso'r eicon wyneb hapus.
Mae鈥檙 cefndiroedd Zoom ar gael yma.
Mae ffr芒m lluniau proffil graddio newydd ar gael i Facebook hefyd, lle gall myfyrwyr ychwanegu ffr芒m 'Wedi graddio o Fangor' at eu llun proffil. Gellir dod o hyd i'n sticeri trwy chwilio am 'Brifysgol Bangor' ar unrhyw lwyfan sy'n cefnogi GIPHY (e.e. straeon Instagram a Facebook a Snapchat).
Cofiwch ddefnyddio鈥檙 hashnod #Bangor2020 a thagio'r Brifysgol yn eich negeseuon fel y gellir eu rhannu.