Golygu cyfrol newydd
Rhannwch y dudalen hon
Llongyfarchiadau i ddau aelod o staff Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Dr Owain Wyn Jones a Dr Rebecca Thomas, ar gyd-olygu’r gyfrol newydd The Chronicles of Medieval Wales and the March[:] New Contexts, Studies and Texts.
Bwriad y gyfrol yw cynnig astudiaethau newydd a golwg ffres ar groniclau Cymru a’r Gororau yn yr Oesoedd Canol. Ynghyd â’r astudiaethau hyn, cynhwysir pum golygiad o gyfieithiadau testunau anadnabyddus a luniwyd yn wreiddiol mewn Lladin a Chymraeg Canol.
Yn ddiau, mae’n gyfraniad sylweddol a phwysig i faes astudiaethau hanesyddol y Canol Oesoedd.